Help / Cymorth

Archifau Ionawr 2012

Strategaeth 2012 Cymdeithas Beldroed Cymru

Glyn Griffiths|15:08, Dydd Iau, 26 Ionawr 2012

Sylwadau (0)

Mae Cymdeithas Beldroed Cymru wedi cyhoeddi ei chynlluniau strategol a'i gweledigaeth ar gyfer y dyfodol mewn llawlyfr Strategaeth 2012. Lansiwyd y fenter yma gan brif weithredwr y gymdeithas, Jonathan Ford, ac yno hefyd oedd rheolwr newydd Cymru, Chris Coleman, a Phrif Weinidog Cymru, Carwyn Jones.

Neges y strategaeth ydi gwireddu'r neges a welir ar fathodyn y Gymdeithas, sef ' Gorau Chwarae Cyd Chwarae'.

Dymuna'r Gymdeithas weld mwy o waith tîm o fewn y genedl ym mhob agwedd o'r gêm, cyfathrebiad gwell ac esblygiad drwy ddatblygu persbectif hirdymor yn ogystal ag ennill mwy a chydnabod llwyddiant ym mhob maes o'i gweithgareddau.

Mae'r fideo a geir ar gyfer y lansiad hefyd yn tynnu sylw at weithgareddau sy'n dangos blaengaredd yn ogystal â hyrwyddo proffil y gymdeithas mewn dull cyfoes, uchel ei phroffil.

Mae hefyd yn gosod yr her a'r sialens i godi safonau ar ac oddi-ar y cae.

Yn y cyd-destun yma, mae mwy na chwilio am lwyddiant i'r tîm cenedlaethol yn cael ei annog. Mae yn awyddus fod Uwchgynghrair Cymru a chystadlaethau eraill o fewn Cymru yn cael eu cynnwys ac yn dod yn rhan amlwg yn y byd chwaraeon o fewn ein cenedl.

O fewn y llyfryn a gyhoeddwyd ar gyfer yr achlysur yma, (Cynllun Strategol - y Neges Ar Waith) ceir amlinelliad o'r agweddau y bydd y gymdeithas yn eu hyrwyddo er mwyn gwelliant gan gynnwys:-

• Bod yn broffesiynol
• Sicrhau cynhwysiant i bawb;
• Rhannu egwyddorion a gwerthoedd;
• Datblygiad technegol a chraffter busnes.

Dim ond y dyfodol all ddangos inni pa mor effeithiol a gweithredol fydd y strategaeth yma, a bydd manylder a gweithrediad y cynllun eto i'w wireddu a'i osod yn ei le ar lefel pob dydd.

Yn y cyfamser tybed sut y byddech chi yn ymateb i'r newidiadau - ac a fydd y rhain yn cael ei mabwysiadau ar draws y genedl gan bawb sydd yn ymwneud a'r gêm?

Mae'n hen ystrydeb - ond gawn ni weld, amser a ddengys.

Chris Coleman

Categorïau:

Glyn Griffiths|10:14, Dydd Llun, 23 Ionawr 2012

Sylwadau (0)

Mae'r rheolwr newydd yn ei le, ond eto, anghydfod yn codi ynglŷn â'r penodiad.

Ond nid o fewn Cymru mae'r ffrae nerwydd wedi codi, ond o Wlad Groeg.

Cynted ag y clywodd clwb Larissa fod Chris Coleman am arwain Cymru, daeth bygythiad am erlyn yr apwyntiad yn sgil ymadawiad sydyn Coleman o'r clwb ble roedd yn rheolwr.

Roedd cryn ddadlau yma yng Nghymru ynglŷn â sut fyddai olynydd Gary Speed yn ymgymryd a'r awenau - ond gwnaeth Coleman yn glir yn ei gyfweliad cyntaf mai fo ydi'r rheolwr, a fo fydd yn arwain.

Hwyrach mai reit ar y cychwyn oedd yr amser iddo osod ei farc - ac mae Coleman wedi gwneud hynny yn ddigon clir - er hwyrach nid i'r un graddau a wnaeth John Toshack pan ddywedodd - " Fy ffordd i neu'r ffordd fawr" ("My way or the highway") .

O leiaf mae rhywun yn gwybod o'r cychwyn sut y mae Chris Coleman am ymdopi ac ymateb a'i swydd newydd.

Bydd yn ddiddorol edrych ar y gwahanol sylwadau a fydd yn codi, a phwy fydd yn cael cydweithio gyda'r rheolwr newydd.

Mae ambell un wedi rhoi barn ar beth a allasai ddigwydd - gan gynnwys Aaron Ramsey a'r is reolwr Raymond Verheijen. Mae yna sylw hefyd wedi cael ei roi yn rhai o'r cyfryngau ynglyn a ddyfodol Craig Bellamy o fewn carfan Cymru.

Mae'n amlwg, oherwydd yr amgylchiadau anffortunus, na fydd gwaith y rheolwr newydd yn hawdd ar y cychwyn. Serch hynny, mae wedi cael ei benodi - a'n dyletswydd ni fel cefnogwyr ydi ategu yr apwyntiad gan obeithio y bydd y safonau a welwyd yn dechrau cael eu magu o dan Gary Speed yn parhau i'r dyfodol.

Beth yw eich barn chi?

Man U: cadwer i'r oesau a ddêl y glendid a fu

Categorïau:

Glyn Griffiths|10:28, Dydd Gwener, 13 Ionawr 2012

Sylwadau (0)

Yr wythnos yma roeddwn yng nghanolfan ymarfer Manchester United ym mhentref Carrington ar gyrion dinas Manceinion.

Na, nid mynd yno i weld y tîm yn ymarfer yr oeddwn, ond i weld darn o fosaig yn ystafell newid y tîm cyntaf.

Crëwyd y mosaig yma o fathodyn Manchester United gan artist ifanc o Dreffynnon, sydd erbyn heddiw yn byw yn Leeds ac yn dechnegydd yn adran celf prifysgol Leeds.

Cafodd Gareth Griffiths alwad gan aelod o staff United yn gofyn iddo a oedd yn dal i gynhyrchu gwaith celf, ac os felly a fyddai â diddordeb derbyn comisiwn i greu mosaig o fathodyn y clwb, ar gyfer yr ystafell newid a oedd yn cael ei ail-drefnu.

Ymddengys fod Syr Alex Ferguson am newid awyrgylch Carrington a gosod arwydd cyfoes i'r clwb i atgoffa'r chwaraewyr mai dyma galon y clwb y maent yn chwarae drosto.
Cafodd y gwaith celf ei wneud yn ystod yr Haf, ac mae'n mesur pedwar troedfedd o uchder a lled.

Mae wedi ei wneud gyda theils, ac mae yna hefyd fosaig o fathodyn llai ei faint, a wnaethpwyd fel prototeip cyn i United ddyfarnu'r cytundeb ar gyfer yr un mwy i Gareth. Mae'r mosaig bach yn addurno swyddfa Syr Alex erbyn heddiw.

Dywed Gareth fod y clwb am gael arwydd a fyddai yn dangos parhad y clwb dros y blynyddoedd , o'i gymharu â'r darluniau a fyddai yn dyddio yn hawdd a dod yn amherthnasol yn fuan.

Trafodwyd yr hyn a fyddai'n briodol a chytunwyd ar greu mosaig o fathodyn enwog y clwb.

Hwyrach fod y gêm yn brysur newid y dyddiau yma ond mae Manchester United yn ceisio cadw a pharchu traddodiad, fel y gwelir ar furluniau y tu allan i Old Trafford, er mwyn sicrhau y cadwer i'r oesau a ddêl y glendid a fu.

Diolch i gyfraniad artist ifanc o Dreffynnon, mae hynny hefyd yn wir yng nghanolfan ymarfer y clwb yn Carrington.

Gareth Griffiths a mosaic Manchester United

Ar y Marc yn ugain oed

Categorïau:

Criw Ar y MarcCriw Ar y Marc|07:12, Dydd Sadwrn, 7 Ionawr 2012

Sylwadau (0)

Y penwythnos hwn bydd Ar y Marc yn dathlu ei phenblwydd yn 20 oed... oes, mae ugain mlynedd wedi hedfan heibio ers i'r rhaglen gyntaf gael ei darlledu, a hynny ar Ionawr 4ydd, 1992.

I nodi penblwydd y rhaglen yn 20, mae Ywain Gwynedd (gynt o Frizbee) wedi cyfansoddi a recordio can yn arbennig ar gyfer yr achlysur:

Ywain Gwynedd: Ar y Marc yn Ugain Oed

In order to see this content you need to have both Javascript enabled and Flash Installed. Visit BBC Webwise for full instructions. If you're reading via RSS, you'll need to visit the blog to access this content.


Efallai fod dyddiad y rhaglen gyntaf erioed o Ar y Marc yn canu cloch i ambell un, gan mai ar yr union ddyddiad yna hefyd y gwnaeth Wrecsam (o'r bedwaredd adran) guro Arsenal (pencampwyr yr adran gyntaf) 2-1 yn nhrydedd rownd Cwpan yr FA, mewn gem fythgofiadwy ar y Cae Ras.

Sylwebaeth Wrecsam v Arsenal

In order to see this content you need to have both Javascript enabled and Flash Installed. Visit BBC Webwise for full instructions. If you're reading via RSS, you'll need to visit the blog to access this content.

Nid Wrecsam yw'r unig glwb o Gymru i gael buddugoliaeth hanesyddol yn erbyn un o glybiau mawr Lloegr yn ystod yr ugain mlynedd ddiwethaf fodd bynnag - mewn gem llawn mor fythgofiadwy ar Barc Ninian ar Ionawr 6ed 2002, cafodd Leeds United (oedd ar frig yr adran gyntaf ar y pryd) eu curo 2-1 gan Gaerdydd (oedd yn yr hen bedwaredd adran).

Sylwebaeth Caerdydd v Leeds

In order to see this content you need to have both Javascript enabled and Flash Installed. Visit BBC Webwise for full instructions. If you're reading via RSS, you'll need to visit the blog to access this content.

Allwn ni ddim anghofio am Abertawe - mae hi wedi bod yn dipyn o ugain mlynedd iddyn nhw! Bellach yn mwynhau eu pel-droed yn uwchgynghrair Lloegr, doedd pethau ddim yn mynd cystal iddyn nhw ddim mor bell a hynny nol. Ar Fai 3ydd 2003 roedd y clwb yn chwarae un o'r gemau mwyaf yn eu hanes - nid i ennill unrhyw gwpan, tlws na ddyrchafiad, ond mewn gem oedd yn rhaid iddyn nhw ei hennill i sicrhau eu lle yn y gynghrair bel-droed y tymor canlynol.

Roedd y fformiwla yn un syml - ennill yn erbyn Hull, ac fe fyddai'r tim yn aros yn y gynghrair; colli, a gorfod chwarae eu pel-droed yn y Gyngres wedi'r haf. Mewn gem lle fu Hull ar y blaen ar un pwynt, Abertawe sicrhaodd y fuddugoliaeth ar y chwiban olaf, gan ennill y gem 4-2.

Sylwebaeth Abertawe v Hull

In order to see this content you need to have both Javascript enabled and Flash Installed. Visit BBC Webwise for full instructions. If you're reading via RSS, you'll need to visit the blog to access this content.

Ble oeddech chi ugain mlynedd yn ôl?

Categorïau:

Glyn Griffiths|13:11, Dydd Iau, 5 Ionawr 2012

Sylwadau (0)

Ble oeddech chi ugain mlynedd yn ôl?

Mi wn i ble rown i! - yn hyfforddi tîm cenedlaethol ysgolion Cymru (o dan 18 oed) ar benwythnos yng ngholeg Alsager yn Sir Gaer.

Yno roedd chwaraewyr addawol megis Marc Lloyd Williams a Robbie Savage, yn ogystal â golwr ifanc - Andy Moore - a ddaeth yn fwy enwog fel chwaraewr rygbi rhyngwladol.

Ond rhyw ddeugain milltir dros Glawdd Offa, roedd hanes yn cael ei greu yn nhrydedd rownd Cwpan Lloegr.

Roedd pencampwyr Adran Gyntaf Lloegr, Arsenal, yn ymweld â'r Cae Ras - a Wrecsam druan heb unrhyw obaith o'u curo, ac wedi gorffen ar waelod y bedwaredd adran y tymor blaenorol.

Ond 'rydym i gyd yn gwybod be' ddigwyddodd - diolch i gic rydd fythgofiadwy Mickey Thomas a gôl Steve Watkin - a dyna sioc yng Nghwpan Lloegr yn cael ei greu.

A'i dyma'r sioc fwyaf yn hanes y gystadleuaeth? Hwyrach.

Llwyddodd Sutton United o'r Gyngres (sef y Blue Square heddiw) i guro Coventry City a oedd yn y chweched safle yn yr adran gyntaf yn 1989 gyda'r Cymro Robyn Lloyd Jones yn safle'r cefnwr de i Sutton, a dyna y tro olaf i dîm o'r tu allan i brif gynghreiriau Lloegr guro tîm o'r brif adran (neu'r Uwchgynghrair).

Llwyddodd Henffordd i guro Newcastle mewn un o'r gemau sydd yn cael eu hystyried fel y gorau, yn 1972, ond ychydig o sôn sydd wedi bod am gamp Abertawe yn 1914.

Os mai Sutton ydi'r tîm olaf i guro tîm o'r brif adran, yna yn ôl hanes, Abertawe oedd y tîm cyntaf i wneud hynny. Blackburn Rovers, pencampwyr yr Adran Gyntaf, oedd yr ymwelwyr a'r Vetch ond roedd gôl Ben Benyon (a oedd hefyd wedi chwarae rygbi dros Gymru) yn ddigon i gipio'r fuddugoliaeth o un gôl i ddim i Abertawe.

Does dim llawer wedi cael ei gofnodi am gamp yr Elyrch am fod y Rhyfel Byd Cyntaf wedi cychwyn a phawb wedi dod i ddysgu am yr erchylltra a oedd yn digwydd draw yn y ffosydd.

Ond ymlaen i'r presennol. Tybed pa dimau fydd yn creu sioc eleni?

Oes gobaith gan Wrecsam yn Brighton? A fydd Abertawe yn ymdopi â Barnsley yn gyfforddus, neu a fydd Caerdydd yn llwyddo oddi cartref yn West Bromwich?

BBC © 2014Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.