Amser i gael saib dros y gaeaf?
Mae Jac Do Bach yn oer, oer.
Mae chwaraewyr a chefnogwyr peldroed yn oer, oer hefyd.
Do, mae wedi mynd yn oer yn sydyn, a hynny bron cyn inni gael noson tân gwyllt a Chalan Gaeaf, a chyn i Sali Mali hyd yn oed gael amser i gynhesu'r tŷ bach twt !!
Mae'r niferoedd sydd yn mynd i weld gemau yn Uwchgynghrair Cymru hefyd yn ddigon i wneud i rywun fferu. Yr un hen stori, heblaw am GPD Dinas Bangor, sydd yn ymddangos fel petaent yn gwybod sut i ddenu cefnogwyr, mae'r niferoedd sy'n gwylio gemau eraill yn ddigon digalon.
Gyda'r tywydd yn siŵr o oeri ymhellach - tybed faint o bobol fydd yn mynd i'r gemau dros y gaeaf?
Onid yw'r amser wedi dod i feddwl am gael saib yn ystod y tymor?
Mae nifer o wledydd yn Ewrop yn cael toriad ganol gaeaf - pam felly na allwn ni?
Gyda thimau Uwchgynghrair Cymru yn chwarae ei gilydd o leiaf bedair gwaith y tymor - efallai mai cael toriad fyddai orau - fyddai hynny'n cynnig rhyw newydd-deb a ffresni i'r gystadleuaeth yn y flwyddyn newydd!
Gyda nifer o gemau yn cael eu gohirio oherwydd y tywydd drwg yn y gaeaf - hwyrach fyddai ail strwythuro gemau drwy gael toriad yn lleihau rhywfaint ar y baich ariannol. Wedi'r cwbl os yw tîm o dde Cymru yn teithio i'r gogledd, ac yn dod i wybod ar ol cyrraedd nad yw'r gem ymlaen, mae'r cwmni bws yn dal i ddisgwyl tal am eu cludo!
Gellir hefyd ddadlau y byddai safon peldroed yn cael ei warchod yn well petai gemau ddim yn cael eu cynnal ar gaeau rhewllyd ganol Rhagfyr ac Ionawr. Wedi'r cwbl tydi'r cyllid na'r adnoddau ddim gan dimau Uwchgynghrair Cymru i sicrhau yr un llyfnder a safon fel sydd a'r gaeau Uwchgynghrair Lloegr.
Er nad ydwi'n cefnogi'r syniad o symud gemau i gael eu chwarae drwy'r haf, ( oes yna rhywun wedi gofyn barn chwaraewyr a rheolwyr am hyn?), efallai fod yna le i ystyried saib ganol gaeaf.
Ond mae yna un broblem amlwg yn bodoli, sef y traddodiad o gynnal gemau dros y Nadolig a'r Flwyddyn Newydd, mae hynny'n rhywbeth sydd fel petai ei fod o'n sanctaidd ac wedi ei blannu ym meddylfryd y byd peldroed.
Efallai fod yna fwy o bobol yn mynd i weld gemau ar ddydd Sant Steffan - ond ydi'r un diwrnod yma yn werth ei gadw os yw cefnogwyr am rynnu ymysg tyrfaoedd pitw drwy weddill y gaeaf?
Mae'n debyg mai'r unig rai i elwa fyddai Sali Malis ein clybiau peldroed a fyddai wrth eu boddau yn ceisio gwneud elw wrth werthu tê a peis poeth ar ddyddiau a nosweithiau rhynllyd!
Trin a thrafod y byd pêl-droed yn ffordd unigryw criw 