Pêl-droed yn y Gemau Olympaidd
Oes yna ormod o stŵr wedi ei greu ynglŷn â phêl-droed yn y Gemau Olympaidd?
Sail y stŵr ydi'r ofn y byddai FIFA yn gwrthod cydnabod annibyniaeth Cymru, Gogledd Iwerddon, yr Alban (a hefyd Lloegr?) yn y dyfodol petai'r tîm Prydeinig ( tim GB) yn cael ei ffurfio. Er bod FIFA, drwy eu Llywydd Sepp Blatter wedi sicrhau annibyniaeth y gwledydd Celtaidd, mae'n dweud llawer am sefyllfa bêl-droed FIFA nad yw pobol yn rhyw siŵr iawn os gallant ymddiried yn ei eiriau a'i addewidion. Ond mae pobol hefyd yn dechrau creu pob math o resymau pam na ddylid cefnogi Tîm GB, gan fynd ar daith wleidyddol sydd heb unrhyw gysylltiad â'r pryder gwreiddiol.
Os gall rhywun gefnogi tîm criced Lloegr (sydd ddim yn cynnwys enw Cymru, er iddo gynnwys chwaraewyr Cymreig) fel mae nifer o gefnogwyr pêl-droed yn ei wneud yn yr Haf, neu ymfalchïo yng nghampau'r Llewod ar y caeau rygbi, neu gefnogi timau Cymru sydd yn chwarae yng nghynghreiriau Loegr, pam na ellir cefnogi'r tîm pêl-droed am un gystadleuaeth, os na fydd yn effeithio ar annibyniaeth Cymru?
Mae'r amser wedi dod i wneud penderfyniad - a hwyrach y dylai Sepp Blatter, unwaith ac am byth, ddod allan eto'n gyhoeddus a chefnogi dyfodol Cymru, a'r gwledydd Celtaidd eraill, fel gwledydd cydnabyddedig annibynnol oddi fewn i gyfundrefn FIFA a sicrhau iddynt eu dyfodol annibynol.
Mae cyn capten Cymru, Kevin Ratcliffe eisoes wedi dweud y byddai wedi bod yn falch o fod wedi cael chwarae yn y Gemau Olympaidd petai'r cynnig wedi dod iddo fo yn ystod ei yrfa. Mae rheolwr tîm Gogledd Iwerddon, Nigel Worthington hefyd yn ymddangos fel petai yn cefnogi'r syniad, ond barn hollol wahanol, sydd gan gyn golwr Cymru, Neville Southall.
Os caiff annibyniaeth Cymru ei warantu gan FIFA, yna fe allaf innau fel y cefnogwyr rygbi a chriced gefnogi'r tîm Prydeinig am ychydig o wythnosau yng nghanol yr haf y flwyddyn nesaf. Ond, os na chaiff yr annibyniaeth yna ei warantu, yna wfft i dim GB, Seb Coe, a phawb arall.
Yn anffodus, mae cyhoeddiad y Gymdeithas Beldroed (Lloegr), sydd yn honni fod yna gytundeb hanesyddol wedi cael ei gytuno, wedi cythruddo llawer, gan fod amheuaeth fawr am fodolaeth unrhyw gytundeb.
Bydd y ffrae yn siŵr o barhau am amser - ond mae'n bryd i Loegr hefyd dderbyn na allant fynd o gwmpas yn honni pethau sydd y diwrnod wedyn yn cael eu gwadu gan wledydd eraill Prydain.
Fydd yna ddim cytundeb unfrydol ymysg cefnogwyr pêl-droed, ond yn ôl yr hyn a allaf ei weld, does yna ddim hawl cyfreithiol gan unrhyw un rhag rhwystro unrhyw chwaraewr rhag chwarae dros Brydain - a dyna o bosib fydd diwedd y stori.


Trin a thrafod y byd pêl-droed yn ffordd unigryw criw 