Casnewydd yn Wembley
Clwb sydd heb gael llawer o sylw yn y blog yma ydi Casnewydd, ond yr wythnos hon mae pethau wedi newid.
Y Sadwrn yma byddant yn wynebu Wealdstone o ogledd Llundain yng nghymal cyntaf rownd cyn-derfynol Tlws Cymdeithas Beldroed Lloegr yn Stadiwm Casnewydd.
Cyn y Nadolig, byddai darogan gweld Casnewydd yn parhau mewn unrhyw gwpan ym mis Mawrth, heb son am rownd gyn-derfynol cystadleuaeth Lloegr, yn gwneud i rhywun gredu fod y gosodiad yna yn hollol lloerig. Ond nid mwyach. Mae Justin Edinburgh, y rheolwr presenol yn prysur roi trefn ar bethau, ac mae wedi cryfhau'r garfan yn sylweddol, gan hefyd godi hyder a hygrededd y chwaraewyr.
Un o gefnogwyr mwyaf brwd y clwb ers symud i fyw i Gasnewydd wyth mlynedd yn ôl ydi Idris Charles. Cefais sgwrs gydag Idris ac fe ddywedodd fod y tymor wedi bod yn un siomedig ond bod Justin Edinburgh, y rheolwr newydd, wedi troi pethau o gwmpas.
Cred Idris fod Edinburgh yn adnabod y gynghrair cystal ag unrhyw reolwr arall, ac yn ystod y chwe wythnos diwethaf mae'r rheolwr wedi ychwanegu ei chwaraewyr ei hun i'r garfan ac mae hyn wedi cael ei adlewyrchu ar y cae gyda bwa Wembley yn ei wahodd erbyn heddiw!
Mae cysylltiadau agos a Chymru gan dri o chwaraewyr Wealdstone.
Chwaraeodd Sean Cronin, yr amddiffynnwr, yn Uwchgynghrair Cymru gyda Chastell-nedd ar ôl trosglwyddo o glwb Bryntirion Athletic ger Pen-y-bont.
Mae'r golwr Jonathan North wedi chwarae i nifer o dimau ieuenctid Cymru a chafodd ei enwi fel chwaraewr y flwyddyn i'w glwb y llynedd.
Yng nghanol y cae mae Kurtney Brookes, sydd, fel Jonathan North wedi ymuno a Wealdstone o Watford - a hefyd wedi cynrychioli Cymru o dan bedwar ar bymtheg oed.
Gyda Chasnewydd yn prysur ddringo o grafangau gwaelod y gynghrair, bydd y ddwy gêm nesaf yn rhoi seibiant o'r gynghrair ond hefyd yn gallu cryfhau'r hyder, yr hygrededd, y gobaith a'r breuddwydion a all Wembley ond eu cynnig i ddilynwyr a thimau peldroed.
Pob lwc iddynt ar y daith.
Trin a thrafod y byd pêl-droed yn ffordd unigryw criw 