Help / Cymorth
« Blaenorol|Hafan|Nesaf »

Lerpwl v Caerdydd

Categorïau:

Glyn Griffiths|12:14, Dydd Mawrth, 21 Chwefror 2012

A fydd Caerdydd yn chwifio'r faner dros Gymru brynhawn Sul?

Mae yna ddigon o bobl yn meddwl hynny (ac mae yna rai hefyd yn credu fod Abertawe yn gwneud yr un peth yr Uwchgynghrair).

Ond tybed beth petai rhywun yn teithio ar hyd a lled gogledd Cymru yn ceisio argyhoeddi pawb mai cefnogi'r timau Cymreig sydd rhaid?

Roedd gan Sam Hamman syniad cyffelyb yn ei ddyddiau gyda Chaerdydd - gan feddwl y gallai greu Caerdydd ar ddelwedd Barcelona a chreu Cymru gyfan yn rhyw Gatalonia peldroedaidd i'w gefnogi. 'Scêrsli bilîf' a distaw iawn oedd hi o gyfeiriad Abertawe, Wrecsam a Bangor pan gafodd hyn ei grybwyll!

Yn wir daeth atgofion o ymdrechion Hamman yn ôl wrth imi weld fod Caerdydd yn cynnig gostyngiad pris o £12 oddi ar grys replica'r clwb os daw rhywun a chrys clwb Lerpwl iddynt a'i gyfnewid am grys Caerdydd. Ymddengys fod yna gymaint o gefnogwyr Lerpwl yn ôl y son yn byw o gwmpas y brif ddinas a chymoedd y de!

Mae yna bocedi o gefnogwyr ym mhob man - a daw 'Jacks y Gogledd' i feddwl ar unwaith, a'u teyrngarwch diffuant i Abertawe.

Ond gyda llawer mwy o gefnogwyr peldroed gogledd Cymru yn heidio i gyfeiriad Anfield, Parc Goodison, Elland Road ac Old Trafford yn gyson, allai ddim gweld y siwrnai yn cael ei hymestyn ar hyd ar A470, neu i lawr y gororau i gyfeiriad y brif ddinas na chwaith i'r Liberty.

Does gen i fawr o amheuaeth fodd bynnag y byddai bron pob Cymro sydd yn dilyn peldroed (heblaw cefnogwyr Lerpwl a hwyrach Abertawe) yn gobeithio y gall yr Adar Gleision lwyddo yn Wembley.

A chofiwch - y tro diwethaf i dîm o Gymru fynd i Wembley, daeth dyrchafiad i'r Uwchgynghrair yn sgil y fuddugoliaeth.

Tybed mai tro Caerdydd fydd cael buddugoliaeth yn Wembley eleni?

BBC © 2014Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.