Cic dros y ffin
Oes yna sefyllfa unigryw yn bodoli yn y gororau ble mae tîm pêl-droed pentref Morda (yn Sir Amwythig, ychydig dros y ffin) yn chwarae eu pêl-droed mewn cynghreiriau yn Lloegr ac yng Nghymru?
Mae tîm cyntaf Morda yn chwarae ym mhrif gynghrair Sir Amwythig tra bod eu hail dîm yn chwarae yn ail adran cynghrair JT Hughes, sef cynghrair ar gyfer timau yng nghanolbarth Cymru.
Hwyrach fod eu sefyllfa yn unigryw, er bod yna nifer o esiamplau o dimau sydd wedi eu lleoli mewn un wlad, ond yn chwarae mewn cynghrair o fewn gwlad wahanol.
Mae Berwick Rangers o Swydd Northumberland yn Lloegr yn chwarae yn nhrydedd adran cynghrair yr Alban gyda'r ail dîm yn chwarae mewn cynghrair rhanbarthol, hefyd yn yr Alban, er eu bod yn aelodau llawn o gymdeithas bêl-droed Northumberland.
Mae tri thîm wedi ennill cynghrair mewn 'gwlad alltud' sef Monaco yn ennill cynghrair Ffrainc, Derry City o Ogledd Iwerddon yn cipio pencampwriaeth y Weriniaeth ac yn ôl yn 1941 (yng nghanol yr ail ryfel byd) Rapid Vienna o Awstria yn bencampwyr ar gynghrair yr Almaen yn 1941!
Draw yn y Swistir, mae clwb Vaduz o wlad Liechtenstein, yn talu ffi flynyddol i Gymdeithas Bêl Droed y Swistir am gael yr hawl i chwarae yn ail adran eu cynghrair cenedlaethol gan nad oes cynghrair cenedlaethol wedi ei sefydlu yn Liechtenstein.
Mae chwe thîm arall yn bodoli yn y wlad fach yma gyda phob un ohonynt yn chwarae o fewn gyfundrefn y Swistir, a hynny mewn safon isel iawn.
Tra bod Morda yn unigryw yn rhoi dau dîm ar y cae mewn dwy wlad, hwyrach fod timau Liechtenstein hefyd yn creu rhyw fath o sefyllfa unigryw, ble maent yn cystadlu mewn gemau cynghrair mewn un wlad, ond yn chwarae gemau cwpan cenedlaethol o fewn eu gwlad eu hunain.
A dyna sydd yn rhoi'r hawl i Liechtenstein anfon tîm i Gwpan Europa - fel rheol Vaduz - yn flynyddol.
Os ydych yn gwybod am sefyllfa yna diddorol fyddai cael clywed gennych. Tebyg mai Bae Colwyn sydd yn chwarae yng nghynghrair Evo-Stick yn Lloegr, ond yn cystadlu yng nghwpan arfordir Gogledd Cymru ydi'r unig sefyllfa debyg yng Nghymru.


Trin a thrafod y byd pêl-droed yn ffordd unigryw criw 