Perthynas Wrecsam ac Abertawe
Curtis Obeng ydi'r ail gefnwr i ymadael a Wrecsam ac ymuno ac Abertawe o fewn cyfnod o ddwy flynedd.
Os bydd symudiad Obeng cystal ag un Neil Taylor, yna bydd dyfodol disglair i'r chwaraewr hoffus a ymunodd a thîm y Cae Ras o Manchester City yn 2009. Fel rhan o'r trosglwyddiad mae amddiffynnwr Abertawe a chapten tîm Cymru o dan 21 oed, Daniel Alfei, wedi mynd ar fenthyg i'r Cae Ras am weddill y tymor.
Ond nid dyma'r unig ddau chwaraewr i symud rhwng Wrecsam ac Abertawe. Gwnaeth Joe Allen, chwaraewr canol cae Abertawe, y daith i Wrecsam - gan chwarae dwy gêm ar fenthyg yno yn 2008.
Peidier ag anghofio cyn-flaenwr y Cae Ras, Lee Trundle a ddaeth yn dipyn o ffefryn i'r Elyrch, gan sgorio 78 o goliau mewn 148 o gemau rhwng 2003 a 2007 gyda'i 'magic daps'! - hyn ar ôl chwarae 97 o gemau i Wrecsam a sgorio 27 o weithiau. Dychwelodd Trundle i'r Liberty yn 2009/10 ar fenthyg o Bristol City gan sgorio 5 gol mewn ugain gêm.
Aeth y golwr Dai Davies o Wrecsam I Abertawe hefyd - wedi chwarae 144 o gemau ar y Cae Ras rhwng 1977 a 1981, fe ymunodd a thîm Abertawe yn yr adran gyntaf yn 1981, gan aros yno am ddwy flynedd.
Er mai gyda Wrecsam mae enw Brian Flynn yn cael ei gysylltu fwyaf, a hynny fel rheolwr - bu yno o 1989 hyd 2001, cafodd hefyd gyfnod o ddwy flynedd fel rheolwr ar Abertawe rhwng 2002 a 2004.
Mae Flynn yn cael ei gysylltu yn aml gyda rhediadau Wrecsam yng nghwpan Lloegr - yn enwedig y gêm honno welodd y tîm yn trechu Arsenal ar y Cae Ras yn 1992. Aeth sgoriwr yr ail gôl yn y gêm honno, Steve Watkin hefyd ymlaen i chwarae dros Abertawe yn 1997, gan aros yno nes 2001.
Tra mae llawer yn son y dyddiau yma am sefyllfa Abertawe ar waelod yr hen bedwaredd adran yn nhymor 2003/04, Flynn oedd yr arweinydd a roddodd y gobaith newydd iddynt, gan sicrhau eu dyfodol yn y gynghrair gyda buddugoliaeth hanesyddol dros Hull City yng ngêm olaf tymor 2003/04.
Tipyn o hanes felly rhwng y ddau glwb, ac mae nifer o gefnogwyr Wrecsam yn dechrau meddwl, os gall y Swans achub eu dyfodol a dringo i'r uchelfannau y maen't ynddo heddiw (wyth mlynedd ar ôl curo Hull) pam na all Wrecsam ail godi a chamu ymlaen llawn mor hyderus?
Pam lai?
Trin a thrafod y byd pêl-droed yn ffordd unigryw criw 