Dysgu i fod yn 'cheerleader'...
Helo ers tro - dyma fi yn blogio..
Wedi bod yn brysur brysur dros yr wthnose dwetha - rhwng Brwydr y Bandiau Mentrau Iaith Cymru, C2 Radio Cymru (llongyfarchiadau mawr iawn iawn i'r band buddugol Yr Angen o Abertawe - roedden nhw yn anhygoel ac yn fois hyfryd!), a pharatoi ar gyfer Steddfod yr Urdd, gwylie'r haf a chyflywno rhaglenni nosweithiol - sa i di cael lot o gyfle i sgwennu. Sori!
Rhwng yr holl waith dwi hefyd wedi bod yn brysur yn mwynhau fy hun ar benwythnos iâr yn Brighton gyda fy ffrindie ysgol o Bontypridd. Dwi hanner y ferch 'o ni ar ol treulio 3 noson yn dawnsio, canu a dysgu sut i fod yn "cheer-leader".... O ni fel cymeriade mas o Degrassey Junior High neu 90210. Ond mewn wigs pinc.
Os ych chi'n gweld llunie ohonai ar face book - plis gadewch i fi wbod achos dwi ddim yn aelod o'r teulu hapus hwnnw - felly allai ond dychmygu pa fath o erchyllderau ffortograffic sy'n cuddio mewn corneli tywyll ar y we. Fi fydd yr un mewn wig pinc, siorts amryliw a'r teits blodeuog. Ac odd hwna cyn ifi newid mewn ir gwisg ffansi!
Wedi blino'n lân ar ol yr holl waith a phartio diweddar ond fel mae fy mam - Ma Dodd yn dweud - "Elli di gysgu pan 'ti di marw Mag...". Ma hi'n roc-a-roll iawn fel ellwch chi ddychmygu. Ma hi fel Sharon Ozbourne Pontypridd...
Felly, sori am fod mor ddiethr ar y blog - ond dwi'n addo sgwennu'n fwy aml. Wel - dwi'n addo trio beth bynnag!
Magi x

Y newyddion diweddaraf am gerddoriaeth, gigs, artistiaid a mwy gan griw C2.
SylwadauAnfon sylw
Treuliais flwyddyn yn Mhrifysgol yn yr Unol Daleithiau 15 mlynedd yn ol a cheisio am y tim cheerleading. Llwyddais gan fod prinder aruthrol o ddynion oedd yn barod i wneud ffyliaid ohono'u hun yn y fath modd. Profiad diddorol i ddweud y lleiaf, yn enwedig gorfod gwisgo siorts naeth peri i un o'r torf cwyno yn swyddogol yn eu cylch!