Cei Conna yn profi problemau cofrestru chwaraewyr
Ymddengys mai Caerfyrddin sydd yn cael y chweched safle Uwchgynghrair Cymru ar ôl y gyfres gyntaf o gemau - wedi I bwynt gael ei ddiddymu oddi ar Gei Conna am iddyn nhw ganiatau i chwaraewr ymddangos mewn gem drostynt, pan nad oedd yn gymwys I wneud hynny.
Y wers, mae'n debyg, ydi fod angen i bob clwb sicrhau i bwy mae eu chwaraewyr wedi chware drostynt cyn arwyddo ffurflen drosglwyddo. Ond haws deud na gwneud yn ôl pob son.
Ymddengys fod y wybodaeth ganolog a geir gan y Gymdeithas Beldroed yn arf gynghorol yn hytrach nac arweiniad cadarn - a hyn mewn oes sy'n dibynnu'n feunyddiol ar adnoddau technolegol.
Allai ddim credu nad ydi'n bosib i gadw cofnod electroneg swyddogol yn ganolog.
Ond tydi enghraifft Cei Conna o fethu ac adnabod cefndir chwaraewr ddim yn stori unigryw. Cyn pwyntio bys a chyhuddo pobol o fod yn ddi-drefn, ystyriwch y digwyddiad yma o'm dyddiau gyda Threffynnon yn Uwchgynghrair Cymru.
Penderfynais arwyddo blaenwr nad oedd yn cael fawr o gemau gan glwb yn yr Uwchgynghrair. Gwnaethpwyd popeth yn ôl y rheolau cyn ei arwyddo ar ffurflen drosglwyddo swyddogol.
Roedd chwaraewr yn cael arwyddo i ddau dîm o wahanol gymdeithasau o fewn Cymru'r adeg hynny, ac roedd eisoes ar lyfrau ei dim amatur lleol yn agos at ei gartref.
Felly wrth drosglwyddo i Dreffynnon, fe ddaethom yn ail glwb iddo.
Anghywir!
Ymddengys fod y chwaraewr wedi cael ei gofrestru gan y clwb ble roedd yn symud ohono, ar ffurflen eu hail dim a oedd yn chwarae mewn cynghrair leol.
Ond ni chafwyd unrhyw wybodaeth am hyn yng nghyd-destun y trosglwyddo.
Felly, ni ddaeth Treffynnon yn ail dim i'r gŵr yma, ond yn drydydd - sef ei dim lleol, ac ail dim ei gyn clwb, ac yna Threffynnon!
Daeth hyn i sylw rhai swyddogion peldroed ac fe ddaethpwyd a'r sefyllfa i sylw Treffynnon. Bu cryn stŵr, ac ni chwaraeodd y gŵr unrhyw gêm heb i'r helynt gael ei datrys.
Ond yn y diwedd, daethpwyd i'r canlyniad y dylai ei gyn clwb fod wedi ymddwyn yn fwy parchus a sicrhau trosglwyddiad cyfan. Doedd dim trefn dechnolegol yn bodoli'r adeg hynny, a hawdd oedd ymddwyn yng nghwrtais a dan dîn hyd yn oed.
Roeddwn wedi dod i gredu fod methu a darganfod cefndir chwaraewr wedi dod i ben, ond yn anffodus mae'n amlwg yn parhau.
Tra mae Cymdeithas Beldroed Cymru yn trefnu cyrsiau ar gyfer cymhwyso a gwella safon hyfforddwyr onid yw'n amser i drefnu cyrsiau i weinyddwyr clybiau er mwyn sicrhau gwell dealltwriaeth o'u dyletswyddau?
Byddai hyn yn cyfrannu tuag at osgoi'r sefyllfa a ddigwyddodd fis yn ôl i Gei Conna drwy fabwysiadu a gweithredu yn ôl arwyddair y gymdeithas, sef 'gorau chwarae; cyd chwarae'?
Trin a thrafod y byd pêl-droed yn ffordd unigryw criw 