Help / Cymorth

Archifau Tachwedd 2011

Gary Speed

Glyn Griffiths|13:43, Dydd Llun, 28 Tachwedd 2011

Sylwadau (0)

Dywedodd y diweddar Tegla Davies nad achub Cymru sydd eisiau, ond gwneud Cymru yn werth ei hachub.

Mis Chwefror diwethaf fe es draw i Ddulyn i weld Cymru yn cychwyn ar daith newydd o dan ofalaeth Gary Speed. Er mai siom a gafwyd, a phrofi siom arall yn Stadiwm y Mileniwm ym mis Mawrth wrth weld Lloegr yn ennill o ddwy gôl i ddim. Ond, roedd ein rheolwr newydd wedi gweld, deall a dysgu, a deffrowyd gobaith newydd, yn ôl yn Nulyn wrth i Gymru guro Gogledd Iwerddon ym mis Mai.

Daeth y troad allweddol yn ddiweddarach yn Stadiwm Caerdydd mewn gêm gyfeillgar yn erbyn Awstralia. Er mai cychwyn yn araf a wnaeth Cymru, daeth tro ar bethau yn ystod ugain munud olaf y gêm gydag awel newydd yn chwarae'r tîm, gyda Gareth Bale a Craig Bellamy yn benodol yn dechrau rhedeg gyda'r bêl tuag at y gwrthwynebwyr ac amrywio dull yr ymosodiadau. Rhy hwyr i sicrhau buddugoliaeth mae'n wir, ond roedd digon i'w weld i ystyried fod Gary Speed wedi cael gafael ar bethau a bod llawer gwell i ddod.

Ac felly bu. Roedd trefn a disgyblaeth yn amlwg yn y gêm yn erbyn Montenegro, gydag Aaron Ramsey a Steve Morison yn dangos y ffordd efo dwy gôl gan guro tîm nad oedd wedi colli yn eu pedair gem agoriadol yng ngrŵp cymhwyso ar gyfer Ewrop 2012.

Er colli yn Wembley i Loegr, roedd yna ddigon i ddangos yn erbyn y Saeson y tro yma o brofi fod y llanw wedi troi. Pan drechwyd y Swistir ar y Liberty yn Abertawe, roedd y wawr wedi torri a daeth mwy o olau dydd wrth guro Bwlgaria oddi cartref yn Sofia.

Fis yn ôl, roedd yn bleser bod yng Nghaerdydd wrth weld Cymru yn ennill am y trydydd tro yn olynol, a chael y bedwaredd fuddugoliaeth mewn pum gêm wrth i'r tîm newydd chwalu Norwy gyda pherfformiad ysgubol enwedig yn yr hanner cyntaf.

Mae'r tîm a gafodd ei ail drefnu gan Gary Speed yn llawn hyder, yn chwarae i batrwm penodol a hefyd yn manteisio ar alluoedd unigolion i wneud penderfyniadau a newid cwrs y chwarae gydag amrywiaeth o sgiliau unigol. Ie, nid breuddwyd ffôl mo'r freuddwyd o gyrraedd Cwpan y Byd ym Mrasil yn 2014 mwyach, ond bydd rhaid ceisio gwneud hynny heb y gŵr sydd wedi gosod y gobaith newydd a'r sylfeini ar gyfer ein dyfodol.

Roedd Gary Speed fel awel newydd yn ei ddull o reoli, yn ysbrydoliaeth i'r chwaraewyr ifanc, yn gyfaill ffyddlon i'r rhai profiadol, yn ffynnon gobaith i'r cefnogwyr ac yn fonheddwr llawn parch ac edmygedd. Mae ei gyfraniad i Gymru, ar y cae ac fel rheolwr wedi bod yn enfawr, a hwyrach y cawn weld y dydd pan allwn ddweud fod llwyddiant y dyfodol yn dystiolaeth o waith cynnar Gary Speed.

Diolch iddo am ei anwyldeb, am ei ymroddiad am ei broffesiynoldeb a diolch iddo hefyd am sicrhau ein bod yn parhau i fod yn falch o'n Cymreictod, ac am iddo wneud Cymru yn werth ei hachub.

Tim GB

Glyn Griffiths|13:18, Dydd Gwener, 11 Tachwedd 2011

Sylwadau (0)

Gyda phob dydd yn dod a'r achlysur yn agosach, dwi yn edrych ymlaen yn enfawr at weld ein Tîm GB yn dangos tipyn o wladgarwch ac ymroddiad dros y genedl.

Digon o dalent ifanc, digon o allu i gystadlu - a hwyrach mynd am y brif wobr.

Ie, cyfle euraidd i weld be mae'r talent ifanc, newydd yn gallu ei gyflawni ar lefel byd-eang .

Does ond gobeithio y bydd y cefnogwyr yn cymryd y gêm lawn mor ddifrifol â'r chwaraewyr, gan ymgynnull yn niferus i gefnogi Tîm GB!

Yn sgil y cyffro sydd yn gyson godi am y tîm yma, does dim lle i laesu dwylo, a bydd angen buddugoliaeth llawn cymaint ag mewn unrhyw gêm arall.

Ie, prynhawn Sadwrn bydd y Tîm GB go iawn, yr un a gaiff sêl bendith ein Cymdeithas Beldroed , sef tîm Gareth Bale yn wynebu Norwy yn Stadiwm Dinas Caerdydd. (Pa dim arall oeddech chi'n meddwl fy mod yn sôn amdano? - Tîm y Golden Balls? Go Brin! Rhag eich cywilydd!)

Mawr hyderwn y bydd Cymru yn parhau a'r cyffro a'r gwelliant a welwyd yn y gemau diweddaraf.

'Gary's Boys' yn darparu ar gyfer mynd am y 'Gold' yn Brasil , a gobeithio bydd gôl i Bellamy hefyd 'Gw'boi'!

FIFA a Chymru

Glyn Griffiths|10:16, Dydd Gwener, 4 Tachwedd 2011

Sylwadau (0)

Ymddengys fod cwmni Emirates, a arwyddodd gytundeb gwerth $195 million am gyfnod o wyth mynedd yn ôl yn 2006, yn dechrau ail feddwl eu cysylltiad â'r gymdeithas bel-droed fyd eang.

Mae'r cyfyng-gyngor yn codi oherwydd yr honiadau fod gweithrediadau FIFA yn cael eu harchwilio am honiadau o lygredd, o dan gyfarwyddyd eu llywydd, Sepp Blatter.
Daw'r mesuriadau i archwilio yn sgil ymddiswyddiad yr unig aelod a oedd am sefyll am y llywyddiaeth yn erbyn Blatter, sef Mohamed Bin Hammam, wedi iddo gael ei gyhuddo o lwgrwobrwyo etholwyr yn y Caribî.

Does yna fawr o hygrededd yn FIFA ar hyn o bryd am mae yna gymaint iddynt feddwl amdano, ac ymateb iddo, fel bod amheuaeth am eu dyfodol yn amlwg yn aflonyddu'r cwmnïau sydd eisoes wedi ymglymu i'w cefnogi a'i noddi.

Yn sgil hyn, ymddengys fod gan FIFA lawer mwy i boeni amdano na dyfodol Cymru fel aelod o'r gyfundrefn, fel mae llawer ohonom yma yn poeni amdano yn sgil datblygiad y tîm Prydeinig ar gyfer y gemau Olympaidd.

Ond i mi, petai FIFA eisiau dod ac aelodaeth Cymru i ben, nid oes angen Gemau Olympaidd arnynt fel esgus i wneud hynny.

Yr hyn sydd i mi yn fwy o fygythiad ydi'r ffaith fod pwyllgor y Gemau Olympaidd yn ymddangos fel petaent yn anwybyddu bodolaeth Cymdeithas Beldroed Cymru ac yn parhau a'u cynlluniau fel na petai Cymru yn bodoli. Ie, 'Beth yw'r ots ganddy'nhw am Gymru? Damwain a hap yw ein bod yn ei llidiart yn byw!'

Hwyrach fod ein pryderon wedi eu cyfeirio tuag at FIFA, sydd a digon a mwy i boeni amdano heb ystyried Cymru. Yn hytrach, oni ddylid arall-gyfeirio ein llais a'n sylwadau a dechrau simsanu yn sgil yr agwedd anghyfforddus sydd yn ymddangos fel petai yn treiddio tuag atom o dan ein trwynau o bencadlys ein cymdogion drws nesaf?

Duw a'n gwaredo - allan ni ddianc rhag hyn?

BBC © 2014Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.