Hanner ffordd Uwch Gynghrair Cymru
Hanner ffordd drwy dymor Uwch Gynghrair Corbett Sports yng Nghymru a threfn yr ail hanner, gyda safleoedd y chwech uchaf, a'r chwech isaf yn eu lle, ar ôl i ddwy gêm ar hugain gael eu chwarae gan bob tîm. Wel. Ddim cweit!
Ymddengys fod problem wedi codi sy'n effeithio ar bwy a fydd y tîm a gaiff hawlio'r chweched safle.
Cafwyd datganiad gan yr Uwchgynghrair yn dweud fod Panel Disgyblu Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi dyfarnu bod Gap Cei Conna'n euog o chwarae chwaraewr anghymwys.
Penderfynodd y panel dynnu un pwynt oddi ar Gap Cei Conna yn yr Uwchgynghrair ( ynghyd a gosod a dirwy o £250 iddynt) am y drosedd o chwarae Lee Davey fel eilydd hwyr yn eu gêm yn erbyn Caerfyrddin ar y pumed o Ionawr.
'Roedd Davey eisoes wedi chwarae dros Fae Colwyn a Chonwy'r tymor hwn, a thra bod ganddo berffaith hawl i gofrestru i Gap Cei Conna - nid oedd ganddo'r hawl chwarae i dri thîm gwahanol yn ystod yr un tymor.
Mae gan Gap Cei Conna'r hawl i apelio yn erbyn y penderfyniad o fewn saith diwrnod gweithiol i'r cyhuddiad gan banel y Gymdeithas Beldroed.
Wythnos ddiddorol felly, a digwyddiad eironig gan mai Caerfyrddin a fyddai'r tîm a fydd yn elwa, ac yn codi uwchben Cei Conna i'r chweched safle os caiff penderfyniad y Gymdeithas Beldroed ei ategu.
Ond, rhaid gofyn - mewn oes sydd mor ddibynnol ar dechnoleg gyfoes mewn cymaint o agweddau, pam nad ydi'n bosibl i unrhyw dim, wrth gofrestru chwaraewr, ddefnyddio trefn gyfrifiadurol / dechnegol i ddarganfod drwy system ganolog, os ydi chwaraewyr wedi arwyddo i dimau eraill, ac i faint?
Petai trefn o'r fath yn bodoli, pur anhebyg y byddai problem Cei Conna wedi codi. Os oes trefn debyg yn bodoli, yna rhaid gofyn pam na ddefnyddiodd y clwb y drefn i wirio cymhwystra chwaraewr cyn ei gofrestru, gan adael iddo ddod ar y cae yn y gêm yn erbyn Caerfyrddin.
Sefyllfa anfoddhaol sydd yn awgrymu nad oes fawr o gydweithio yn effeithiol fel parterniaeth rhwng aelodau neu gymdeithasau ardaoledd y gêm yng Nghymru. Siawns na ellir gwneud defnydd effeithiol o dechnoleg gyfrifiadurol gyfoes, ynghyd a strategaethau partneriaethau er mwyn sicrhau gwelliant parhaus er lles delwedd cenedlaethol a lleol, ynghyd a lles y clybiau, y chwaraewyr a'r cefnogwyr.
Trin a thrafod y byd pêl-droed yn ffordd unigryw criw 