Nigel Adkins ac Angel Rangel
Tra mae Nicola Cortese, cadeirydd Southampton yn ymddwyn fel dihiryn a phechadur, mae angel "Yr Elyrch" wedi ymddangos ger ein bron gan ddisgleirio mewn gweithred a ddylai godi cywilydd ar y rhai sydd mor hunanol yn y byd peldroed.
Mae'n eithaf gwybyddus erbyn heddiw fod aelod o dîm Abertawe, Angel Rangel, a'i wraig Nikki, wedi dosbarthu bwyd i anffodusion a'r digartref o gwmpas y ddinas yn ystod yr eira a'r rhew ddiwedd wythnos diwethaf.
Ar yr un pryd, diolchodd cadeirydd Southampton i Nigel Adkins, am iddo godi'r clwb o safle'r tri gwaelod, mynd ar rediad a welwyd ond dwy gêm yn cael eu colli allan o'r deng diwethaf, a chael gem gyfartal yn Chelsea, drwy ei ddiswyddo. A hyn er mwyn ei olynu efo rheolwr a lwyddodd i fynd a thîm Espanyol yn Sbaen in waelod La Liga, gan ennill dim ond naw pwynt mewn tair gem ar ddeg. Yn ogystal, ymddengys fod Mauricio Pochettino, y rheolwr newydd, wedi bod yn ymchwilio i mewn i alluoedd chwaraewyr Southampton ers peth amser!
Cywilyddus.
D'oes dim byd positif all rhywun ei ddweud am ymddygiad Cortese - ond cyn lladd ar bawb o'r byd peldroed, rhaid cofio am oddefgarwch Adkins ei hun, ei wyleidd-dra a'r parch sydd wedi ei ddangos iddo gan ei gyd reolwyr, chwaraewyr, cefnogwyr a'r wasg dros y dyddiau diweddar.
Diolch i Angel Rangel a'i deulu am ddangos fod agweddau cefnogol dynolryw yn bodoli o fewn y byd peldroed.
Hwyrach nad yw Angel yn sant - ond mae wedi dangos gwerthoedd pwysig a ddylid eu hefelychu o fewn y gêm sydd yn rhoi bywoliaeth iddo. Mae hynny'n fwy na all unrhyw un ei ddweud am Nicola Cortsese.
Trin a thrafod y byd pêl-droed yn ffordd unigryw criw 