Llongyfarchiadau i Abertawe - enillwyr Cwpan Capital One
Llongyfarchiadau i Abertawe - enillwyr Cwpan Capital One, ac am gymhwyso i gystadlu ar lwyfan Ewrop.
Cyn mynd dros ben llestri, ac yn groes i adroddiadau'r wasg yn Lloegr, nid dyma fydd y tro cyntaf i dîm o Gymru gystadlu ar lwyfan Ewrop!
Mae Abertawe ynghyd a Wrecsam, Caerdydd, Casnewydd, Bangor, Borough United a nifer o dimau eraill a enillodd Gwpan Cymru eisoes wedi cael y profiad. Yn wir llwyddodd Caerdydd i chware yn erbyn Real Madrid yn ôl yn 1971.
Mae timau o fewn Uwchgynghrair Cymru hefyd wedi bod yn cystadlu yn Ewrop yn gyson am dros ugain mlynedd.
Ond ni ddylai hyn dynnu oddi ar lwyddiant y Swans - buddugoliaeth swmpus, yn creu record newydd drwy ennill o bum gol i ddim yn y ffeinal, a hefyd yn creu record fel y tîm cyntaf i gynrychioli dwy wlad ( sef Cymru a Lloegr) ar y cyfandir!
Bu Abertawe yn cynrychioli Cymru, dros saith tymor rhwng 1961 ac 1991 ond ni wnaethpwyd mawr o argraff dros y sianel, gyda cholled o wyth gol i ddim draw ym Monaco, yn eu gem olaf yn 1991. Rhywsut fe allai feddwl y bydd yna lawer gwell i'w ddisgwyl gan y tîm y tymor nesaf wrth deithio dros y sianel.
Tydi creu sefyllfa unigryw ddim yn newydd i Abertawe chwaith. Fe lwyddon nhw i greu hanes wrth fod y tîm cyntaf o'r tu allan i brif gynghreiriau Lloegr i guro un o'r cewri.
Yn ôl yn 1915, wedi dechrau'r Rhyfel Byd gyntaf ym mis Awst 1914, roedd y tymor peldroed wedi cychwyn, gan mai'r gred oedd y byddai'r rhyfel wedi dod i ben erbyn y Nadolig.
Wrth gwrs nid felly y bu, ac er bod llawer yn ystyried y gêm fel rhywbeth i gadw diddordeb y cyhoedd oddi wrth y rhyfel, newidiwyd y ddelwedd wrth i filoedd ar filoedd o deuluoedd sylweddoli nad oedd eu hanwyliaid am ddychwelyd o'r ffosydd a'r brwydro.
Yn erbyn y cefndir yma o ddadrith, daeth llawer o bobol i ystyried peldroedwyr nad aeth i ryfel fel llwfrgwn, ac mae'r agwedd a'r cefndir yma wedi cael effaith fawr ar ddistawrwydd ac anhysbysrwydd y stori am un o lwyddiant mwyaf Abertawe.
Wynebodd Abertawe, a gafodd eu ffurfio fel clwb yn 1912, gewri a phencampwyr yr Adran Gyntaf, Blackburn Rovers yng Nghwpan Lloegr ar gae'r Vetch ar y nawfed o Ionawr 1915.
Tîm yng nghynghrair De Lloegr, oedd Abertawe, a d'oedd yr un tîm o'r tu allan i'r ddau brif gynghrair beldroed Lloegr, erioed wedi llwyddo yn erbyn cewri'r gêm, ac felly d'oedd neb wedi rhoi unrhyw obaith i Abertawe.
Fodd bynnag gyda'r blaenwr ifanc Benny Beynon yn sgorio unig gol y gêm, fe greodd Abertawe hanes, gan agor y drws ar gyfer rhamant a chanlyniadau annisgwyl y dyfodol.
Tybed sut fydd y cefnogwyr pybyr Cymreig yn ymdopi a'r ffaith y bydd eu hoff Elyrch yn cynrychioli Lloegr draw yn Ewrop y tymor nesaf? Hwyrach y bydd angen troi unwaith ato at y ddelwedd o Swanselona - a gweld sut mae clwb Barcelona wedi creu delwedd berffaith o Catalwnia wrth chwarae dros Sbaen ar hyd a lled Ewrop.
Dyma gyfle Abertawe felly i wneud eu marc yn rhyngwladol ac i gyfrannu tuag at ehangu Cymreictod ar ddrws y byd peldroed, yn union fel ac y gwnaeth Barca dros y blynyddoedd a gwneud eu rhan hwy i hybu Catalaneg a diwylliant balch eu hardal.
Diolch i bawb a ddaeth heibio pwynt darlledu Ar y Marc y tu allan i Wembley brynhawn Sul - da oedd eich cyfarfod a chael eich cyfraniadau.
Trin a thrafod y byd pêl-droed yn ffordd unigryw criw 