Ysgwyd llaw cyn gemau - rhagrith llwyr?
Bid iddo yn ei law lwyth
o faw diawl; ef a'i dylwyth!
Cwpled gan Dafydd ap Gwilym, ond tybed a oedd Luis Suarez yn ymwybodol o ganu'r hen feirdd Cymreig wrth iddo ymddangos fel petai am ddymuno rhywbeth tebyg i Patrice Evra a thylwyth Manchester United bnawn Sadwrn diwethaf yn Old Trafford yng nghanol y ddefod seremonïol o ysgwyd llaw cyn y gêm?
Annoeth yw cicio nyth cacwn ond llwyddodd Suarez i roi cic go iawn i drefn yr F.A. gan gynhyrfu Syr Alex a Kenny Dalglish cymaint nes bod y cafalri o'r Unol Dalaethau wedi cyrraedd Lerpwl i ddod a threfn ar bethau yn Anfield.
Ond o ddifri, oes yna unrhyw bwrpas i'r ysgwyd llaw ddefodol sydd yn cael ei chynnal yn enw chwarae teg cyn y gemau yma?
Alla'i fawr feddwl fod unrhyw un yn cymryd y rhain o ddifrif. Ond mae gweinyddwyr y gêm yn credu fod hyn i gyd yn cyfrannu yn llesol tuag at ysbryd gêm ac yn hybu'r agwedd o chwarae teg, cyn i'r chwaraewyr ddeifio, twyllo a chicio ei gilydd yn ddarnau am awr a hanner.
Ai rhagrith llwyr ydi hyn?
Os felly, tybed mai'r unig un sydd yn ddieuog o gael ei alw yn rhagrithiwr ydi Luis Suarez ac mai fo sydd yn gywir wedi'r cwbl!
Hmmm!!!!
Trin a thrafod y byd pêl-droed yn ffordd unigryw criw 