Wyn Davies - "The Footballer Who Could Fly"
Faint ohonoch chi gafodd lyfr peldroed fel anrheg dros y Nadolig?
Tydi'r Nadolig ddim yr un fath i gefnogwr heb lyfr newydd nad ydi! Wel, do mi ges i un hefyd.
Cyhoeddwyd 'The Footballer Who Could Fly' ym mis Awst y llynedd, ac mae'r teitl ynddo'i hun yn tynnu sylw. Wrth ddod i ddeall pwy ydi'r peldroediwr sy'n gallu hedfan, mae'r llyfr yn gwella wrth yr eiliad.
Cafodd yr awdur - Duncan Hamilton, ei fagu yn Newcastle, a'i fagu fel cefnogwr brwd o'r clwb. Ond mae'r llyfr yn fwy nac amlinelliad o hanes y clwb.
Ceir atgofion o'r gorffennol, a'r atgofion hynny sydd yn cael eu magu a'u gwarchod gan mai yng nghwmni ei Dad, a oedd yn gweithio yn y pwll glo lleol, aeth Hamilton i'r gemau yn ei blentyndod. Ynghanol yr atgofion, am gewri'r gorffenol, Jackie Milburn, Bobby Charlton, Duncan Edwards ac eraill, mae Hamilton yn portreadu'n llwyddiannus y cwlwm o agosrwydd sy'n bodoli rhwng tad a mab a sut y gall dau berson, sydd yn hollol wahanol i'w gilydd, rannu'r un cariad at beldroed.
Mae'r llyfr wedi llwyddo yn glir i uno'r trindod pwysicaf ym mywyd dyn - sef y Tad , Y Mab a pheldroed!!
Ceir ynddo disgrifiadau am ba mor bwysig oedd Cwpan Lloegr i gefnogwyr, perchnogion clybiau a chwaraewyr pan oedd uchafbwynt wedi ei osod ar gyflogau chwaraewyr.
Tydi'r llyfr ddim yn portreadu prydferthwch rhyw oes a fu yn unig - ceir hanes Brian Clough, Jim Baxter a hefyd Bill Shankly yn ogystal â gemau bythgofiadwy.
Aiff ymlaen i gymharu'r rhain a gallu sêr y presennol megis Lionel Messi, a sut mae'r gêm wedi galluogi Hamilton i gyfathrebu gyda'i Dad a oedd, fel llawer o lowyr eraill, yn ei chael yn anodd i fynegi ei emosiynau.
Ond yn ôl at y teitl - y peldroediwr a allai hedfan.
Mae llun ohono ar y clawr - yn penio'r bel mewn gem ar faes Anfield yn erbyn Lerpwl ym mis Hydref 1966. Wrth iddo benio, mae canol corff Wyn Davies droedfedd yn uwch na phen y cawr ynghanol amddiffyn Lerpwl, Ron Yates.
Oedd, roedd Wyn, y Cofi o'r Dre yn gallu hedfan yn uwch nac unrhyw un arall - ac unrhyw un sydd wedi ei ddilyn hyd y gwn i! Hwn, yn ol barn y Geordies oedd y 'Footballer Who Could Fly'!
Dyma'r arwr, a 'i ddoniau sydd wedi rhoi'r teitl i'r llyfr, a'r dyfyniad amdano wedi dod o geg tad yr awdur wrth iddo ddisgrifio arwr Parc St James i'w fab.
Roedd Wyn ar ei anterth yn yr un flwyddyn ac yr anfonwyd roced Apollo i'r gofod.
Roeddwn i 'over the moon' o ddarllen y llyfr yma a deall am y parch a'r gallu anhygoel oedd gan yr arwr o 'Sgubor Goch yn y byd peldroed pan oeddwn innau yn tyfu i fyny, ac sydd yn parhau hyhd heddiw.
Mae'n flwyddyn newydd dda ac yn un llawn hiraeth wrth hel atgofion am Wyn Davies a'i gyfoedion!
Trin a thrafod y byd pêl-droed yn ffordd unigryw criw 