Help / Cymorth
« Blaenorol|Hafan|Nesaf »

Pêl-droed yr ŵyl

Glyn Griffiths|14:25, Dydd Mawrth, 28 Rhagfyr 2010

Mae yna ryw awyrgylch unigryw i gemau pêl-droed dros gyfnod y Nadolig a'r Flwyddyn newydd, ac yn draddodiadol dyma adeg y gemau darbi.

Fel un a gafodd ei fagu yn nyddiau'r hen Gynghrair Gogledd Cymru, gemau rhwng Porthmadog a Blaenau Ffestiniog oedd fy neiet i o bêl-droed dros y Flwyddyn Newydd.

Roedd y gemau yma, fel gemau proffesiynol, yn cael eu chwarae yn wreiddiol ar ddydd y Nadolig, ac yna ar Ŵyl Sant Steffan. Ond daethpwyd â'r gemau Nadolig i ben ar ddechrau'r chwedegau pan benderfynodd undebau llafur fod rhaid i yrwyr bysus, fel pawb arall, gael gŵyl o'u gwaith, a symudwyd gemau'r 'Dolig i Dydd Calan.

Yn aml iawn, cyn y gêm fawr ar ddydd Sant Steffan, roedd gemau yn y cynghreiriau is, a rheini hefyd yn gemau darbi gyda nifer ohonynt yn dechrau yn gynnar, er mwyn inni gyd fynd i weld y gêm fawr yn y 'pnawn!

Felly oedd hi i mi ar fore oer yn Nolwyddelan, pan aeth popeth o'i le mewn gêm ddarbi rhwng y tîm lleol a Blaenau Ffestiniog.

Dathlu'r Nadolig a gormod o bwdin a chwrw gafodd y bai, a phan benderfynodd un o chwaraewyr fy nhîm i, sef Blaenau Ffestiniog, anghytuno â'r dyfarnwr, gan gyfeirio llond ceg o regfeydd ato penderfynwyd mai digon oedd digon, ac fe gafodd fy nghyd chwaraewr ei wahoddwyd i fynd am dwb cynnar o ddŵr oer yn y cwt newid.

Gwrthod yn bendant a wnaeth fy nghyfaill , oherwydd, yn ei eiriau o "Hey ref, don't you know it's Christmas?!" ymysg nifer o ymadroddion eraill!

Pan gyrhaeddodd adroddiad y dyfarnwr i'r clwb drwy'r post rhyw wythnos yn hwyrach , roedd rhybudd ar gefn yr amlen: "Not to be opened by a female." Tydi'r oes wedi newid!!

Newid mewn cwt yng nghefn tŷ oedd pawb a ddaeth i chwarae i Gae Clyd ym Manod, ble roedd timau'r Blaenau yn chwarae, a minnau'r un fath wrth chwarae yno yng ngemau Cynghrair Dyffryn Conwy.

Rhyw feudy o le newid oedd ar gael, a bath metel ar ganol y llawr heb fawr ynddo i gynhesu bodiau traed heb sôn am weddill y corff!

Dynion oedd dynion yr adeg hynny, medde nhw, ond os cawsoch eich taro mewn lle tyner gan bêl lledr yr oes honno, a hithau yn wlyb a phwyso fel tunnell, byddech yn lwcus iawn o gyrraedd yn ôl yn y cwt newid yn dal i gredu mai dyn oeddech chi!

Os ydych wedi meddwl beth ydi tarddiad yr ymadroddid 'gêm ddarbi', mae'n ymddangos ei fod yn mynd yn ôl i ddechrau'r ugeinfed ganrif a'r gemau a oedd yn cael eu chwarae rhwng timau'r trefi newydd a dyfodd yn sgil y Chwyldro Diwydiannol.

Roedd pob tref yn chwilio am unrhyw esgus i gynnig delwedd well ohonynt eu hunain na'u cymdogion agos, ac felly y tyfodd y cystadlu am y timau pêl-droed gorau, a oedd fel rheol wedi deillio o'r ffatrïoedd newydd.

Ar yr adegau hynny pan oedd y timau yn chwarae gwrthwynebwyr cyfagos, roedd hi'n amser gwisgo i fyny i wneud tipyn o sioe, a het galed yn cael ei wisgo ar gyfer yr achlysur. Enw ar yr het galed fwyaf ffasiynol yr oes oedd het ddarbi, ac mae'r ymadrodd wedi aros byth fel disgrifiad o gemau rhwng dau dîm lleol.

Ond dyna ddigon o ramant am ddyddiau mebyd.

Ydych chi ar fin mynd, neu wedi bod mewn gêm ddarbi dros y Nadolig, neu'r Flwyddyn Newydd, a beth yw eich atgofion chi o'r gemau yma, byddent nhw yn rhai cyfoes neu yn atgofion o'r gorffennol?

Hoffem glywed gennych, a hoffem hefyd ddymuno blwyddyn newydd dda i holl ddarllenwyr a chyfranwyr y Blog. Diolch am eich ymatebion a'ch cyfraniadau.

BBC © 2014Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.