Man U: cadwer i'r oesau a ddêl y glendid a fu
Yr wythnos yma roeddwn yng nghanolfan ymarfer Manchester United ym mhentref Carrington ar gyrion dinas Manceinion.
Na, nid mynd yno i weld y tîm yn ymarfer yr oeddwn, ond i weld darn o fosaig yn ystafell newid y tîm cyntaf.
Crëwyd y mosaig yma o fathodyn Manchester United gan artist ifanc o Dreffynnon, sydd erbyn heddiw yn byw yn Leeds ac yn dechnegydd yn adran celf prifysgol Leeds.
Cafodd Gareth Griffiths alwad gan aelod o staff United yn gofyn iddo a oedd yn dal i gynhyrchu gwaith celf, ac os felly a fyddai â diddordeb derbyn comisiwn i greu mosaig o fathodyn y clwb, ar gyfer yr ystafell newid a oedd yn cael ei ail-drefnu.
Ymddengys fod Syr Alex Ferguson am newid awyrgylch Carrington a gosod arwydd cyfoes i'r clwb i atgoffa'r chwaraewyr mai dyma galon y clwb y maent yn chwarae drosto.
Cafodd y gwaith celf ei wneud yn ystod yr Haf, ac mae'n mesur pedwar troedfedd o uchder a lled.
Mae wedi ei wneud gyda theils, ac mae yna hefyd fosaig o fathodyn llai ei faint, a wnaethpwyd fel prototeip cyn i United ddyfarnu'r cytundeb ar gyfer yr un mwy i Gareth. Mae'r mosaig bach yn addurno swyddfa Syr Alex erbyn heddiw.
Dywed Gareth fod y clwb am gael arwydd a fyddai yn dangos parhad y clwb dros y blynyddoedd , o'i gymharu â'r darluniau a fyddai yn dyddio yn hawdd a dod yn amherthnasol yn fuan.
Trafodwyd yr hyn a fyddai'n briodol a chytunwyd ar greu mosaig o fathodyn enwog y clwb.
Hwyrach fod y gêm yn brysur newid y dyddiau yma ond mae Manchester United yn ceisio cadw a pharchu traddodiad, fel y gwelir ar furluniau y tu allan i Old Trafford, er mwyn sicrhau y cadwer i'r oesau a ddêl y glendid a fu.
Diolch i gyfraniad artist ifanc o Dreffynnon, mae hynny hefyd yn wir yng nghanolfan ymarfer y clwb yn Carrington.

Trin a thrafod y byd pêl-droed yn ffordd unigryw criw 