Cymru heb yr alltudion
Ar ôl yr holl stŵr a godwyd pan benderfynodd Cymdeithas Beldroed Cymru y gallai clybiau alltud Cymru (sef Caerdydd, Abertawe, Casnewydd, Wrecsam, Merthyr a Bae Colwyn) gystadlu yng Nghwpan Cymru, cafwyd siom yr wythnos yma wrth i UEFA gyhoeddi na allai unrhyw un ohonynt gymhwyso ar gyfer Cwpan Ewropa drwy gipio Cwpan Cymru.
Does dim ond un llwybr i'r cyfandir - ac felly gan mai yn Lloegr mae'r timau yma yn chwarae, drwy drefn Lloegr rhaid cymhwyso ar y llwybr hwnnw.
Siom aruthrol, ond hwyrach nid tasg amhosib i Abertawe a Chaerdydd efallai, ond i'r gweddill, does yna fawr o gysur.
Mae hyn felly yn gofyn a oes yna unrhyw bwrpas i'r alltudion gystadlu o fewn Cymru - a byddai hynny yn siom enfawr i'r Gymdeithas.
Mae nifer o ddilynwyr clybiau Uwchgynghrair (a chynghreiriau eraill) Cymru, eisoes wedi ei gwneud yn eithaf clir nad oeddynt yn gefnogol i ddychweliad yr wyth tîm i'r gystadleuaeth..
Ond beth nesaf os am barhau heb yr alltudion?
Does wybod, ond os ydi'r clybiau o fewn Cymru yn credu y gallant gynnal peldroed o fewn y wlad heb gyfraniad y gweddill, yna bydd angen tipyn o waith i sicrhau fod tyrfaoedd yn dod ymlaen i gefnogi'r prif dimau mewn Uwchgynghrair Cenedlaethol.
Mae hyn ynddo'i hun wedi dod yn broblem gyda chlwb mor llwyddiannus a deniadol eu harddull a Llanelli yn gweld ei thorf leiaf o 95 yn yr Uwchgynghrair y Sadwrn diwethaf yn erbyn y Bala.
Gyda Chastell Nedd a hefyd y Seintiau Newydd yn ei chael yn anodd denu nifer sylweddol o gefnogwyr, rhaid gofyn beth fydd dyfodol Uwchgynghrair Cymru a sut y caiff ei chynnal i sicrhau denu a chadw torfeydd yn ogystal â gwella a gwarchod safonnau?
Trin a thrafod y byd pêl-droed yn ffordd unigryw criw 