Help / Cymorth
« Blaenorol|Hafan|Nesaf »

Pris Ticedi

Glyn Griffiths|09:54, Dydd Gwener, 19 Hydref 2012

Yn 1966 mi es i weld pob gem yng Nghwpan y Byd yn Wembley - deg gem - a chyfanswm pris y ticedi oedd £7 a pymtheng swllt ( £7-75), gan dalu £1 - 75 am diced i'r ffeinal yn Wembley! Roedd fy Mam yn credu fy mod yn hollol hurt yn talu cymaint am fynd i weld gem beldroed!

Heddiw rhaid talu £8 i weld Bangor yn chwarae yn Uwchgynghrair Cymru, ond tydi hyn yn ddim i'w gymharu â faint mae rhaid talu i weld gem yn Uwchgynghrair Lloegr.

Mae’r BBC wedi cynnal ymchwil i bris ticedi cyfoes gan nodi fod costau i weld gemau ar draws cynghreiriau Lloegr wedi codi bron12% dros y flwyddyn ddiwethaf.

Newcastle sydd yn cynnig y ticed rhataf i un rhan o'r stadiwm - £15 a hyn ond punt yn fwy na’r ticed rhataf i weld Wrecsam ar y Cae Ras. Ond gyda thiced mwyaf costus Wrecsam yn costio £18, rhaid talu £50 yn Newcastle.

Ond diolchwch nad ydych yn mynych Stadiwm Emirates i weld Arsenal yn rhy aml - £26 am y rhataf, ond £126 am y sedd orau. Wrth gwrs fe geir gostyngiad pris i'r rhai ohonom sydd yn hyn - es i weld Everton yn ddiweddar a thalu £23 yn lle £34 oherwydd fy oed!

Tra mae costau ar gyfartaledd yn Lloegr wedi codi 11.7%, ar 22% yn Uwchgynghrair Lloegr tra mae codiad chwyddiant ar brisiau yn gyffredinol yn y Deyrnas Gyfunol yn ddim mwy na 2.2%. Sut felly mae peldroed yn gallu cyfiawnhau’r chwyddiant mewn prisiau ticedi, o’i gymharu â chwyddiant, a hynny ar bob lefel o beldroed proffesiynol?

Ond, gyda dros 92% o seddau yn yr Uwchgynghrair wedi eu gwerthu'r llynedd, anodd ydi honni fod y prisiau yma yn rhwystro cefnogwyr rhag mynd i'r gemau.

Mae Cymdeithas Cefnogwyr Peldroed eisiau’r Gymdeithas Beldroed ddefnyddio rhan o’r £3 biliwn y caiff am ddarlledu gemau, ei ddefnyddio i wneud gemau yn rhatach. Ond os yw’r caeau yn llawn, pwy sydd am geisio cyflawni hyn yn sydyn?

Yn y cyfamser, £20 ydi pris ticed i weld Borrussia Dortmund yn y Bundesliga yn yr Almaen, gyda thyrfaoedd ar gyfartaledd yn cyrraedd 40,000,mewn cynghrair gystadleuol gyda siawns go dda i unrhyw un o nifer o dimau ddod yn bencampwyr.

Tybed beth ydi cost awyren rad i’r Almaen ar ddydd Sadwrn?

BBC © 2014Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.