Help / Cymorth

Archifau Mawrth 2012

Cymru heb yr alltudion

Glyn Griffiths|10:51, Dydd Iau, 22 Mawrth 2012

Sylwadau (0)

Ar ôl yr holl stŵr a godwyd pan benderfynodd Cymdeithas Beldroed Cymru y gallai clybiau alltud Cymru (sef Caerdydd, Abertawe, Casnewydd, Wrecsam, Merthyr a Bae Colwyn) gystadlu yng Nghwpan Cymru, cafwyd siom yr wythnos yma wrth i UEFA gyhoeddi na allai unrhyw un ohonynt gymhwyso ar gyfer Cwpan Ewropa drwy gipio Cwpan Cymru.

Does dim ond un llwybr i'r cyfandir - ac felly gan mai yn Lloegr mae'r timau yma yn chwarae, drwy drefn Lloegr rhaid cymhwyso ar y llwybr hwnnw.

Siom aruthrol, ond hwyrach nid tasg amhosib i Abertawe a Chaerdydd efallai, ond i'r gweddill, does yna fawr o gysur.

Mae hyn felly yn gofyn a oes yna unrhyw bwrpas i'r alltudion gystadlu o fewn Cymru - a byddai hynny yn siom enfawr i'r Gymdeithas.

Mae nifer o ddilynwyr clybiau Uwchgynghrair (a chynghreiriau eraill) Cymru, eisoes wedi ei gwneud yn eithaf clir nad oeddynt yn gefnogol i ddychweliad yr wyth tîm i'r gystadleuaeth..

Ond beth nesaf os am barhau heb yr alltudion?

Does wybod, ond os ydi'r clybiau o fewn Cymru yn credu y gallant gynnal peldroed o fewn y wlad heb gyfraniad y gweddill, yna bydd angen tipyn o waith i sicrhau fod tyrfaoedd yn dod ymlaen i gefnogi'r prif dimau mewn Uwchgynghrair Cenedlaethol.

Mae hyn ynddo'i hun wedi dod yn broblem gyda chlwb mor llwyddiannus a deniadol eu harddull a Llanelli yn gweld ei thorf leiaf o 95 yn yr Uwchgynghrair y Sadwrn diwethaf yn erbyn y Bala.

Gyda Chastell Nedd a hefyd y Seintiau Newydd yn ei chael yn anodd denu nifer sylweddol o gefnogwyr, rhaid gofyn beth fydd dyfodol Uwchgynghrair Cymru a sut y caiff ei chynnal i sicrhau denu a chadw torfeydd yn ogystal â gwella a gwarchod safonnau?

Gwers i Mancini

Glyn Griffiths|12:52, Dydd Gwener, 16 Mawrth 2012

Sylwadau (0)

Tynnodd rhywun fy sylw yn ddiweddar o boster a welwyd mewn ysgol yn hybu ymddygiad da a sgiliau cymdeithasol yn y plant.

Ar y wal roedd penawd :- 'Peidiwch â dweud unrhyw beth yn eich tymer a fyddech yn dod i'w ddifaru yn y dyfodol'.

Oddi tan y penawd roedd llun - o Roberto Mancini a Carlos Tevez a'r dyfyniad gan Mancini wrth edrych i lygaid Tevez, yn dweud - 'Wnei di byth yn chwarae i'r clwb yma eto!'

Oes, mae llawer o ddŵr wedi llifo drwy ddyfroedd Manchester City ers yr Hydref.

Gyda'r clwb allan o gystadlaethau Ewrop, ac yn dechrau chwysu yn eu brwydr i gipio pencampwriaeth yr Uwchgynghrair oddi ar eu cymdogion Manchester United, mae geiriau Mancini yn dod yn ôl i'w gyniweirio!

Ydi, mae Tevez ar y ffordd yn ol - pob maddeuant - ond tybed pa mor hir fydd Mancini yn cael aros os na ddaw tlws yr Uwchgynghrair i ddwyrain y ddinas?

Gwers felly inni gyd ar beth i ddweud mewn tymer - a gwers inni hefyd wrth ddeall mai mawr fyddai gwobr Carlos Tevez, Roberto Manicin a phawb arall yn Stadiwm Etihad os caiff y dyn bach ei ben yn glir!

Gyda llaw mae yna stori fod angen visa i deithio i Fanceinion erbyn heddiw - gan fod y ddinas ddim mwyach yn Ewrop!

Casnewydd yn Wembley

Glyn Griffiths|14:25, Dydd Mawrth, 6 Mawrth 2012

Sylwadau (0)

Clwb sydd heb gael llawer o sylw yn y blog yma ydi Casnewydd, ond yr wythnos hon mae pethau wedi newid.

Y Sadwrn yma byddant yn wynebu Wealdstone o ogledd Llundain yng nghymal cyntaf rownd cyn-derfynol Tlws Cymdeithas Beldroed Lloegr yn Stadiwm Casnewydd.
Cyn y Nadolig, byddai darogan gweld Casnewydd yn parhau mewn unrhyw gwpan ym mis Mawrth, heb son am rownd gyn-derfynol cystadleuaeth Lloegr, yn gwneud i rhywun gredu fod y gosodiad yna yn hollol lloerig. Ond nid mwyach. Mae Justin Edinburgh, y rheolwr presenol yn prysur roi trefn ar bethau, ac mae wedi cryfhau'r garfan yn sylweddol, gan hefyd godi hyder a hygrededd y chwaraewyr.

Un o gefnogwyr mwyaf brwd y clwb ers symud i fyw i Gasnewydd wyth mlynedd yn ôl ydi Idris Charles. Cefais sgwrs gydag Idris ac fe ddywedodd fod y tymor wedi bod yn un siomedig ond bod Justin Edinburgh, y rheolwr newydd, wedi troi pethau o gwmpas.
Cred Idris fod Edinburgh yn adnabod y gynghrair cystal ag unrhyw reolwr arall, ac yn ystod y chwe wythnos diwethaf mae'r rheolwr wedi ychwanegu ei chwaraewyr ei hun i'r garfan ac mae hyn wedi cael ei adlewyrchu ar y cae gyda bwa Wembley yn ei wahodd erbyn heddiw!

Mae cysylltiadau agos a Chymru gan dri o chwaraewyr Wealdstone.
Chwaraeodd Sean Cronin, yr amddiffynnwr, yn Uwchgynghrair Cymru gyda Chastell-nedd ar ôl trosglwyddo o glwb Bryntirion Athletic ger Pen-y-bont.

Mae'r golwr Jonathan North wedi chwarae i nifer o dimau ieuenctid Cymru a chafodd ei enwi fel chwaraewr y flwyddyn i'w glwb y llynedd.

Yng nghanol y cae mae Kurtney Brookes, sydd, fel Jonathan North wedi ymuno a Wealdstone o Watford - a hefyd wedi cynrychioli Cymru o dan bedwar ar bymtheg oed.

Gyda Chasnewydd yn prysur ddringo o grafangau gwaelod y gynghrair, bydd y ddwy gêm nesaf yn rhoi seibiant o'r gynghrair ond hefyd yn gallu cryfhau'r hyder, yr hygrededd, y gobaith a'r breuddwydion a all Wembley ond eu cynnig i ddilynwyr a thimau peldroed.

Pob lwc iddynt ar y daith.

Gem goffa Gary Speed

Glyn Griffiths|13:44, Dydd Gwener, 2 Mawrth 2012

Sylwadau (0)

Roedd yn noson drist, ond roeddwn yn falch fy mod wedi mynd i Stadiwm Caerdydd nos Fercher ar gyfer gem goffa Gary Speed.

Trefnwyd y noson yn ofalus gan y Gymdeithas Beldroed gyda chyfraniadau teilwng gan y Super Furry Animals, Bryn Terfel a Chôr Meibion Risga, Mike Peters, Only Men Aloud a hefyd Courtenay Hamilton yn arwain ein hanthem genedlaethol.

Roedd y dorf yn llawn parch at y diweddar Gary Speed a chanlyniad y gêm, er yn siomedig, yn cael ei ddiystyru.

Hwyrach mai ar y cae, yr hyn a welwyd oedd yr hyn a oeddem yn ei wybod yn barod, ac wedi ei wybod am beth amser, sef bod Cymru yn cael ei wanhau yn sylweddol os nad yw'r prif chwaraewyr ar gael. Roedd absenoldeb Gareth Bale ac Aaron Ramsey yn benodol, yn amlwg yn y chwarae.

Ond yn Efrog Newydd ym mis Mai bydd cychwyn gyrfa Chris Coleman fel rheolwr mewn gem gyfeillgar yn erbyn Mecsico.

Yn y cyfamser diolch i Gary Speed am ei arweiniad, am y gwelliant, ac am roi gobaith newydd.

Byddwn i gyd yn ei golli.

BBC © 2014Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.