« Blaenorol|Hafan|Nesaf »

Ffasiwn a Gwleidyddiaeth

Categorïau:

Criw C2Criw C2|15:03, Dydd Iau, 13 Mai 2010

Arbennigwraig ffasiwn C2, Lowri Price, sydd wedi bod yn blogio i ni draw yn Efrog Newydd:

Wrth i'r newyddion dorri fod Gordon Brown wedi ymddiswyddo ac y bydd yna lywodraeth Geidwladol wrth y llyw ym Mhrydain yn fuan iawn bydd sylw sawl un yn troi at y teulu newydd fydd yn byw yn rhif 10. Ond nid posibeiliada' gwleidyddol David Cameron sydd yn fy nghyffroi i, yn hytrach posibeiliada' ffasiynol ei wraig Samantha!

Does dim dianc yn America rhag poblogrwydd yr Obamas ac mae steil clasurol chic Michelle yn cael ei efelychugan sawl un ar y stryd gan ei bod hi'n aml yn siopa ar y stryd fawr, felly mae modd efelychu ei steil yn union. Nid Michelle yw'r wraig cynta i wleidydd sydd wedi creu argraff oherwydd eu steil, cafodd Jackie O'Kennedy ei labelu yn eicon ffasiwn ers tro gyda'i steil unigryw.

Mae rhai yn cyfeirio at wleidyddiaeth fel 'Show Business for Ugly People!' ond ers tro rwan mae merched sydd yn gysylltiedig a gwleidyddiaeth wedi cael sylw gan y wasg ffasiwn. Mae Carla Bruni yn aml i'w gweld yn y tudalenau cylchgronau ffasiwn wythnosol megis Grazia, ac yn 2007 roedd Mrs Cameron ei hun i'w gweld ar glawr cylchgrawn Harpers Bazzar.

Roedd yma llawer o son hefyd am y gwariant a wnaethpwyd gan Sarah Palin ar ffasiwn yn ystod y ras wleidyddol yn America yn 2008, ac yn fwy diweddar cynhalwyd 'shoot' lluniau o 'First Wives' y byd, a gafodd ei argraffu yn y Vogue Prydeining fis Mehefin (2009).

Clicia ar y linc yma i weld llun y photoshoot Vogue 'First Wives' Mehefin 2009.

Pa ots am ffasiwn os wyt ti'n y byd gwleidyddiaeth medda chi? Wel mae hi'n holl bwysig edrych yn dda os wyt ti'n ffigwr yn llygaid y cyhoedd - druan o Mrs Blair ar ei bora cynta yn rhif 10 yn agor drws i dderbyn tusw o flodau, a hithau yn ei gwn-nos a thraed ei slipars, ddim yn sylweddoli y bydda yna domen o paparazzi y tu allan! Ddim yr argraff cychwynol oedd hi wedi ei obeithio debyg!

Efallai ei fod o yn feddylfryd hen-ffasiwn mewn ffordd ond mae'n dal yn berthnasol - mae yna ddyletswydd ar ferch i gynrychioli ei gwr, ac yn yr achos yma - ei phlaid a'i gwlad, ac mae y ffordd mae rhywyn yn gwisgo yn rhan allweddol o hyn.



Fedrwn ni rwan 'mond edrych i'r dyfodol a gobeithio y gwneith Samantha Cameron ddim ein siomi!

Lowri xx