Help / Cymorth
« Blaenorol|Hafan|Nesaf »

Effaith y tywydd oer

Glyn Griffiths|14:05, Dydd Llun, 20 Rhagfyr 2010

Gyda'r tywydd oer yn creu problemau di-ri â gemau pêl-droed ledled Cymru unwaith eto, doedd hi ddim y syndod clywed Andy Legg, rheolwr Llanelli, yn gofyn am estyniad i'r rhan gyntaf o dymor yr Uwchgynghrair, sydd i fod i ddod i ben ar Ionawr 15.

Mae wyth o gemau tîm Tre'r Sosban wedi cael eu gohirio yn barod, a gan nad oes gêm arall ganddynt hyd ddydd Gŵyl Sant Steffan, mae hyn yn golygu y bydd rhaid iddynt chwarae deg gêm mewn tair wythnos o dan y drefn bresennol.

Tachwedd 13 oedd dyddiad gêm ddiwethaf Llanelli, ond tydi gohirio gemau yn Stebonheath ddim yn beth newydd.

Gellir dadlau fod Llanelli wedi colli cyfle i ennill Uwchgynghrair Cymru'r tymor diwethaf oherwydd trafferthion draeniad ar y cae, ac mae'r problemau yn amlwg eto eleni. Ond mae ymdrin â'r diffyg hwn yn ymddangos fel petai yn waith enfawr.

Roedd y syniad o gynnal y tymor dros ddau gyfnod yn edrych yn ffafriol yn ystod yr Haf, ond erbyn heddiw, tydi'r syniad ddim yn edrych yn un mor ddoeth, gyda chymaint o gemau wedi eu gohirio ar draws yr Uwchgynghrair.

Ond hawdd ydi i fi, ac unrhyw un arall, a oedd yn credu mai cam ymlaen oedd hyn, gynnig barn wrth edrych yn ôl.

Un a all ddweud ' Ddudish i do!' ydi rheolwr Caerfyrddin, Tomi Morgan, a oedd yn feirniadol o'r drefn newydd.

Mae'n edrych yn eithaf tebyg ar hyn o bryd mai Tomi oedd yn iawn. Ond rheolwr ydi Tomi, a tydi pobl ddim yn aml yn tueddu i wrando ar farn rheolwr! Tybed a oes rhywun wedi gwrando ar Andy Legg!

Sut mae ymateb i broblemau amserlen yr Uwchgynghrair? Ydi torri'r gynghrair yn ein hanner ym mis Ionawr wedi bod yn benderfyniad cywir, neu wedi cymhlethu 'r drefn?
A ddylid parhau â'r drefn newydd, neu a ddylid chwarae drwy'r Haf? Sut mae'r Uwchgynghrair wedi ymateb at effaith y tywydd oer?

Mwy o gwestiynau nac atebion efallai, ond rydym ni yn barod i wrando ar eich barn chi!
All rhywun gynnig ateb a fyddai yn dderbyniol yn yr hir dymor?

BBC © 2014Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.