S.O.S. galw Gary Speed
Ac wele, hwy a ddaethant ar gyflymder, gan enwi Gary Speed fel ein rheolwr newydd!
Ie, tipyn o syndod i rai efallai, ond oes yna unrhyw un fyddai wedi cael ei ystyried sydd â mwy o brofiad o chwarae dros Gymru na Speed?
Chwaraeodd 85 o gemau dros Gymru, gan arwain fel capten mewn 44 ohonynt. Y golwr Neville Southall ydi'r unig Gymro sydd wedi ennill mwy o gapiau.
Tydi profiad eang Speed ddim wedi ei gyfyngu i Gymru chwaith, chwaraeodd mewn 535 o gemau yn Uwchgynghrair Lloegr. Dim ond David James a Ryan Giggs yw'r unig rai i chwarae mwy o weithiau na hynny yn yr Uwchgynghrair.
Beth felly, heblaw profiad ar y cae, be all Speed ei gynnig?
Mae ganddo'r profiad eang ac angenrheidiol o wybod sut mae pethau yn gweithio o fewn y byd pêl-droed, yn ogystal â'r parch mae wedi ei haeddu dros y blynyddoedd, gan chwaraewyr, y cyfryngau, y cefnogwyr a rheolwr clybiau.
Bydd hyn i gyd yn ei helpu i geisio codi safon pêl-droed Cymru gan ddod â pharch ehangach i mewn i'r tîm.
Serch hynny cafwyd beirniadaeth o Speed ar flog pêl-droed Cymreig Ffwtbol ar 10 Rhagfyr o dan y pennawd 'Speed sets a bad example to Welsh players.'
Roedd yr erthygl yn tynnu sylw at y ffaith ei fod wedi tynnu'n ôl o garfan Cymru yn 1996 i fynd ar ei fis mêl, a hefyd pan benderfynodd yn 2004 i ymddeol o chwarae yn rhyngwladol ond i barhau fel chwaraewr gyda Bolton.
Ydi hyn yn feirniadaeth deg?
Ai beirniadaeth ragfarnllyd ydi hyn ac onid yw hi'namser i ni sefyll yn unedig a chefnogi'r penodiad newydd yma, yn hytrach na chwilio am rywbeth arall i gecru amdano eto?
Tydi'r Gymdeithas Bêl-droed ddim wedi dewis Speed heb feddwl yn ddwys am yr hyn sydd ei angen, ac rwyf yn croesawu'r penodiad gant y cant.
Roedd rhai yn disgwyl rheolwr mwy profiadol. Ond roedd digon o brofiad gan John Toshack. Ddywedai ddim mwy.
Doedd yna ddim profiad gan Mark Hughes ond roedd mwy yn ei ganmol nac yn ei feirniadu - heblaw John Toshack efallai!
Swydd gyntaf Speed fydd penodi tîm o gynorthwywyr. Mae nifer o enwau yn cael eu cynnig, ond rwyf ond yn gobeithio mai dewis Gary Speed y rheolwr fydd y penodiadau yma, ac nid pobol sydd yn cael ei wthio arno.
Mae ganddo garfan dda i gychwyn ei yrfa ryngwladol fel rheolwr, does ond gobeithio y byddant i gyd yn holliach.
Ac er ei alluoedd mae Speed angen, fel sydd ei ar angen pob un yn y gêm, tipyn o lwc er mwyn sicrhau cychwyn da.
Does ond gobeithio hefyd na fydd barnu rhagfarnllyd yn suro'r mis mêl ac y bydd Cymru yn unedig mewn cefnogaeth i Gary Speed yn ei swydd newydd.
Yn sgil y digwyddiadau sydd yn codi ynglŷn â gyrfaoedd rheolwr yn y byd pêl-droed yn ddiweddar, gall Gary Speed hefyd fod yn ddiolchgar mai Cymdeithas Bêl-droed Cymru sydd yn ei gyflogi, ac nid rhyw gwmni cywion ieir o'r India!

Trin a thrafod y byd pêl-droed yn ffordd unigryw criw 
SylwadauAnfon sylw
Rwy'n falch fod Mr Griffiths yn darllen fy mlog ac yn teimlo ei fod yn deilwng o sylw.
Hoffwn nodi, fodd bynnag, fod fy erthycl ar Gary Speed wedi ei gyhoeddi cyn ei benodiad. Mae’n annheg awgrymu ei fod wedi ei ysgrifennu ar ôl iddo derbyn y swydd.
Rwy'n credu fod gen i berffaith hawl i ddarlledu fy mhryderon ynghylch y dylanwad Speed ar ymroddiad ei chwaraewyr. Mae Speed ei hun wedi cytuno y dylai fod wedi parhau i chwarae dros ei wlad pan oedd chwarewyr profiadol yn brin. Erbyn hyn mae ganddo dasg anodd o berswadio’i chwaraewyr mway profiadol i anwybyddu ei esiampl ei hun.
Fodd bynnag, nawr bod Gary Speed wedi cael ei benodi bydd y rheolwr newydd yn cael fy nghefnogaeth llawn.
Y mis diwethaf roedd Mr Griffiths yn beirniadu cefnogwyr mwyaf teyrngar Cymru, ac yn nawr mae’n ymosod ar flogiwr di-gyflogedig. Gobeithiaf iddo weld yr eironi wrth iddo alw am undod.