Pwy sydd eisiau bod yn ddyfarnwr?!
Pwy sydd eisiau bod yn ddyfarnwr dyddiau yma?!
Gem hyll oedd hi'r bythefnos yn ôl , a gem hyll oedd hi dros y penwythnos diwethaf hefyd.
Ond tydw i ddim am rygnu mlaen am benderfyniadau Mark Clattenburg ( y dyfarnwr yn y gêm rhwng Chelsea a Manchester united bnawn Sul), na 'chwaith am yr hyn a ddywedodd, neu'r hyn na ddywedodd, amser a ddengys.
Tydw i ddim chwaith am rygnu mlaen am benderfyniad Andre Marriner, y dyfarnwr, wrthododd gôl i Lerpwl yn erbyn Everton ym munudau olaf y gêm, heblaw gwneud y sylw fod y peniad gan Sebastian Coates wrth iddo ddringo ar ben Phil Jagielka, ac a roddodd y bel ar blât i Luis Suarez, heb os nac oni bai yn drosedd.
Mae ymchwiliad a fydd yn debygol o gymryd oesoedd am gael ei gynnal i'r honiadau am natur iaith Mark Clattenburg yn Stamford Bridge, a cyn yr wythnos diwethaf d'oedd fawr o neb yn y byd peldroed wedi clywed am Peter Herbert.
Heddiw, mae ei enw yn dod yn fwy a mwy cyfarwydd fel cyfreithiwr o Lundain sydd yn ymddangos fel petae'n gefnogol i'r syniad o ddatblygu undeb amgen i chwaraewyr peldroed i'r un sydd eisoes yn bodoli ,sef Cymdeithas Peldroedwyr Proffesiynol.
Ymysg yr holl stwr, fodd bynnag, cefais un achos i wenu yn dilyn gemau'r penwythnos.
Cychwynnodd Manchester United eu gem yn Stamford Bridge gyda dau asgellwr, Antonio Valencia ar y dde, ac Ashley Young ar y chwith.
Ymddengys fod Syr Alex Ferguson wedi cyfaddef ei fod wedi dewis chwarae gyda dau asgellwr ar ôl clywed nain, wythdeg oed o'r enw Margaret, yn ei feirniadu ar deledu clwb Manchester United, am ddefnyddio dull patrwm chwarae diemwnt yn nhrefn y tîm (dull sydd yn canolbwyntio fwy ar symudiadau drwy ganol y cae yn hytrach na defnyddio'r esgyll).
Anhygoel - tybed pwy sydd yn dylanwadu ar bwy yn Old Trafford?
Mae gen i gyfaill yn gweithio i Manhcester United, ond tydio heb ofyn fy marn eto ar sut y gall United wella eu dull o chware, er iddo wybod fy mod yn derbyn pensiwn erbyn heddiw!
Ond hwyrach mai Syr Alex a wnaiff hynny, fel sgwrs rhwng un pensiynwr a'r llall - pobol o'n hoes a'n hamser ein hunain!

Trin a thrafod y byd pêl-droed yn ffordd unigryw criw 