Help / Cymorth

Archifau Gorffennaf 2010

Dos o realiti

Glyn Griffiths|15:30, Dydd Gwener, 30 Gorffennaf 2010

Sylwadau (0)

Does yna ddim byd tebyg i bêl-droed i'ch rhwystro rhag mynd dros ben llestri!

Wedi canmol y Seintiau Newydd ac yna Fangor am lwyddo yng nghystadlaethau Ewrop yr wythnos ddiwethaf, fe gafwyd dos o realiti wrth i'r Seintiau Newydd wynebu cewri Anderlecht a Bangor ddioddef hunllef ar ynys Madeira.

I fod yn deg, dangosodd y Seintiau sgiliau cywrain a disgyblaeth wrth ymdopi gyda phencampwyr Gwlad Belg. Ond y gwahaniaeth oedd yng nghyflymder meddwl, ymateb a defnydd y bêl rhwng y ddau dîm.

bangor.jpg
Doedd hi'n fawr o help chwaith wrth i'r Seintiau ildio gôl gynnar, ac yna un arall o fewn y chwarter awr agoriadol, ond dangoswyd cymeriad ganddynt wrth i'r gêm fynd ymlaen gyda thîm Mike Davies yn barod i ymosod yn llawer mwy aml ac adeiladol yn yr ail hanner.

Fe fyddai colli o un gôl i ddwy wedi bod yn well canlyniad i gario ymlaen i'r ail gymal, ond mae rhywun yn ofni fod gôl hwyr Matias Suarez i Anderlecht yn mynd i sicrhau fod yr ail gymal yn gam rhy bell i'r Seintiau'r wythnos nesaf ym Mrwsel.

Roeddwn yn dilyn Bangor ar sgoriau diweddaraf a geir ar safle we'r BBC ac ar ôl rhyw hanner awr roeddwn yn credu fod gobaith mawr yn bodoli.

Roeddwn yn parhau i gredu hyn pan sgoriodd Nicky Ward i Fangor rhyw chwarter awr cyn y diwedd i wneud y sgôr yn 3-1 i Maritimo, gyda rhyw weddi fach yn erfyn am ail gôl yn sydyn.

Ond och a gwae! Gorfod derbyn realiti pêl-droed oedd ymateb y weddi a gyda James Brewerton eisoes wedi cael ei anfon o'r maes fe sgoriodd Maritimo y bedwaredd dim ond dau funud yn ddiweddarach cyn coroni'r noson gyda phedair gôl arall yn y chwarter awr olaf.

Ie, roeddwn wrthi'n canmol gallu'r Seintiau i ddangos nad oedd angen pêl-droed drwy'r haf yng Nghymru wrth iddynt drechu'r Bohemians, ond siawns na ddaeth blinder, gwres a diffyg gemau cystadleuol drwy'r Haf i aflonyddu ar ymdrechion Bangor yn hwyr yn eu gêm ym Madeira.

Ble mae hyn yn gadael pêl-droed Uwchgynghrair Cymru dybed?

Y wers, mae'n debyg ydi fod y ddau dîm yma wedi dangos eu bod yn ddigon da i guro timau o wledydd neu gynghreiriau bychain Ewrop, ac mae hyn ynddo'i hun yn ddatblygiad positif.

Rhaid cofio hefyd nad timau ffôl, na bychain, ydi'r rheini all lwyddo i sicrhau'r bumed safle yng nghynghrair Portiwgal, a bod yna gefnfor o agendor rhwng Anderlecht a gyrhaeddodd rownd yr wyth olaf yng Nghynghrair Europa y llynedd, a'r Seintiau Newydd.

Mae cyfle eto yn yr ail gymal, a chyfle i'r Seintiau a Bangor ddangos os gellir cynhyrchu perfformiadau disgybledig a chanmoladwy yn erbyn timau sydd yn amlwg yn chwarae ar blaned wahanol o'i gymharu ag Uwchgynghrair Cymru, a chyfle hefyd i gadarnhau'r ddelwedd a grëwyd yn Nulyn a'r Ffindir, fod safon pêl-droed o fewn Cymru, wedi'r cwbwl, yn gwella'n araf dros amser.

Llond trol o gymeriad

Glyn Griffiths|07:44, Dydd Llun, 26 Gorffennaf 2010

Sylwadau (0)

Mae buddugoliaethau gan dimau Cymru yng nghystadlaethau Ewrop fel bysus - dim am amser hir yna dau yn cyrraedd, un ar ôl y llall!

Ie, llongyfarchiadau i Fangor ar eu llwyddiant yn erbyn Honka.

Os oedd unrhyw un yn meddwl mai rhywbeth unigryw neu anarferol oedd llwyddiant y Seintiau Newydd yn erbyn Bohemians, mae Bangor wedi atgyfnerthu'r ddelwedd fod yna dro go iawn ar bêl-droed yn Uwchgynghrair Cymru; a doedd dim angen cae plastig arnynt - dim ond dangos eu doniau, eu gallu a llond trol o gymeriad.

Tra roedd pêl-droed y Seintiau yn drefnus ac ymosodol, dangosodd Bangor eu cryfder fel tîm a chymeriad, gyda phawb yn gweithio gyda'i gilydd i'r diwedd.

Pan oedd Lerpwl yn llwyddiannus o dan arweiniad Bill Shankly ac yna Bob Paisley, enillwyd nifer o gemau yn hwyr - yn y munudau olaf, gyda'u gwrthwynebwyr yn eu cyhuddo o fod yn lwcus!

Ond fe ganmolwyd y tîm gan lawer mwy am eu cymeriad a dyfalbarhad. Mae Bangor yn amlwg yn meddu ar yr un cymeriad; dangoswyd hyn yn rownd derfynol Cwpan Cymru ac eto yn erbyn Honka.

Taith i ynys Madeira sydd nesaf i Neville Powell a'r tîm, a gobeithio am ganlyniad digon boddhaol a fyddai'n gwneud yr ail gymal ar y Cae Ras yn Wrecsam yn gêm a fydd yn cynnwys cymaint o gyffro ynddo a'r un a welwyd nos Iau diwethaf, a gobaith am fuddugoliaeth arall.

Ymlaen a'r Uwchgynghrair ac mae'r llinyn mesur ar gyfer y deuddeg disglair wedi ei osod yn glir, a phwynt wedi cael ei brofi i'r rhai sydd yn feirniadol.

Ewrop yn galw

Glyn Griffiths|14:28, Dydd Mercher, 21 Gorffennaf 2010

Sylwadau (0)

Ac wedi tawelwch - elwch fu! Ie "I've arrived , dyma fi"- sef y Seintiau Newydd ar lwyfan Ewrop.

Wedi aros am un mlynedd ar ddeg am lwyddiant yn Ewrop, perfformiodd y Seintiau yn anhygoel nos Fawrth gan chwalu Bohemiaid Dulyn gyda thon ar ôl ton o symudiadau chwim, hyblyg ac ymosodol drwy gydol yr hanner cyntaf.

Ydi hyn yn golygu fod yna newid agwedd am fod yng Nghymru tuag at gynnal - neu beidio â chynnal - pêl-droed drwy'r Haf?

seintiau_bohemians.jpg

Neu ai'r ateb ydi mynnu fod pob tîm yn yr Uwchgynghrair newydd yn gosod caeau artiffisial er mwyn codi safon?

Wedi cymaint o drafod ynglŷn â beth i wneud i wella ansawdd ein timau, a'r Uwchgynghrair, doedd yna ddim lle i gwyno nos Fawrth!

Doedd gan y Gwyddelod yr un syniad ar sut i chwarae ar y cae plastig, na sut i addasu eu dulliau o chwarae ar wyneb gwahanol, gyda'u chwaraewyr yn edrych yn betrusgar, nerfus ac ansicr, ac wrth i'r goliau lifo i mewn yn yr ugain munud agoriadol, ac yn cael eu troi a throsi gan nifer o ymosodiadau bygythiol, roedd hyder hefyd yn prysur ddiflannu a'r ynys werdd yn edrych fel miliynau o filltiroedd i fwrdd!

Ond afallon y Seintiau oedd yr wythnos yma gyda thaith i Wlad Belg i wynebu Anderlecht - cewri'r gêm ym mhrifddinas Gwlad Belg. Bydd y cymal cyntaf ar y Cae Ras yn Wrecsam nos Fawrth, ond petai'r Seintiau ddim yn llwyddo yn y rownd yma, maent yn sicr o gael eu cynnwys yng Nghynghrair Europa ar gyfer y tymor sydd i ddod.

Mae Ewrop yn galw - a gyda chyfoeth o leiaf €500,000 yn cael ei warantu yn sgil y llwyddiant diweddaraf , mae dyfodol y Seintiau ac ansawdd yr Uwchgynghrair yn edrych yn wahanol iawn i'r hyn ag a oedd wythnos yn ôl.

Mae delwedd a phroffil Uwchgynghrair Cymru wedi ei godi ac erbyn heddiw 'dwi'n edrych ymlaen am y tymor newydd mewn ffordd hollol wahanol.

Cân i Keenor

Criw Ar y MarcCriw Ar y Marc|17:53, Dydd Sadwrn, 17 Gorffennaf 2010

Sylwadau (0)

Mae cerddorion amlwg, gan gynnwys Guto Pryce o'r Super Furry Animals, Owen Powell gynt o Catatonia a'r actor Jonathan Owen wedi recordio cân er mwyn codi arian ar gyfer cerflun i goffau Fred Keenor yn Stadiwm Dinas Caerdydd.


Keenor wrth gwrs oedd capten Caerdydd pan enillodd Gwpan FA Lloegr ym 1927.

Sbaen yn bencampwyr teilwng

Ian Gwyn Hughes|10:21, Dydd Mercher, 14 Gorffennaf 2010

Sylwadau (0)

andres_iniesta.jpg'Total Disgrace' oedd y pennawd yn un o'r papurau fore ddydd Llun wedi rownd derfynol Cwpan y Byd rhwng Sbaen a'r Iseldiroedd. Cyfeirio roedd y pennawd wrth gwrs at berfformiad Yr Iseldiroedd a'u hagwedd.

Dyma oedd y wlad oedd wedi cyflwyno Total Football i'r byd yn y 60au hwyr a'r 70au cynnar gyda pherfformiadau timau fel Ajax yn Ewrop, ac yna ar y lefel rhyngwladol gyda chwaraewyr megis Cruyff, Kroll, Neeskens ac yn y blaen, gyda Rinus Michels yn hyfforddwr.

Roedd Ajax yn llwyddiannus ar lefel clwb a'r Iseldiroedd yn cyrraedd rownd derfynol Cwpan y Byd yn 1974 a '78.Yn ddiweddarach cafwyd llwyddiant gyda chwaraewyr fel Gullit, Van Basten a Rijkaard.

'Dw i'n meddwl y byddai'r rhan fwyaf yn cytuno mai dros y mis, Sbaen oedd y tîm gorau. Nid y mwyaf cyffrous efallai, ond o ran tîm nhw heb os sydd yn bencampwyr haeddiannol.

Gwlad â thraddodiad anhygoel ar lefel clwb, gyda llwyddiant Real Madrid a Barcelona, ond wedi methu â throsglwyddo hynny i'r lefel rhyngwladol. Ond bellach wedi gwireddu'r potensial yna ar y lefel ryngwladol fel pencampwyr Ewrop a rŵan pencampwyr y Byd, yn yr un modd â Ffrainc degawd yn ôl.

Mae'n amlwg fod pawb fu yn Ne'r Affrig wedi mwynhau'r profiad, ac nad oedd y problemau o ran diogelwch ac yn y blaen wedi datblygu. Trueni nad oedd pob stadiwm yn llawn, hynny er bod y tocynnau i gyd wedi eu gwerthu ond y cwmnïau mawr oedd wedi eu prynu yn methu â chael gwared ohonyn nhw.

Yn gyffredinol o ran y pêl-droed digon siomedig oedd pethau. Roedd yr edrych ymlaen at berfformiadau unigol gan chwaraewyr megis Messi, Torres, Ronaldo a Rooney. Ond yr un ohonyn nhw yn disgleirio, yn sgorio un gôl rhyngddyn nhw â Ronaldo gyda'r gôl yn erbyn Gogledd Korea.

Ar brydiau, roedd Yr Ariannin yn cyffroi, felly hefyd ymateb eu rheolwr Diego Maradona ar yr ystlys. Yn annisgwyl i lawer, gan gynnwys sawl arbenigwr, Yr Almaen oedd y wlad roedd llawer yn edrych ymlaen at eu gwylio. Yn ymosodol, yn gyffrous, yn meddu â chwaraewyr ifanc talentog, ac yn gallu sgorio goliau. Go brin fod unrhyw un wedi disgwyl iddyn nhw guro'r Ariannin o 4-0. Ag eto fe gollon nhw ddwywaith - dwywaith yn fwy na Seland Newydd, yr unig wlad i beidio â cholli gêm yn Ne'r Affrig.

Ond beth bynnag am safon y gemau yn gyffredinol, fydd gwledydd fel Slofacia, Wrwgwái, Seland Newydd, Paragwâi a Ghana wedi cael modd i fyw wrth wneud yn well na'r disgwyl.

A dyna'r peth, mi allwch chi eistedd mewn stiwdio yn beirniadu safon hyn a'r llall, yr amddiffyn, y tactegau a lladd ar ansawdd y 90 munud. Y peth pwysig ydi cael y profiad o gael gweld eich gwlad yn chwarae yn y rowndiau terfynol, pa un ai yn fyw, mewn sgwâr mewn dinas ar sgrin fawr neu yn y tŷ ar y teledu.

Colli pob gêm a chwarae'n sâl ym Mrasil yn 2014 - fyddai ddim ots gen i pe bai hynny'n digwydd i Gymru. Ond mor braf fyddai cael y cyfle i'n gweld ni yn gwneud hynny.

Pêl-droed yn iaith ryngwladol? Cyfle arall i brofi!

Categorïau:

Criw Ar y MarcCriw Ar y Marc|16:08, Dydd Gwener, 9 Gorffennaf 2010

Sylwadau (0)

Fel wnaethon ni ar ddechrau'r gystadleuaeth, fydd na gyfle arall heddiw i gefnogwyr pêl-droed sy'n siarad Cymraeg ymuno mewn trafodaeth byd-eang am y bêl gron, gyda'n cyfeillion yn y BBC World Service.

Bydd Clonc Cwpan y Byd yn cychwyn am 5pm - dewch draw i roi eich barn am Gwpan y Byd 2010, a'ch proffwydoliaeth chi o bwy fydd yn fuddugol nos Sul. A wyddoch chi'n well na'r octopws?

Ewch draw i Clonc Cwpan y Byd.

Diwedd y (Cwpan) Byd

Glyn Griffiths|14:04, Dydd Gwener, 9 Gorffennaf 2010

Sylwadau (0)

Enw newydd ar enillydd Cwpan y Byd - ond pa un?

Y ffefrynnau i lawer, ers y cychwyn ydi Sbaen, ond ai dyma'r cyfle i'r Iseldiroedd gyflawni'r hyn a fethwyd a chyflawni gan eu rhagflaenwyr?

Mae chwarae Sbaen wedi ei selio ar feistroli canol cae, gyda dau chwaraewr yn angori yn amddiffynnol o flaen y cefnwyr (Xabi Alonso a Sergio Busquets) a hyn yn rhyddhau'r gweddill o'u cwmpas i ymosod, ond fel y gwelwyd yn y rownd gyn derfynol yn erbyn yr Almaen, cadw meddiant ac aros yn amyneddgar am y bylchau ydi'r cynllun.

sbaen.jpg

Ar y llaw arall mae'r Iseldiroedd, sydd hefyd yn cadw dau chwaraewr yn dynn o flaen eu hamddiffyn. Mae Mark van Bommel a Demy de Zeeuw neu Nigel de Jong yn dibynnu llawer ar Wesley Sneijder yn greadigol, ac mae gen i deimlad os gellir cadw Sneijder yn dawel yna fe ellir cadw'r Iseldiroedd yn dawel.

Wedi dweud hynny os gall Giovanni van Bronckhorst sgorio'n annisgwyl ac yn gyffrous o bell, fel ac y gwnaeth yn erbyn Uruguay, yna gall unrhyw beth ddigwydd.

Mae'n argoeli am gêm ddiddorol - gêm i'r rhai sy'n hoffi pêl-droed pur o galon hwyrach - ond i eraill, mewn gair syml gêm ddiflas o bosib!

Gair hefyd i ddweud fod y dyfarnwr gorau a welwyd yn y gystadleuaeth yn fy marn i hefyd wedi cyrraedd y ffeinal - Howard Webb.

iseldiroedd.jpg

Tybed faint o batrymau gwe a welir ar y cae wrth i'r ddau dîm fod mor weithgar â phryfaid cop yn nyddu a thynnu wrth geisio llafurio i greu eu campwaith eu hunain yn stadiwm y Soccer City yn Johannesburg nos Sul?

Mwynhewch yr achlysur, a bydded i'r tîm buddugol gael ei glodfori a'i goroni yn sŵn utgyrn y vuvuzelas.

Methiant rhyngwladol

Glyn Griffiths|14:18, Dydd Iau, 1 Gorffennaf 2010

Sylwadau (2)

Petaech chi'n byw gerllaw'r A55, yna fe fyddwch yn hollol ymwybodol o faint o gefnogwyr pêl-droed o Ogledd Cymru sydd yn ei heidio am Fanceinion neu Lerpwl ar benwythnosau a chanol wythnos i gefnogi eu hoff dîm pêl-droed.

Byddwch hefyd yn ymwybodol nad ydi llawer o'r teithwyr yma erioed wedi mynychu unrhyw gêm yn Uwchgynghrair Cymru - er iddynt ystyried eu hunain yn Gymry rhonc ac yn gwawdio unrhyw un a feiddiai chwifio baner San Siôr yn ystod Cwpan y Byd.
lloegr.jpg

Ond mae cefnogi Lerpwl neu Manchester United yn hollol wahanol ond ydi!
Ie wir, tydi rhai pobol am ei chael hi ddwy ffordd, ac yn meddu ar safonau dwbl!

Mae'n eithaf clir fod gan brif glybiau Uwchgynghair Lloegr ddyledion a'u bod yn dibynnu ar gyrraedd Cystadlaethau Ewrop sef Cynghrair y Pencampwyr yn bennaf fel achubiaeth neu gynhaliaeth os am leihau eu dyledion ac aros ymysg y timau gorau ar y brig.

Er mwyn cyflawni hyn, mae'r timau yma yn llawn dop o dramorwyr a all, yn ôl perchnogion a rheolwyr y clybiau, ddod ac achubiaeth ariannol iddynt.

Does ryfedd felly na all tîm Lloegr lwyddo. Does yna ddim digon o chwaraewyr da yn chwarae'n gyson ac yn rheolaidd yn yr Uwchgynghrair i allu cynnal tîm llwyddiannus ar y llwyfan rhyngwladol.

Ydi'r timau yma am gymryd siawns a rhoi chwaraewyr dibrofiad ifanc yn eu timau yn gyson, pan ellir prynu sêr byd eang profiadol yn eu lle?

Petai chi wedi prynu tîm yn Lloegr ac am wneud elw o'ch buddsoddiad, a fydda' chi'n fodlon eich byd petai'r rheolwr yn dibynnu ar y rhai ifanc dibrofiad er mwyn sicrhau fod Lloegr yn cael mwy o chwaraewyr addawol i'r dyfodol, ac yn rhoi llwyddiant ac elw ariannol y clwb yn ail i ofynion y genedl?

Does rhyfedd na all eu tîm cenedlaethol lwyddo.

Yn anffodus mae chwaraewyr ifanc Cymru o dan yr un drefn, o dan yr un gyfundrefn hyfforddi ac o dan ofalaeth yr union reolwyr a pherchnogion sydd ddim yn poeni am ganlyniadau na pherfformiadau timau cenedlaethol Cymru, Lloegr nac unrhyw wlad arall.

A fydda' chi yn fodlon aberthu eich elw, a'ch buddsoddiad mewn clwb sydd mewn dyled er mwyn gweld Cymru yn cyrraedd ffeinals Cwpan y Byd, neu Bencampwriaeth Ewrop? Sgersli belief!

Hyd nes bydd yna newid yn agwedd hunanol clybiau Lloegr, alla'i ddim gweld unrhyw olau ar ddiwedd y twnnel o anobaith mae Uwchgynghair Lloegr wedi ei greu.

Bydd y cefnogwyr unllygeidiog, gan gynnwys y Cymry hynny sydd heb unrhyw synnwyr ble mae caeau pêl-droed Bangor na Phrestatyn wedi eu lleoli, yn parhau i deithio ar hyd yr A55, yn parhau i ganu eu hanthemau Seisnig, ac yn parhau i feio Cymdeithas Bêl Droed Cymru am bopeth sydd o'i le gan na allwn roi tîm o unrhyw safon ar y cae mewn gemau rhyngwladol.

Edrychwch ychydig nes adra, bois!

BBC © 2014Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.