« Blaenorol|Hafan|Nesaf »

Gwenno o'r Pipettes

Huw StephensHuw Stephens|14:25, Dydd Mawrth, 4 Mai 2010

Nos Lun Mai 10 ar fy rhaglen ar C2 fydd Gwenno Saunders o The Pipettes yn westai. Mae'r band wedi teithio'r byd, rhyddhau albym ar label enfawr a chreu enw iddyn nhw eu hunen gyda pop retro perffaith,

Yn ddiweddar, mae newidiadau wedi bod yn y band, a nawr dim ond dwy ferch sy'n canu (roedd tair ar y dechrau, wedyn nath Gwenno ymuno ar ôl i un adael). Y ddwy yw Gwenno a Ani Saunders, chwiorydd o Gaerdydd. Es i weld nhw a'r band yn ddiweddar mewn gig yn Llunden, ac roedd y lle yn orlawn, pawb yn cofio geiriau'r caneuon cynnar ac yn hoff o'r tiwns newydd. Mae ganddynt albym newydd allan yn fuan; Earth vs The Pipettes ar label Fortuna Pop, sydd yn llawn caneuon gafaelgar, pop mawr. Fydd dwy gân newydd ar y rhaglen nos Lun .

pipettes.JPG

Mae Gwenno wedi cael gyrfa amrywiol. Roedd hi ar Pobl y Cwm. Fuodd hi'n ddawnswraig gyda Michael Flatley yn Lord of the Dance. Nath hi ryddhau cerddoriaeth unigol ar label Sain. Mae hyn i gyd yn dangos yn amlwg fod hi'n dalentog tu hwnt, ac mae ei ymroddiad a'i dealltwriaeth o The Pipettes a beth ma nhw am wneud gyda'u cerddoriaeth yn ysbrydoledig.

Cofiwch diwnio mewn nos Lun nesa am 10pm!