Help / Cymorth
« Blaenorol|Hafan|Nesaf »

Rhediad Bangor yn parhau

Glyn Griffiths|17:50, Dydd Llun, 6 Rhagfyr 2010

Mae tymor Bangor yn mynd yn well ac yn well.

Nid yn unig oedd y fuddugoliaeth yn erbyn Port Talbot y Sadwrn ddiwethaf yn gweld y tîm yn sgorio wyth,(8-1) am yr ail dro yn eu hanes (8-0 yn erbyn Llanelli oedd yr achlysur arall yn 2003), ond fe sicrhawyd record newydd o fewn Lloegr a Chymru, o rediad o bedair gêm ar ddeg yn olynnol, a phob un ohonynt wedi eu hennill..

Y deiliad blaenorol oedd Reading yn ystod tymor 1985/6.

Llongyfarchiadau i Fangor ac i Nev Powell. A'r carreg filltir nesaf? Beth am y record Brydeinig?

Ond mae Bangor hefyd wedi dangos sut mae denu cefnogwyr.

Ymysg yr holl stw^r a siarad â'r dadlau yngly^n a phryd i chwarae gemau yn Uwchgynghrair Cymru, mae Bangor i mi wedi profi nad oes yna ddadl.

Yr hyn sydd ei angen i ddenu gwylwyr, ar unrhyw ddydd ac amser o'r wythnos, ydi tîm da sy'n chwarae pêl-droed deniadol. Does ond angen edrych ar faint torfeydd Bangor i ddeall hyn.

Llongyfarchiadau i gefnogwyr selog Bangor am ddangos fod pêl-droed o safon yn cael ei werthfawrogi.

Am faint yr ydych chi'n meddwl y gall Bangor barhau a'r rhediad yma? Gadewch inni wybod.

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 23:45 ar 6 Rhagfyr 2010, William Owen ysgrifennodd:

    Mi all Aberystwyth fod yn her iddyn nhw wrth gwrs. Ond yr hyn oedd yn agoriad llygad i mi - ar ôl gweld sawl gêm gartref y tymor hwn - oedd mor hawdd y llwyddodd Bangor i addasu heb Jamie Brewerton y Sadwrn diwethaf.
    Mi fyddwn yn mynd mor bell â dweud fod mwy o gydbwysedd yn y tim hebddo rhywsut. Yn sicr roedd llai o droseddu!
    Ond y prawf i siâp y tim heb Brewerton fydd yn Aberystwyth dydd Sadwrn, os bydd y tywydd yn caniatau. Dwi'n siwr y bydd gwell trefn ar linell flaen Aber nag ar un Port Talbot!

BBC © 2014Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.