2012: Peldroed Y Flwyddyn
Ar brynhawn Sul, tua chwarter i bump, ar y trydydd ar ddeg o fis Mai fe benderfynais anfon neges destun i fy nghyfaill Jim Lawlor.
Mae Jim yn Brif sgowt efo Manchester United, fo deithiodd i Fecsico i weld, pwyso a mesur, ac arwyddo Javier Hernandez, ac a gafodd ran allweddol i ddenu chwaraewyr eraill i Old Trafford. Roedd Jim wedi llwyddo eto, United ar fin cadw eu gafael ar goron yr Uwchgynghrair, a neges o longyfarchiadau ar y ffordd. Yn ffodus i mi, mae'r cyfieithiad o longyfarchiadau i Saesneg yn rhoi gair llawn mor hir, a gyda bysedd trwsgl, mae'n cymryd digon o amser i rywun a ffobia technoleg fodern i osod neges destun ar y ffon.
Pan ddechreuais y gair 'congratulations, roedd United newydd guro Sunderland a Manchester City yn colli i Queens Park Rangers, a dim ond amser ychwanegol ar ôl. Erbyn imi gyrraedd canol y cyfarch, roedd City wedi dod yn gyfartal, ac wrth imi fodio diwedd neges, daeth tro ar fyd! Daeth tro ar fawd hefyd, gyda'r botwm yn cael ei bwyso i ganslo'r neges wrth i Sergio Aguero ganslo'r dathliadau ar Old Trafford a sicrhau fod coron yr Uwchgynghrair lithro yn ddisymwth o afael Syr Alex, Rooney, Jim a phawb arall ac i ddwylo diolchgar Roberto Mancini a'r cymdogion swnllyd yna'r ochr arall i'r ddinas!
Ar lwyfan Ewrop, llwyddodd Chelsea i wrthsefyll ton ar ol ton o ymosodiadau bygythiol gan Bayern Munich, ond pan lwyddodd Muller i roi'r Almaenwyr ar y blaen saith munud cyn y diwedd, roedd popeth yn edrych fel petai ar ben. Ond doedd Didier Drogba ddim am adael Chelsea am China heb wneud ei farc - dau funud ar ol, a dyma'r blaenwr fel saeth drwy ganol, a gôl fythgofiadwy yn achub y dydd. Nid yn unig achub y dydd, ond dod ac amser ychwanegol ac yna ciciau o'r smotyn, gan weld Bayern yn mynd ddwy gol ar y blaen. Yna y golwr Petr Cech yn arbed, Schweinsteiger yn taro'r postyn a Drogba (pwy arall) yn cipio buddugoliaeth a welodd Roberto di Matteo yn drysu cynlluniau Roman Abramovich, y Gwpan Sanctaidd yn cyrraedd Stamford Bridge, a di Matteo yn cadw ei swydd.
Ond y gêm orau a welais oedd honno ar Old Trafford, ac na nid tîm a Van Persie nac ymddangosiad Syr Alex oedd hyn. Dyma oedd gem y rownd gyn derfynol y gemau Olympaidd rhwng merched Canada a'r Unol Daleithiau. Roeddwn eisioes wedi bod yn Coventry yn gweld Canada yn curo'r tîm GB, a dod i gyfarfod Rhian Wilkinson, cefnwraig dde Canada sydd yn hanu o Fro Morgannwg.
Roedd y rownd gyn-derfynol yn wefreiddiol gyda'r Unol Daleithau yn fuddugol o bedair gôl i dair, a hefyd gweld baner Draig Goch Cymru yn cyhwfan ar y maes enwog, ynghanol cefnogwyr Canada. Dyma oedd baner y Ddraig a roddais i Rhian wedi iddi guro merched Hope Powell a'u cadw heb obaith o gipio unrhyw fedal. Dyna mae nhw'n gael am beidio â chynnwys unrhyw Gymraes yn eu tîm.
Yna gem fwyaf y tymor - ail fyw brwydr Maes Dulyn ar noson sobor o wlyb fel rhan o weithgareddau Eisteddfod yr Urdd ym Mhenygroes. Ie, golwr tîm Ar y Marc heb adael unrhyw gol i mewn, ac yn cadw trefn ar Iwan Roberts ac Owain Tudur Jones, heb son am wneud i fyny am gamgymeriadau Dylan Jones a oedd lawer rhy awyddus i wylio'r goliau. Perfformiad grymus, a safonol gan y golwr, heb os nac oni bai!
Ond ymlaen i 2013.
Tybed a fydd Wrecsam a Chasnewydd yn cael dyrchafiad i Ail Adran Lloegr? Tybed a fydd Caerdydd yn ymuno ac Abertawe yn yr Uwchgynghrair? Tybed a fydd timau Uwchgynghrair Cymru yn gallu tynnu torfeydd sylweddol i'w dilyn? Tybed a fydd tîm cenedlaethol Cymru yn gallu adeiladu ar y fuddugoliaeth ragorol yn erbyn yr Alban a bod cornel wedi ei throi. A all Uwch Gynghrair newydd cenedlaethol y merched dyfu a dod yn fwy cystadleuol yn eu hail dymor? A tybed sut fath o gae chwarae neu gae artiffisial fydd gan ein clybiau yn yr Uwchgynghrair Cenedlaethol!
Ond does dim amheuaeth gen i o fy uchafbwyntiau dros 2012. Syrthio mewn cariad gyda 'fullback' o Ganada - a Meilir Owen yn fy newis dros Owain Fôn fel golwr. Diolch i'r ddau yma am wneud hen ddyn yn hapus iawn, a gwneud imi deimlo rhywbeth rhyfedd yn fy nghalon, rhyw chwa ac awel hyfryd o'r gororau pell - gwefr a'r chynnwrf a deimlais pan oeddwn yn ugain oed.
Tybed, tybed a ddaw galluoedd golwr tîm Ar y Marc i glustiau Jim Lawlor gan ei arwain i ddilyn ryw seren anhysbys draw i weld dros ei hun, ac addoli'r golwr bach yn gorwedd ym mhreseb gol tîm Ar Y Marc mewn rhyw stabl eisteddfodol yr Haf nesaf! Ymaith David de Gea - Syr Alex dwi ar y ffordd ! Siawns na fyddai hynna yn gwneud argarff enfawr ar Rhian Wilkinson!!
Trin a thrafod y byd pêl-droed yn ffordd unigryw criw 