Stuart Cable
Roedd e'n drist iawn clywed am farwolaeth Stuart Cable. Ar ôl cychwyn yn Tragic Love Company nath droi mewn i'r Stereophonics, ffeindio enwogrwydd gyda'r band a teithio o amgylch y byd, nath Stuart fynd mlaen i gael llwyddiant fel darlledwr a gyda'i fand newydd Killing for Company.
Nes i ddim cwrdd a neb gyda gair drwg i ddweud am Stuart Cable. Roedd e wastad yn barod am sgwrs, wastad yn ddoniol. Ro'n i'n cyffroi pan o'n i'n ei weld e yn y BBC yng Nghaerdydd, lle roedd e'n cyflwyno ei raglenni radio, achos roedd e wastad yn bleser ei weld e, a fydde eich dydd yn cael eu gyfoethogi os oeddech chi'n siarad ag e.
Roedd ei gariad tuag at gerddoriaeth roc, at Gymru, at bobl a tuag at fywyd yn heintus.
Bydd colled mawr ar ei ôl e.

Y newyddion diweddaraf am gerddoriaeth, gigs, artistiaid a mwy gan griw C2.