Help / Cymorth
« Blaenorol|Hafan|Nesaf »

Ble oeddech chi ugain mlynedd yn ôl?

Categorïau:

Glyn Griffiths|13:11, Dydd Iau, 5 Ionawr 2012

Ble oeddech chi ugain mlynedd yn ôl?

Mi wn i ble rown i! - yn hyfforddi tîm cenedlaethol ysgolion Cymru (o dan 18 oed) ar benwythnos yng ngholeg Alsager yn Sir Gaer.

Yno roedd chwaraewyr addawol megis Marc Lloyd Williams a Robbie Savage, yn ogystal â golwr ifanc - Andy Moore - a ddaeth yn fwy enwog fel chwaraewr rygbi rhyngwladol.

Ond rhyw ddeugain milltir dros Glawdd Offa, roedd hanes yn cael ei greu yn nhrydedd rownd Cwpan Lloegr.

Roedd pencampwyr Adran Gyntaf Lloegr, Arsenal, yn ymweld â'r Cae Ras - a Wrecsam druan heb unrhyw obaith o'u curo, ac wedi gorffen ar waelod y bedwaredd adran y tymor blaenorol.

Ond 'rydym i gyd yn gwybod be' ddigwyddodd - diolch i gic rydd fythgofiadwy Mickey Thomas a gôl Steve Watkin - a dyna sioc yng Nghwpan Lloegr yn cael ei greu.

A'i dyma'r sioc fwyaf yn hanes y gystadleuaeth? Hwyrach.

Llwyddodd Sutton United o'r Gyngres (sef y Blue Square heddiw) i guro Coventry City a oedd yn y chweched safle yn yr adran gyntaf yn 1989 gyda'r Cymro Robyn Lloyd Jones yn safle'r cefnwr de i Sutton, a dyna y tro olaf i dîm o'r tu allan i brif gynghreiriau Lloegr guro tîm o'r brif adran (neu'r Uwchgynghrair).

Llwyddodd Henffordd i guro Newcastle mewn un o'r gemau sydd yn cael eu hystyried fel y gorau, yn 1972, ond ychydig o sôn sydd wedi bod am gamp Abertawe yn 1914.

Os mai Sutton ydi'r tîm olaf i guro tîm o'r brif adran, yna yn ôl hanes, Abertawe oedd y tîm cyntaf i wneud hynny. Blackburn Rovers, pencampwyr yr Adran Gyntaf, oedd yr ymwelwyr a'r Vetch ond roedd gôl Ben Benyon (a oedd hefyd wedi chwarae rygbi dros Gymru) yn ddigon i gipio'r fuddugoliaeth o un gôl i ddim i Abertawe.

Does dim llawer wedi cael ei gofnodi am gamp yr Elyrch am fod y Rhyfel Byd Cyntaf wedi cychwyn a phawb wedi dod i ddysgu am yr erchylltra a oedd yn digwydd draw yn y ffosydd.

Ond ymlaen i'r presennol. Tybed pa dimau fydd yn creu sioc eleni?

Oes gobaith gan Wrecsam yn Brighton? A fydd Abertawe yn ymdopi â Barnsley yn gyfforddus, neu a fydd Caerdydd yn llwyddo oddi cartref yn West Bromwich?

BBC © 2014Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.