Help / Cymorth
« Blaenorol|Hafan|Nesaf »

Yr ifanc a wyr... yr hen a dybia!

Glyn Griffiths|13:28, Dydd Mercher, 5 Rhagfyr 2012

Yr wythnos diwethaf rhoddwyd cryn sylw i Karl Robinson, rheolwr MK Dons, gan mai fo ydi'r rheolwr ieuengaf o fewn y bedair brif adran yng nghynghreiriau Lloegr - fe wnaeth gychwyn efo'r Dons pan oedd o m'ond yn 29 oed.

Ond mae Robinson yn bensiynwr o'i gymharu â'r rheolwr ieuengaf a fu erioed ar dîm o oedolion ym Mhrydain.

Ble felly mae'r rheolwr ieuengaf a fu erioed?

Does dim angen i chi fynd yn bell i ddarganfod yr ateb - dim pellach nag o dan gysgod Cader Idris ac fe gewch yr ateb yn nhref Dolgellau.

Ie, yn bedwar ar bymtheng oed, mae Dave Webber wedi ei benodi yn rheolwr ar glwb Dolgellau - y rheolwr ieuengaf erioed ar brif glwb unrhyw le ym Mhrydain.
Myfyriwr ym mhrifysgol Aberystwyth ydi Dave, ac fe fydd angen pob deallusrwydd, seicoleg, tacteg a phopeth arall arno os am godi Dolgellau o'u safle presennol - ar waelod Adran Un Cynghrair Spar Canolbarth Cymru.

Yn enedigol o ddinas Bryste, dechreuodd, fel mae bron pob un ohonom sydd wedi rheoli, drwy hyfforddi timau ieuenctid lleol.

Ond mae realiti bywyd rheolwr yn ei wynebu a tydi tîm ddim ar waelod cynghrair heb reswm. Un gêm yn unig, mewn pymtheg ,mae'r tîm wedi ei hennill, ac mae'r ddwy gêm o dan ofal Dave wedi eu colli hefyd! Ond dyna ni, hwyrach fod gan Harry Redknapp fwy o sialens - heb son am fethiant Mark Hughes!

Tybed pwy ydi'r rheolwyr eraill sydd wedi gafael yn yr awennau yn ifanc eu hoed?

Dyma rai y gellir eu hystyried:-
Cafodd Andre Villas-Boas ei benodi fel rheolwr ar Chelsea pan yn 33. Hyn wedi iddo ddechrau ei yrfa fel rheolwr ar dîm cenedlaethol y British Virgin Island pan oedd yn un ar hugain!

Cychwynnodd Brendan Rodgers efo Watford yn 2008- pan oedd yn 35, ac roedd Roberto Martinez flwyddyn yn iau pan aeth i Abertawe yn 2007. 34 oedd Kenny Dalglish pan gymerodd yr awennau yn Lerpwl. Yn dilyn Joe Fagan yn 1985, a dim ond 32oedd Chris Coleman pan dderbyniodd wahoddiad i reoli Fulham (a'r ieuengaf hyd yn hyn i reoli tim yn yr Uwchgynghrair).

Ond i lawr a ni - Eddie Howe rheolwr ar Bournemouth o 2008 hyd at 2011, ac yn 31 pan ddechreuodd, yna ewch i lawr un arall a dod at Brian Clough - cychwyn efo Hartlepool United pan yn ddeg ar hugain.

Er cymaint y stŵr am oed Karl Robinson, roedd Bobby Smith (a oedd yn reolwr ar Bury o 1973 hyd at 1977) yn 29 pan gychwynnodd. Gyda llaw, dyma'r rheolwr a aeth i Abertawe yn 1995 gan aros yno am 80 o ddyddiau cyn ymuno a Chasnewydd a symud oddi yno ar ôl wyth mis!

Dwi am orffen fy nhaith o gwmpas cynghreiriau Lloegr, efo Chris Brass a benodwyd yn reolwr ar glwb Dinas Efrog yn 2003 pan oedd yn saith ar hugain oed.

Ond tydi'r daith ddim drosodd ac er mai'n ymddangos mai Vilas-Boas ydi'r rheolwr ieuengaf erioed, cyn cyrhaeddiad Dave Webber, mae yna un arall a fu yn rheolwr ar dîm cenedlaethol pan oedd ond yn bump ar hugain oed.

Roedd Paul Watson yn rheolwr ar dîm ynys Pohnpei, yn 2009, pan oed yn bump ar hugain oed. Mae Pohnpei yn un o ynysoedd Micronesia yng nghanol y môr Tawel rhyw hanner ffordd rhwng dwyrain Awstralia a Hawaii. Erbyn heddiw mae Paul Watson yn ôl yn Llundain ac wedi ysgrifennu hanes ei fenter mewn llyfr, a'i enw - wel be arall ond 'Up Pohnpei"!

Os ydach chi'n riant i blentyn sy'n "gwastraffu amser" ar gemau cyfrifiadurol, arhoswch ennyd i feddwl am Vugar Huseynzade - gwr ifanc 21oed sydd wedi ei benodi gan FC Baku i ymuno a'r tim rheoli, a hynny ar ol iddo ddangos ei ddoniau anhygoel yn chwarae'r gem "Football Manager".


BBC © 2014Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.