Help / Cymorth

Archifau Tachwedd 2012

MK Dons v Wimbledon - hunllef neu freuddwyd i'r cefnogwyr?

Glyn Griffiths|13:00, Dydd Mercher, 28 Tachwedd 2012

Sylwadau (0)

Oeddech chi yn dilyn y gyfres "New Tricks" ar y teledu?

Un o ddiddordebau'r cymeriad Brian Lane oedd cefnogi tîm peldroed Wimbledon, ac roedd sgarff ei hoff glwb i'w weld yn amlwg yn y gyfres wrth ochr ei ddesg.

Dydd Sul nesaf, Rhagfyr 2, bydd cefnogwyr Wimbledon yn gweld breuddwyd, neu hunllef, yn cael ei gwireddu. Ail rownd Cwpan Lloegr - MK Dons yn erbyn AFC Wimbledon.

Ar yr olwg gyntaf fe fyddai wedi bod yn hawdd i mi ddweud wrthych fod Milton Keynes yn chwarae yn erbyn Wimbledon, ond fe fyddai hynny ymhell o'r gwir.

Fe fyddwn yn nes at y gwir petawn yn dweud fod Wimbledon yn chwarae Wimbledon !
Yn dilyn cyhoeddiad Adroddiad Taylor, a oedd yn argymell bod pob clwb ar y lefel uchaf yn chwarae mewn stadiwm gyda seddau ar gyfer pawb, penderfynodd Wimbledon yn 1991, fod angen symud o'u cartref yn Ne Llundain.

Cawsant ganiatâd i ddefnyddio maes Crystal Palace gerllaw, trefniant gwreiddiol dros dro,ond a barhaodd am dros ddeuddeg mlynedd.

Ym mis Mai 2002, ar ôl methu a chytuno ar safleoedd lleol posibl newydd, rhoddwyd caniatâd i'r clwb symud 56 milltir i'r gogledd i dref Milton Keynes, gan greu clwb newydd o dan fantell yr hen glwb, a'i fedyddio yn MK Dons.

D'oedd cefnogwyr Wimbledon ddim yn hapus ac fe aethpwyd ati i sicrhau fod y glendid a fu yn enw Wimbledon yn y gorffennol, yn cael ei sicrhau i'r oesoedd a ddel. Ffurfiwyd clwb peldroed newydd - AFC Wimbledon.

Ond nid gem ddarbi leol ar sail tiriogaeth leol, fel Lerpwl ac Everton, neu Tottenham ac Arsenal mo'r gêm yma y Sul nesaf; na chwaith brwydr ar sail crefydd, fel ac y gwelir pan mae Celtic yn chwarae Rangers.

Mae'r gêm gwpan yma yn fwy o adlewyrchiad o ysgariad maith a brwnt - hwyrach fod MK Dons wedi cael y tŷ, a'r cynnwys, ond sicrhaodd cefnogwyr Wimbledon fod enaid y clwb yn parhau yn Ne Llundain!

Ail ddechreuodd AFC Wimbledon yn is gynghreiriau Lloegr, a heddiw tua deng mlynedd yn hwyrach, maent yn chwarae yn Ail Adran Lloegr.

Yn ddiweddar, mae prif weithredwr MK Dons wedi galw am ddiddymu'r gair Dons o enw'r clwb. Mae perchennog y clwb Peter Winkelman, hefyd, wedi cyfaddef nad oedd y ffordd a y cawsant eu symud allan o Lundain yn rhywbeth i'w glodfori.

Hwyrach i chi gofio fod y clwb yn barod i symud i unrhyw le er mwyn sicrhau dyfodol ar yr adeg, gyda Dulyn a Chaerdydd hefyd wedi cael eu hystyried fel lleoliadau posib. Yn wir, symud i Ddulyn oedd y bwriad o dan arweiniad perchnogion newydd o Norwy ( w'n i ddim petai'r Gymdeithas Beldroed wedi caniatáu hyn!). Yna, fel ail opsiwn mewn argyfwng, awgrymwyd y gellir symud i rywle fel Milton Keynes petai rhaid !
A symud i Milton Keynes fu'r hanes, yn enwedig pan fynnodd y gweinyddwr, yn sgil y trafferthion ariannol, fod rhaid i'r clwb ddangos eu bod yn gallu cynnal eu hunain yn ariannol, neu fe fyddai'n diddymu'r clwb yn gyfan gwbl yr wythnos ddilynol! Stori sy'n ymdebygu fel sgript ar gyfer gwaith i dîm Brian Lane ac UCOS!

Felly barn swyddogion MK Dons ydi mai hwy a sicrhaodd ddyfodol Wimbledon - a chreu dau glwb - ie, o fewn y byd masnachol ein peldroed cyfoes, dau am bris un!!

Ond mae yna son erbyn heddiw fod clwb MK am ddileu'r gair Dons o'r enw, gan osod enw amgenach yn ei le, enw noddwr ariannol efallai? A mae AFC Wimbledon yn mynnu mai ganddynt hwy mae'r hawl a'r yr enw Dons.

Mae'r dadlau yn parhau.

Pwy felly ydi'r Dons go iawn erbyn heddiw - etifeddwyr y tŷ a'r cynnwys neu gwarchodiaid enaid hoff gytun y clwb gwreiddiol?

Rafa a Chelsea

Categorïau:

Glyn Griffiths|10:19, Dydd Gwener, 23 Tachwedd 2012

Sylwadau (0)

Mae'r brenin wedi marw! Hir oes i'r brenin!

Wel, nid os mai rheolwr Chelsea ydi'r brenin!

Ta ta di Matteo, bore da Benitez!.

Ie. Ymddengys fod Rafa Benitez am fod yn rheolwr ar Chelsea - ond dros dro yn ôl y cyhoeddiad. A'i oherwydd fod Roman Abramovich yn wynebu'r gwir yw'r rheswm dros y cyhoeddiad? Heblaw am Jose Mourinho a oes yna reolwr sy'n werth ei ystyried yn wir reolwr ?

Ers ymadawiad Jose Mourinho, dyma restr o apwyntiadau Abramovich o reolwyr ar Chelsea:-

  1. Avram Grant - Medi 2007 hyd at Fai 2008
  2. Luis Felipe Scolari - Gorffennaf 2008 hyd at Chwefror 2009
  3. Guus Hiddink - Chwefror 2009 hyd at Fai 2009
  4. Carlo Ancelotti - Mehefin 2009 hyd at Fai 2011
  5. Andre Villas-Boaz - Mehefin 2011 hyd at Fawrth 2012
  6. Roberto di Matteo - Mawrth 2012 hyd at Dachwedd 2012

Ydi Abramovich yn euog o ddwyn anfri ar beldroed wrth iddo ddiflasu unwaith eto gyda rheolwr arall ar ei glwb?

Heblaw am Gynghrair Ewrop a Chwpan Lloegr y llynedd, daeth Carlo Ancelotti a Chwpan Lloegr a Choron yr Uwchgynghrair i Stamford Bridge, gan weld Chelsea yn sgorio mwy na chant o goliau, mwy nag unrhyw dim arall yn hanes yr Uwchgynghrair.Llwyddodd Avram Grant i fynd a'r clwb i ffeinal Cynghrair Ewrop; dim ond un gem gollodd Guus Hiddink yn yr Uwchgynghrair, ac fe enillwyd Cwpan Lloegr.

Ond nid oedd hyn ddim digon da i Roman Abramovich !

Ydi Abramovich yn ymddwyn yn deg i gefnogwyr y clwb wrth iddo newid cyfeiriad ac arweiniad y clwb mor aml, yn hytrach na dangos teyrngarwch i'w reolwyr a'u cefnogi pan mae angen?

Hwyrach y gall Benitez ddod a mwy o drefn i amddiffyn anhrefnus, a chael disgyblaeth gan ddod a mwy o gyd-chwarae i ganol cae sydd wedi datgysylltu ei hun o weddill y tîm yn ddiweddar, gan adael Fernando Torres fe rhyw "Billy No Mates" ynysig yn y cwrt cosbi?

Neu a ydi'r perchennog hunan gyfiawn yn ceisio profi drwy ddenu cyn rheolwr Torres i Chelsea, fod y blaenwr o Sbaen yn werth pob ceiniog a wariodd Abramovich arno beth amser yn ôl?

Rheolwr newydd (arall) yn Chelsea!!

Glyn Griffiths|15:25, Dydd Iau, 22 Tachwedd 2012

Sylwadau (0)


Mae'r brenin wedi marw! Hir oes i'r brenin!

Wel, nid os mai rheolwr Chelsea ydi'r brenin!

Ta ta di Matteo, bore da Benitez!

Rafa Benitez ydi rheolwr newydd Chelsea - ond dros dro yn ôl y cyhoeddiad. A'i Roman Abramovich yn wynebu'r gwir ydi'r cyhoeddiad yma? Does yna 'run reolwr wedi bod yn Chelsea ers ymadawiad Jose Mourinho am unrhyw gyfod ddigon hir i gael ei ystyried yn ddim ond am fyr dymor.

Ers ymadawiad Jose Mourinho, dyma restr o apwyntiadau Abramovich o reolwyr ar Chelsea:-

Avram Grant: Medi 2007 - Mai 2008
Luis Felipe Scolari: Gorffennaf 2008 - Chwefror 2009
Guus Hiddink: Chwefror 2009 - Mai 2009
Carlo Ancelotti: Mehefin 2009 - Mai 2011
Andre Villas-Boaz: Mehefin 2011 - Mawrth 2012
Roberto di Matteo: Mawrth 2012 - Tachwedd 2012

Ydi Abramovich yn euog o ddwyn anfri ar beldroed wrth iddo ddiflasu unwaith eto efo rheolwr arall yn ei glwb?

Enillodd Di Matteo Gynghrair Pencampwyr Ewrop a Chwpan Lloegr y llynedd; daeth Carlo Ancelotti a Chwpan Lloegr a Choron yr Uwchgynghrair i Stamford Bridge, gan weld Chelsea yn sgorio mwy na chant o goliau - mwy nac unrhyw dîm arall yn hanes yr Uwchgynghrair.

Llwyddodd Avram Grant i fynd a'r clwb i ffeinal Cynghrair Pencampwyr Ewrop; ac wnaethGuus Hiddink ond colli un gêm yn yr Uwchgynghrair - ac fe enillwyd Cwpan Lloegr dan ei reolaeth.

Ond doedd hyn i gyd ddim digon da i Roman Abramovich.

Ydi Abramovich yn ymddwyn yn deg efo cefnogwyr y clwb wrth iddo newid cyfeiriad ac arweiniad y clwb mor aml yn hytrach na dangos teyrngarwch i'w reolwyr a'u cefnogi pan mae angen?

Hwyrach y gall Benitez ddod a mwy o drefn I'r amddiffyn anhrefnus, a chael disgyblaeth a mwy o gyd-chwarae i ganol cae sydd wedi datgysylltu ei hun o weddill y tîm yn ddiweddar, gan adael Fernando Torres fe rhyw "Billy No Mates" ynysig yn y cwrt cosbi?

Neu a ydi'r perchennog hunan gyfiawn yn ceisio profi drwy ddenu cyn rheolwr Torres i Chelsea fod y blaenwr o Sbaen yn werth pob ceiniog a wariodd Abramovitch arno beth amser yn ôl?

Amser a ddengys...

Ai Prestatyn ydi'r Llanelli newydd?

Glyn Griffiths|15:45, Dydd Mercher, 14 Tachwedd 2012

Sylwadau (0)

Er bod y tîm o Sir Ddinbych wedi gosod safonau uchel ar y cae eleni, ac yn gallu dangos sut mae cynnal clwb a thîm oddi ar y cae, tydi maint eu torfeydd ddim gwell na thorfeydd Llanelli, a lwyddodd i gyflawni cymaint dros gyfnod maith.

Mae'r safonau a osodwyd gan Lanelli yn Uwchgynghrair Cymru yn rhai anodd i'w hefelychu. Peldroed deniadol, canlyniadau ffafriol, ambell i lwyddiant yn Ewrop, ond hyn yn ymddangos fel nad yw'n cael ei werthfawrogi gan y boblogaeth leol.

Rygbi, mwy na thebyg, oedd yn cael y bai am ddiffyg torfeydd i weld Llanelli, ond i fod yn deg, mae'r Scarlets hefyd yn ei chael hi'n anodd i ddenu miloedd.

Yn y gogledd, mae cyflawniadau tîm Prestatyn wedi synnu llawer y tymor yma.

A hwythau ymysg y ceffylau blaen ac yn dangos cysondeb yn y canlyniadau, ac ar hyn o bryd, ar frig Uwchgynghrair Cymru, ond, gyda thorfeydd, os mai dyna'r gair cywir, sydd ar gyfartaledd yn ddau gant a hanner, ble mae'r gefnogaeth leol?

Ydi Prestatyn yn dioddef o fod wedi gorfod byw o dan gysgod Y Rhyl , eu cymdogion agos, sydd wedi cael tîm peldroed ers blynyddoedd lawer? Wedi'r cwbl, pobl eithaf ceidwadol ydi cefnogwyr peldroed, ac wnawn nhw ddim newid eu cefnogaeth yn hawdd.

Newydd ddyfodiad, heb unrhyw draddodiad, ydi Prestatyn i beldroed o safon genedlaethol. Mae'r Rhyl wedi hen arfer (er waethaf eu cwymp diweddar) , ac wedi sefydlu eu hunain drwy draddodiad( mae eu cefndir hanesyddol yng Nghwpan Cymru a Chwpan Lloegr yn dystiolaeth). Efallai y cawn eu gweld yn ôl ar y llwyfan cenedlaethol y tymor nesaf. Felly hefyd Lanelli, tîm peldroed sydd wedi dod i ennill parch mawr ar lefel cenedlaethol yn ddiweddar, ond yn gorfod brwydro am adnabyddiaeth leol yn erbyn chwedloniaeth leol y byd rygbi a sefydlwyd ers llawer dydd.

Mae'n anodd gweld ble mae rhywun am ddysgu gwers, o gymryd profiadau Llanelli fel llinyn mesur, i geisio awgrymu sut y gall Prestatyn wella ar eu delwedd a denu torfeydd cyson!

Erbyn heddiw, mae Llanelli wedi colli eu rheolwr a'r clwb yn parhau i gael trafferthion oddi ar y cae.

Nid felly Prestatyn - d'oes yna ddim dadlau ynglŷn â safonau, gallu na chyrhaeddiadau'r tîm, nag ychwaith y weinyddiaeth ddoeth o fewn y clwb. D'oes ond i chi gerdded o gwmpas strydoedd y dre i weld yr ymdrech i hysbysu gemau.

Mae'r safon a'r ymdrech a'r weinyddiaeth yna yn glir i bawb. Biti na all poblogaeth leol Prestatyn a'r cylch ddechrau gwerthfawrogi ymdrechion cymunedol eu clwb peldroed lleol.

Amser i gael saib dros y gaeaf?

Glyn Griffiths|11:29, Dydd Mercher, 7 Tachwedd 2012

Sylwadau (0)

Mae Jac Do Bach yn oer, oer.

Mae chwaraewyr a chefnogwyr peldroed yn oer, oer hefyd.

Do, mae wedi mynd yn oer yn sydyn, a hynny bron cyn inni gael noson tân gwyllt a Chalan Gaeaf, a chyn i Sali Mali hyd yn oed gael amser i gynhesu'r tŷ bach twt !!

Mae'r niferoedd sydd yn mynd i weld gemau yn Uwchgynghrair Cymru hefyd yn ddigon i wneud i rywun fferu. Yr un hen stori, heblaw am GPD Dinas Bangor, sydd yn ymddangos fel petaent yn gwybod sut i ddenu cefnogwyr, mae'r niferoedd sy'n gwylio gemau eraill yn ddigon digalon.

Gyda'r tywydd yn siŵr o oeri ymhellach - tybed faint o bobol fydd yn mynd i'r gemau dros y gaeaf?

Onid yw'r amser wedi dod i feddwl am gael saib yn ystod y tymor?

Mae nifer o wledydd yn Ewrop yn cael toriad ganol gaeaf - pam felly na allwn ni?

Gyda thimau Uwchgynghrair Cymru yn chwarae ei gilydd o leiaf bedair gwaith y tymor - efallai mai cael toriad fyddai orau - fyddai hynny'n cynnig rhyw newydd-deb a ffresni i'r gystadleuaeth yn y flwyddyn newydd!

Gyda nifer o gemau yn cael eu gohirio oherwydd y tywydd drwg yn y gaeaf - hwyrach fyddai ail strwythuro gemau drwy gael toriad yn lleihau rhywfaint ar y baich ariannol. Wedi'r cwbl os yw tîm o dde Cymru yn teithio i'r gogledd, ac yn dod i wybod ar ol cyrraedd nad yw'r gem ymlaen, mae'r cwmni bws yn dal i ddisgwyl tal am eu cludo!

Gellir hefyd ddadlau y byddai safon peldroed yn cael ei warchod yn well petai gemau ddim yn cael eu cynnal ar gaeau rhewllyd ganol Rhagfyr ac Ionawr. Wedi'r cwbl tydi'r cyllid na'r adnoddau ddim gan dimau Uwchgynghrair Cymru i sicrhau yr un llyfnder a safon fel sydd a'r gaeau Uwchgynghrair Lloegr.

Er nad ydwi'n cefnogi'r syniad o symud gemau i gael eu chwarae drwy'r haf, ( oes yna rhywun wedi gofyn barn chwaraewyr a rheolwyr am hyn?), efallai fod yna le i ystyried saib ganol gaeaf.

Ond mae yna un broblem amlwg yn bodoli, sef y traddodiad o gynnal gemau dros y Nadolig a'r Flwyddyn Newydd, mae hynny'n rhywbeth sydd fel petai ei fod o'n sanctaidd ac wedi ei blannu ym meddylfryd y byd peldroed.

Efallai fod yna fwy o bobol yn mynd i weld gemau ar ddydd Sant Steffan - ond ydi'r un diwrnod yma yn werth ei gadw os yw cefnogwyr am rynnu ymysg tyrfaoedd pitw drwy weddill y gaeaf?

Mae'n debyg mai'r unig rai i elwa fyddai Sali Malis ein clybiau peldroed a fyddai wrth eu boddau yn ceisio gwneud elw wrth werthu tê a peis poeth ar ddyddiau a nosweithiau rhynllyd!

BBC © 2014Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.