'William a wylodd'
Ac yr oedd yn y wlad honno bwyllgorwyr yn aros mewn gwesty, ac yn barod i gyhoeddi newyddion o bwysigrwydd mawr.
Ac wele, Blatter y llywydd a safodd gerllaw iddynt, a gogoniant FIFA a ddisgleiriodd o'u hamgylch a disgwyl yn eiddgar a wnaethant.
A Blatter a ddywedodd wrthynt nac ofnwch: canys wele, yr wyf fi yn mynegi i chwi newyddion da o lawenydd mawr, yr hwn a fydd i'r holl bobl:
Canys penderfynwyd heddiw yn ninas Zurich, mai yn y Dwyrain, yn ninas Putin bydd Gwpan y Byd, yn 2018, wedi ei ddodi mewn stadiwm o breseb ym Moscow.
Ac yn ddisymwth yr oedd gyda Blatter liaws o lu FIFA, yn moliannu Rwsia, ac yn dywedyd, "Gogoniant yn y goruchaf i FIFA, ac ar y ddaear cyfiawnder, i ddynion ewyllys da".
A bu, pan aeth aelodau FIFA ymaith oddi wrthynt, y pwyllgorwyr hwythau a ddywedasant wrth ei gilydd. Awn hyd Foscow, a gwelwn y peth hwn a benderfynwyd, yr hwn a hysbysodd Blatter i ni.
A hwy a ddaethant ar frys at bwyllgorwyr o Saeson, ac a gawsant David a William, a'r prif weinidog yn gorwedd mewn syfrdan.
A phan welsant, hwy a gyhoeddasant y penderfyniad a ddywedasid wrthynt am y Gwpan.
A phawb a'r a'i clywsant, a ryfeddasant am y pethau a benderfynwyd gan bwyllgor dethol FIFA.
Eithr David a gadwodd y pethau hyn oll, gan eu hystyried yn ei galon - a William a wylodd.
Ydych chi'n credu fod Rwsia yn haeddu Cwpan y Byd, oedd gan Loegr gynnig gwell, neu beth am Sbaen a Phortiwgal neu'r Iseldiroedd a Gwlad Belg?

Trin a thrafod y byd pêl-droed yn ffordd unigryw criw 