Gwrthwynebu'r perchnogion
Wrth edrych ar y doreth o brotestio sydd yn cael ei gynnal ar Lannau Mersi yn erbyn perchnogion Lerpwl - Tom Hicks a George Gillett ac yn Manchester United yn erbyn teulu'r Glazers, rhaid amau os ydi'r gêm wedi cyrraedd y man lle mae cefnogwyr lleol yn saethu'r fwled olaf i geisio dychwelyd pethau yn ôl i'w gwreiddiau lleol.
Mae gobaith cefnogwyr United yn gorwedd ar ysgwyddau grŵp y Red Knights, sef criw o ddynion busnes cyfoethog sydd yn ceisio prynu'r clwb gan deulu'r Glazers.
Byrdwn anghydfod Lerpwl ydi'r dyledion mae'r Americanwyr wedi eu gosod ar y clwb.
Ychydig iawn oedd yn dangos gwir ddiddordeb yn ymgais y Red Knights, hyd nes i David Beckham godi sgarff gwyrdd a melyn, (sydd yn gysylltiedig â'r mudiad yn erbyn y Glazers), a'i osod o amgylch ei wddf nos Fercher ar ddiwedd y gêm yn erbyn AC Milan.

Dyma, yn ôl llefarydd ar ran y Red Knights, yw'r hysbysiad mwyaf arwyddocaol eto fod eu hymdrech yn un i'w hystyried o ddifrif.
Ond pam ddylai'r Glazers wrando ar unrhyw un?
Ceisio gwneud elw ar gefn Manchester United mae'r Americanwyr - ac yn hollol ffyddiog y byddant yn gwneud hyn yn yr hir dymor.
Ond ai sefydliad i wneud elw i'r perchnogion ydi Manchester United, neu unrhyw glwb arall, neu glwb lleol, llwyddiannus sydd yn rhan annatod o'r gymdeithas o'i amgylch?
Ai ymdrech i ddod yn rhan annatod o fywyd tref Portsmouth oedd bwriad y gwahanol berchnogion a fu yno yn ddiweddar, neu fethiant i wneud elw ar gefn timau a chefnogwyr?
Hwyrach y bydd canlyniad ymgais y Red Knights yn hollol allweddol i ddyfodol pêl-droed yn Uwchgynghrair Lloegr - ac yn y cynghreiriau eraill o bosib - a bydd eu hymgais i brynu'r clwb yn ein harwain at wynebu'r dyfodol yn ddoethach, ond hyd yn hyn does wybod os fydd hynny yn fwy trist neu yn fwy bodlon ein byd.
Trin a thrafod y byd pêl-droed yn ffordd unigryw criw 
SylwadauAnfon sylw
Wrth son am brotestio yn erbyn perchnogion y clybiau - beth am agosach i gartref - a'r brotest yn erbyn Peter Ridsdale (Caerdydd).
Brif nod PR oedd i sortio allan y trafferthion ariannol wnaeth Sam Hamman ei adael ond mae'r clown yma wedi llwyddo i wneud fwy o lanast ac mwy na thebyg gyrru y clwb tua "administration".
tydy'r helyntion yn Wresam ddim wedi diflannu chwaith, gyda llawer o bethau amheus yn digywdd tu ol i'r llenni, wrth i'r perchnogion presenol symud perchnogaeth y maes o ddwylo un cwmni i'r llall. Mae gan Ymddiriedolaeth Cefnogwyr Wrecsam £600,000 yn y banc ac yn torri eu boliau i fuddsoddi yn y clwb i wella'r tim, ond dim ond ar yr amod eu bod yn derbyn rhyw fath o gynrychiolaeth ar y bwrdd rheoli. Bu'r perchnogion yn gaddo cyfarfod, ond nawr nid ydynt yn ymateb ebyst na llythyrau. Digalon.
Ar un llaw, mae eisiau i glybiau ymdebygu yn fwy i funesau drwy geisio gwenud elw (neu cyfro costau o leiaf) ond ni ddylid trin cefnogwyr fel cwsmeriaid.