Dyfodol ein tim cenedlaethol
Mae'r timau Cymreig yn gosod safon uchel o fewn eu cynghreiriau yn Lloegr - Casnewydd a Wrecsam yn y Gyngres, Caerdydd yn y Bencampwriaeth ac Abertawe, er yn dangos anghysondeb ar hyn o bryd, yn cadw eu pennau uwch y dŵr yn yr Uwchgynghrair - ond mae pryderon yn codi ynglŷn â dyfodol ein tîm cenedlaethol.
Gyda dyfodol Craig Bellamy fel chwaraewr rhyngwladol yn dod yn fwy a mwy ansicr, ydi'n wir dweud nad oes cymaint o chwaraewyr rhyngwladol Cymreig yng ngharfannau y timau dwi newydd gyfeirio atynt?
Tybed a ydi'r ymdrech am lwyddiant yn golygu nad oes cymaint o le i beldroedwyr ifanc o Gymru mwyach yn eu timau lleol a bod rhaid chwilio am chwaraewr o safon (beth bynnag y gynghrair) o'r tu allan i Gymru?
Gellir ddadlau, i gyfeiriad Wrecsam a Chasnewydd fod yna ddigon o chwaraewr galluog a allai fod wedi cael eu hystyried, ond sydd wedi cael eu hanwybyddu - ac wedi ymuno a thimau eraill. Esiampl o hyn ydi Craig Jones a symudodd o'r Seintiau Newydd i Bury; Nathan Craig a aeth i Torquay; Rhys Griffiths a ymunodd a Plymouth; a Jake Cassidy a aeth o Gyffordd Llandudno i Airbus, ac yna i Wolverhampton Wanderers - cyn mynd ar fenthyg i Tranmere Rovers.
Faint o sylw mae ein timau Cymreig megis Casnewydd a Wrecsam, er gwaethaf eu llwyddiant hyd yn hyn, yn ei roi i ddatblygiad chwaraewyr ifanc o fewn Cymru heddiw?
Does dim dadlau fod Joe Allen wedi cyrraedd safon uchel - enillydd gwobr chwaraewr gorau Cymru'r wythnos diwethaf, a bod y diolch i Abertawe am hyn, cyn gweld Allen yn symud i Lerpwl.
Cafodd Aaron Ramsey ei ddatblygu gan Gaerdydd cyn symud i Arsenal, felly hefyd Joe Ledley ac Adam Matthews cyn mynd i Celtic.
Ond, ai timau ble fydd chwaraewyr yn cael ei datblygu yn hytrach na thimau all gadw eu doniau ifanc gorau ydi Abertawe a Chaerdydd erbyn heddiw?
Yn sgil hyn, a fyddwn yn gweld y chwaraewyr o Gymru (sydd yn chwarae i dimau yn Lloegr) yn tynnu allan o gemau rhyngwladol cyfeillgar (ac hefyd o gemau cystadleuol sydd ddim yn allweddol ) o dan orchymyn clybiau sydd heb unrhyw ddiddordeb mewn canlyniadau timau rhyngwladol?
Fel capten Cymru, mae'n debyg fod Arsenal wedi ei weld yn ddyletswydd arnynt i ryddhau Aaron Ramsey i chwarae dros Gymru. Tybed a fyddant lawn mor gefnogol, nawr fod Ashley Williams wedi ei benodi yn gapten yn ei le, ac Aaron yn ddim mwy nac aelod arall o'r garfan genedlaethol - ac a fydd Joe Allen yn cael ei ryddhau gan Lerpwl yn yr un modd ag a wnaeth gan Abertawe?
Trin a thrafod y byd pêl-droed yn ffordd unigryw criw 