King Kenny neu King Caniwt?
Cyrhaeddodd Kenny Dalglish yn ôl fel arwr, chwedloniaeth wedi ymgorffori mewn gobaith.
Ond ai brenin yn ei dillad newydd sbon ydi'r King Kenny yma, a fydd yn cael ei ddinoethi gan fyd cyfoes yr Uwchgynghrair, dd wedi newid cymaint yn y deng mlynedd diwethaf?

Pan aeth Kevin Keegan yn ôl i Newcastle, byrstio gwnaeth swigen y cefnogwyr pan ddaethpwyd i ddeall nad oedd llawer o'r chwaraewyr wedi clywed, neu o leiaf yn deall, am bwysigrwydd Keegan fel eilun yn llygaid y cefnogwyr!
Rhywsut neu'i gilydd, mae gen i deimlad fod Lerpwl, ar hyn o bryd yn gwneud dim mwy nac efelychu Newcastle - clwb mawr, ond cyffredin ei dîm, arwr yn ei ôl, hiraeth am y glendid a fu, ond y chwaraewyr tramor, (a rhai ifanc) yn synnu pawb trwy ddweud nad ydynt yn cofio llawer am ddyddiau dedwydd y rheolwr newydd, a oedd ymhell cyn eu hamser.
A fydd Dalglish yn gallu cyd-weithio gyda Damien Comolli a'i drefn gyfoes a fathemategol o gynnig chwaraewyr gwell fel sydd yn cael ei gymeradwyo gan y perchnogion Americanaidd?
A gafodd Roy Hodgson unrhyw gyfle teg ers i Dalglish gyhoeddi yn yr Haf y byddai o hefyd wedi croesawu bod yn rheolwr yn Anfield?
Cyn pob gêm, mae'r Kop yn cydganu 'You'll Never Walk Alone'. Ond buan iawn y gadawyd Roy Hodgson i gerdded llwybrau Anfield ar ben ei hun, gyda chysgod Dalglish yn gyson o'i gwmpas.
Beth felly fydd cyfraniad King Kenny gyda thîm o chwaraewyr cyffredin, sydd yn or-ddibynol ar bedwar arall sydd â gallu llawer gwell?
A fydd o yn cael y cyfle, nas gafwyd gan Roy Hodgson, i arwyddo chwaraewyr gwell? Neu a fydd rhaid gwrando ar, a dilyn cynigion Comolli?
Ai King Kenny ydi'r dyn i droi'r llanw yn Anfield nei ai King Canute ydi rheolwr newydd y Kop gan weld llanw'r cyffredinedd yn boddi ei statws chwedlonol?
Trin a thrafod y byd pêl-droed yn ffordd unigryw criw 