Pob lwc i'r Elyrch
Nos Fercher nesaf, bydd Abertawe yn wynebu Chelsea ar y Liberty yn ail gymal rownd gyn derfynol Cwpan Capitol One. Gyda'r Elyrch ddwy gol ar y blaen, mae eu siawns o gyrraedd Wembley yn un uchel iawn.
Bradford neu Aston Villa fydd yn chwarae yn y gêm arall - a siawns na all Abertawe gael cyfle gwell i gipio'r gwpan.
Ond, a all hyn greu anesmwythder a phroblemau?
Mae'n eithaf clir fod yna nifer fechan o gefnogwyr sydd yn gweld y Swans fel Y tîm y dylid POB Cymro ei ddilyn.
Bydd enillwyr Cwpan Capital One yn cael chwarae yn Ewrop y tymor nesaf - fel un o gynrychiolwyr Lloegr yng nghwpan Ewropa.
Tybed be fydd agwedd y Cymry hynny sydd yn ymfalchïo yng Nghymreictod Abertawe?
A fydd yna glybiau o Loegr yn cwyno fod tîm o Gymru yn cael lle yn Ewrop? Ond dwi'n siwr fod bron iawn pawb ohonom yn dymuno'r gorau i'r Elyrch yn eu gem nesa, ac y cawn nhw fwrw mlaen yn eu hymgyrch yng nghystadleuaeth y Gwpan.
Yn y cyfamser. Mae'n dod at hanner amser yn Uwchgynghrair Cymru - gyda'r Seintiau Newydd ar y brig A fydda nhw ar y brig ar ddiwedd y tymor, neu a fydd Prestatyn yn parhau i'n synnu a Bangor yn ail afael a darganfod eu doniau? Ydi Airbus yn ddigon da i hedfan uwch y gweddill?
Dwi o'r farn mai'r Seintiau fydd yn cipio'r Uwchgynghrair ac yn camu ymlaen i Ewrop unwaith eto, a hwyrach y gwelwn ddau dîm, sef y Seintiau ac Airbus yn cynrychioli Cymru ar y cyfandir ( sef dau dîm wedi eu selio ar ddiwydiant yn hytrach na chymuned - ai dyma'r dyfodol?).
Felly - tîm o Gymru yn cynrychioli Lloegr a thîm o Loegr yn cynrychioli Cymru ?
Ble arall ond yng Nghymru?
Oes 'na ymateb? Dim ond gofyn!
Trin a thrafod y byd pêl-droed yn ffordd unigryw criw 