Y sgoriwr gorau: Messi, Muller neu Dixie Dean?
Y tu allan i nifer o stadiymau peldroed heddiw, ceir cerfluniau o gewri'r gorffennol. Wrth y Liberty, mae cerflun o Ivor Allchurch wedi dod yn gyrchfan lawer o gefnogwyr, tra bod selogion Everton yn gosod blodau wrth draed cerflun o Dixie Dean, a hynny yn aml iawn er cof am aelod o'r teulu a oedd yn gefnogwr pybyr o'r clwb.
Enwogion pob un, ac yn hanes Dixie Dean, sgoriwr goliau heb ei ail.
Ond er for Dixie Dean neu William Ralph Dean, i roi ei enw llawn, yn rhan o chwedloniaeth Everton erbyn hyn, mae eraill yn y byd peldroed wedi dangos gallu llawn cystal ar sut i sgorio.
Mewn un papur newydd yr wythnos yma, gofynnwyd y cwestiwn os mai Lionel Messi, Gerd Muller (o'r Almaen) neu Dixie Dean oedd y sgoriwr gorau a fu erioed.
Anodd ateb ond daethpwyd i'r canlyniad mai nhw oedd y gorau o fewn eu cenhedlaeth - ac mae hynny yn farn deg. Mae'r gêm wedi newid cymaint, ac mae angen mesur llwyddiant yng nghyd-destun hynny.
Ond beth am sgorwyr mewn cynghreiriau eraill?
Draw yn Wrecsam mae'n anodd meddwl am unrhyw sgoriwr tu hwnt i'r Dixie arall sef Dixie McNeill - hwyrach fy mod yn unllygeidiog gan fy mod yn eistedd yn ei gwmni yn y rhan fwyaf o gemau rwyf yn eu gweld ar y Cae Ras y dyddiau yma , ond allwch chi feddwl am well peiriant sgorio ar y Cae Ras?
Mae gan Uwchgynghrair Cymru eu seren sgorio hefyd, cyn i Rhys Griffiths ymuno a Plymouth Argyle roedd y goliau yn llifo ganddo, ond d'oes neb eto heb guro record Mark Lloyd Williams gyda'i 318 o goliau mewn 467 o gemau.
Daeth Uwchgynghrair Cymru yn rhy hwyr i rai, ac rwyf am gymryd mantais o'r cyfle yma i atgoffa cefnogwyr Porthmadog am un o sgorwyr goliau gorau a fu gyda'r clwb erioed - cyn dyddiau Jiws sef John Williams , neu John Bach. Dyna be oedd peiriant sgorio ac roedd yn fraint ei gael yn fy nhîm pam oeddwn yn reolwr yno yn yr wythdegau.
Mae'n debyg fod gennym i gyd atgofion am y sêr a oedd yn sgorio - hwy sydd yn cael y sylw pennaf gan amlaf, ond hefyd yn gorfod byw gyda'r feirniadaeth fwyaf lem - d'oes ond angen i chi enwi Fernando Torres os am godi nyth cacwn y dyddiau yma!
Pwy ydych chi yn ei ystyried fel y sgoriwr gorau a fu erioed - yn fyd eang , neu o fewn cyfnod, neu o fewn cyd-destun y gynghrair a oeddynt yn chwarae ynddi?
Trin a thrafod y byd pêl-droed yn ffordd unigryw criw 