Help / Cymorth
« Blaenorol|Hafan|Nesaf »

Beth yw gwir werth atgofion?

Glyn Griffiths|12:05, Dydd Iau, 16 Medi 2010

Sut mae mesur llwyddiant?

Yn y byd sy'n llawn materoliaeth y dyddiau yma, yna drwy roi gwerth ariannol ar bopeth mae mesur gwerth os ydym am wrando ar nifer fawr o bobl o'n cwmpas.

Ond beth petai'r hyn sydd gennych yn unigryw, fel medal enillwr Cwpan y Byd?
Yr wythnos yma, mae Nobby Stiles gynt o Manchester United ac aelod o dîm llwyddiannus Lloegr yng Nghwpan y Byd yn 1966 wedi rhoi'r fedal a enillodd yn Wembley ynghyd â nifer o drysorau eraill ar werth er mwyn sicrhau rhywbeth i'w deulu ar gyfer y dyfodol.

Nobby Stiles yn dathlu buddugoliaeth Lloegr yng Nghwpan y Byd

Nobby Stiles ym 1966

Nid Stiles ydi'r unig un i werthu'r hyn a chwysodd amdano ar bnawn cynnes yn Wembley bron hanner can mlynedd yn ôl.

Mae Gordon Banks, George Cohen, Ray Wilson, Alan Ball a Geoff Hurst hefyd wedi gwneud yr un peth!

£150 yr wythnos mewn cyflog oedd y mwyaf y derbyniodd Stiles am chwarae i Manchester United, ac fe gafodd £1000 fel bonws gan Loegr am ennill Cwpan y Byd - ond dim ond £600 ar ôl talu treth!

Mae John Terry, amddiffynnwr Chelsea, yn derbyn tua £170,000 yr wythnos, ac fe roedd y Gymdeithas Bêl Droed yn cynnig bonws o £300,000 yr un i aelodau tîm Lloegr pe bydde nhw wedi ennill Cwpan y Byd yr haf diwethaf.

Os gall clybiau a hefyd Cymdeithasau Pêl Droed, megis Lloegr, gynnig cymaint i chwaraewyr cyfoes, pam nad oes 'na gynllun ar gael i gefnogi gwir gewri'r gêm y dyddiau yma?

Mae Cymdeithas y Pêl-droedwyr Proffesiynol - y PFA - yn honni eu bod yn gwneud popeth ar gyfer sicrhau tegwch i'w aelodau.

Ond pan aethant ati i wario £1.9miliwn ar ddarlun 'Going to the Match' gan L.S.Lowry a'i brynu ar ran ei gymdeithas fel rhan o gelfyddyd y gêm, faint o ystyriaeth a roddwyd i sefyllfa'r chwaraewyr hynny a ddaeth a chlod a bri i Loegr, ac i Gymdeithas y Chwarewyr, yn ôl yn 1966?

Mae hynny o bosib wedi sefydlu'r llwybr sydd wedi arwain at weld sêr cyfoes y byd pêl-droed yn derbyn llawer mwy na mae eu safon yn ei haeddu?

Ac os am sôn am gelfyddyd, be ydi gwir werth y gelfyddyd a welwyd yn ôl yn 1966 ar borfa las tesog Wembley?

Ie, mi roeddwn innau yno, ac fel Nobby Stiles, mae'r atgofion o'r cyfnod yna mor fyw ac erioed ac yn amhrisiadwy.

Ar y llaw arall oes yna unrhyw un o chwaraewyr presennol Manchester United yn barod i gyfrannu'r bunt gyntaf i gronfa a fyddai yn sicrhau fod y rhai dyma'n paratoi'r llwybr ar gyfer mawredd ariannol y rhai presennol?

Hwyrach nad oedd ein harwyr yn ddigon ffodus o fod yn chwarae mewn cyfnod pan oedd arian yn llifo fel llaeth a mêl, ond oes yna unrhyw beth yn rhwystro arweinwyr a chwaraewyr cyfoes y byd pêl-droed rhag sefydlu cronfa all sicrhau fod y rhai a sefydlodd y ffordd ar gyfer cyfoeth y presennol yn cael eu cydnabod o fewn ysbryd yr hyn a fyddai rhywun yn ei disgwyl gan fudiad cynorthwyol megis undeb y PFA?

BBC © 2014Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.