Help / Cymorth
« Blaenorol|Hafan|Nesaf »

Pwy nesa?

Glyn Griffiths|15:48, Dydd Gwener, 10 Medi 2010

Doedd hi 'n fawr o syndod a dweud y gwir.

Roedd John Toshack eisoes wedi cyhoeddi mai dyma fyddai ymgais olaf i geisio dod â llwyddiant i Gymru.

Ond i mi, sefydlu Brian Flynn fel rheolwr y tîm dan21 a'r gwelliant a fu yn eu canlyniadau hwy oedd ei lwyddiant pennaf.

Ydi hyn yn golygu mai Flynn fydd y rheolwr newydd?

Mae yna ddigon i'w ystyried, a phetai hynny am ddigwydd rhaid hefyd sicrhau na fyddai safonau datblygu chwaraewyr ifanc dim yn gostwng, heb ddylanwad cyson Brian Flynn.

John Toshack yn gadael

Rhaid hefyd, yn fy marn i, sicrhau fod yna agweddau o hyfforddiant cyfoes o fewn y tîm rheoli.

Gyda Dean Saunders eisoes yn rhan o'r tîm hyfforddi presennol, rwyf o'r farn y dylid cadw Saunders am y tro o leiaf - o dan arweiniad y rheolwr newydd (petai'r rheolwr yn dymuno hynny).

Mae yna ddigon o gefnogwyr yn mynd i ddweud nad ydi Saunders wedi cyflawni dim gyda Wrecsam. Ond roedd yn ddigon dewr a digon o Gymro i ddod i helpu'r clwb.

Ac er bod llawer o gefnogwyr Wrecsam yn parhau i gredu mai tîm a ddylai chwarae yn adrannau uwch pêl-droed Lloegr ydi tîm y Cae Ras, hwyrach mai llwyddiant mwyaf Saunders, o ystyried sefyllfa Wrecsam oddi ar y cae, ydi cadw'r tîm yng Nghyngres y Blue Square!

Hwyrach mai rheolwr dros dro - am ddwy gêm o bosib - fydd yr ateb gorau ar hyn o bryd a dod a Brian Flynn ynghyd â David Williams sydd yn adnabod y garfan ac sydd wedi ennill parch y chwaraewyr ac i gadw pethau'n drefnus gan gadw Dean Saunders fel rhan o'r tîm hyfforddi.

Yn sgil hyn, gellir dod â gwaed ifanc a syniadau newydd a chyfoes i mewn i'r gyfundrefn hyfforddi a hwyrach gweld sut y gall John Hartson gyfrannu at barhau llwyddiant y tîm dan21, cyn wedyn mynd ati i asesu eu cyfraniadau a phenodi rheolwr newydd, dros gyfnod hir.

BBC © 2014Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.