Help / Cymorth
« Blaenorol|Hafan|Nesaf »

Ai Prestatyn ydi'r Llanelli newydd?

Glyn Griffiths|15:45, Dydd Mercher, 14 Tachwedd 2012

Er bod y tîm o Sir Ddinbych wedi gosod safonau uchel ar y cae eleni, ac yn gallu dangos sut mae cynnal clwb a thîm oddi ar y cae, tydi maint eu torfeydd ddim gwell na thorfeydd Llanelli, a lwyddodd i gyflawni cymaint dros gyfnod maith.

Mae'r safonau a osodwyd gan Lanelli yn Uwchgynghrair Cymru yn rhai anodd i'w hefelychu. Peldroed deniadol, canlyniadau ffafriol, ambell i lwyddiant yn Ewrop, ond hyn yn ymddangos fel nad yw'n cael ei werthfawrogi gan y boblogaeth leol.

Rygbi, mwy na thebyg, oedd yn cael y bai am ddiffyg torfeydd i weld Llanelli, ond i fod yn deg, mae'r Scarlets hefyd yn ei chael hi'n anodd i ddenu miloedd.

Yn y gogledd, mae cyflawniadau tîm Prestatyn wedi synnu llawer y tymor yma.

A hwythau ymysg y ceffylau blaen ac yn dangos cysondeb yn y canlyniadau, ac ar hyn o bryd, ar frig Uwchgynghrair Cymru, ond, gyda thorfeydd, os mai dyna'r gair cywir, sydd ar gyfartaledd yn ddau gant a hanner, ble mae'r gefnogaeth leol?

Ydi Prestatyn yn dioddef o fod wedi gorfod byw o dan gysgod Y Rhyl , eu cymdogion agos, sydd wedi cael tîm peldroed ers blynyddoedd lawer? Wedi'r cwbl, pobl eithaf ceidwadol ydi cefnogwyr peldroed, ac wnawn nhw ddim newid eu cefnogaeth yn hawdd.

Newydd ddyfodiad, heb unrhyw draddodiad, ydi Prestatyn i beldroed o safon genedlaethol. Mae'r Rhyl wedi hen arfer (er waethaf eu cwymp diweddar) , ac wedi sefydlu eu hunain drwy draddodiad( mae eu cefndir hanesyddol yng Nghwpan Cymru a Chwpan Lloegr yn dystiolaeth). Efallai y cawn eu gweld yn ôl ar y llwyfan cenedlaethol y tymor nesaf. Felly hefyd Lanelli, tîm peldroed sydd wedi dod i ennill parch mawr ar lefel cenedlaethol yn ddiweddar, ond yn gorfod brwydro am adnabyddiaeth leol yn erbyn chwedloniaeth leol y byd rygbi a sefydlwyd ers llawer dydd.

Mae'n anodd gweld ble mae rhywun am ddysgu gwers, o gymryd profiadau Llanelli fel llinyn mesur, i geisio awgrymu sut y gall Prestatyn wella ar eu delwedd a denu torfeydd cyson!

Erbyn heddiw, mae Llanelli wedi colli eu rheolwr a'r clwb yn parhau i gael trafferthion oddi ar y cae.

Nid felly Prestatyn - d'oes yna ddim dadlau ynglŷn â safonau, gallu na chyrhaeddiadau'r tîm, nag ychwaith y weinyddiaeth ddoeth o fewn y clwb. D'oes ond i chi gerdded o gwmpas strydoedd y dre i weld yr ymdrech i hysbysu gemau.

Mae'r safon a'r ymdrech a'r weinyddiaeth yna yn glir i bawb. Biti na all poblogaeth leol Prestatyn a'r cylch ddechrau gwerthfawrogi ymdrechion cymunedol eu clwb peldroed lleol.

BBC © 2014Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.