Help / Cymorth
« Blaenorol|Hafan|Nesaf »

Pêl-droed ysgolion Cymru

Glyn Griffiths|14:18, Dydd Gwener, 17 Mehefin 2011

Mae hi'n ganmlwyddiant ar Gymdeithas Bêl-droed Ysgolion Cymru, ac fel i nifer o chwaraewyr ifanc a ddaeth i chwarae'r gêm yn broffesiynol, mae gen innau le i ddiolch i bêl-droed ysgolion Cymru.

Dyma ble cefais y cyfle cyntaf i hyfforddi - gyda thîm ysgolion cynradd Glannau Dyfrdwy a gyda bachgen bach o'r Fflint, Ian Rush yn sgorio goliau di-ri ym mhob gem.

Roeddwn yn ffodus, newidiais i hyfforddi timau ysgolion uwchradd sir Fflint, ac, ie, roedd Rushie hefo fi eto o dan bymtheng oed cyn iddo ymadael ac ymuno a thîm Caer. Ymlaen i Lerpwl a dyna enedigaeth un o gewri mwyaf y gêm.

Pa mor enwog oedd Ian Rush? Pan oeddwn yn hyfforddi yn agos i ardal y Bronx yn Efrog Newydd yn yr wythdegau fe ofynnwyd i mi gan griw o chwaraewyr Eidaleg/Americanaidd os oeddwn wedi clywed am y chwaraewr a ymunodd yn ddiweddar a Juventus - rhywun o'r enw Ian Rush! Cawsant wers. Ond daeth sioc o sylweddoli cymaint oedd enwogrwydd y bachgen bach yma o Fflint - pan ofynnais i'r Americanwyr os oeddynt yn adnabod enwau unrhyw chwaraewyr eraill. Diego Maradona oedd yr unig un a oeddynt wedi clywed amdano, heblaw am Ian Rush. Daeth ias oer i lawr fy nghefn achos yna, ynghanol anialwch dinesig y Bronx, deuthum i sylweddoli mawredd un a fûm yn rhoi help llaw iddo pan oedd yn ifanc!.

Ond nid Ian Rush oedd yr unig un imi gael y fraint o'i helpu.

Roed Kevin Ratcliffe yn dangos arweiniad fel capten hyd yn oed pan yn un ar ddeg oed, a Barry Horne yn ffyrnig ei ddull yng nghanol y cae.
Cefais gyfle i hyfforddi tîm Gogledd Cymru o dan 15 oed hefyd - a bachgen a choesau tenau a elwid Sparky yn chwarae ynghanol y cae - o ardal Rhiwabon - ger Wrecsam - wrth gwrs Mark Hughes inni gyd erbyn heddiw.

Erbyn yr wythdegau roeddwn yn rhan o dîm hyfforddi Iolo Owen o Ysgol y Moelwyn, Blaenau Ffestiniog, a' thîm cenedlaethol o dan19 oed. Sêr y tîm oed un a ddaeth yn chwedl yn Uwchgynghrair Cymru, blaenwr Marc Lloyd Williams, ac roedd yna olwg addawol hefyd ond meddyliodd am newid siâp y bel a daeth Andrew Moore yn arwr i Gymru ar y cae rygbi. O ie roedd un chwaraewr arall, eiddil ei gorff ond cryf ei galon - y bachgen addfwyn o bentref Gwersyllt gerllaw Wrecsam , llawn asbri, doniolwch a llawn direidi- Robbert Savage. Ie chwaraewyr galluog a braint oedd cael bod yn rhan o'u datblygiad cynnar.

Ond cyn cloi rhaid cyfeirio at un arall a oedd yn rhan allweddol o Gymdeithas Bêl-droed Cymru - y diweddar Ieuan Gruffydd a fu yn rheolwr ar y tîm o dan 19 oed am rai blynyddoedd.

Heblaw hyfforddi yma yng Nghymru aeth Ieus draw i'r Unol Dalaethau - i dalaith New Mexiso gan sefydlu tîm peldroed Albuquerque United, sydd â'r ddraig goch Cymreig fel bathodyn y clwb. Erbyn heddiw mae enw Ieuan yn parhau i gael ei gofio a chael ei barchu gan bawb yn yr ardal ac i dalu teyrnged iddo am ei waith arloesol, mae cae pêl-droed y tîm wedi ei enwi ar ôl y Cymro sef 'The Ieuan Guffydd Memorial Football Park'.

'The Ieuan Guffydd Memorial Football Park'

Ie mae Cymru hyd a lled y byd wedi bod yn ddylanwadol ar y gêm a neb llai na Ieus draw draw ymhell dros y don o Gymru fach.

Cewch hanes Cymdeithas Bêl-droed Ysgolion Cymru mewn llyfr gan Ceri Stennet, 'As Good as it Gets': A Centenary History of the Welsh Schools Football Association.

BBC © 2014Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.