Goliau cofiadwy
Wedi'r siom yn erbyn Sweden yn Stadiwm Liberty nos Fercher diwethaf, mae'n ddigon hawdd i ni awchu am y dyddiau a fu.
Ac roedd 'na gyfnod pan oedd Cymru yn cystadlu gyda goreuon y byd.
Pwy all anghofio'r gôl hon ym Mehefin 1991 gyda Ian Rush yn sgorio yn y fuddugoliaeth yn erbyn pencampwyr y byd yr Almaen ar Barc yr Arfau.
Ai dyma'r gôl mwyaf cofiadwy erioed yn hanes tîm Cymru? Neu a oes goliau eraill sydd yn sefyll allan?
Diddorol nodi yr oedd mab Ian - John - ymysg y sgorwyr i Derwyddon Cefn yn erbyn Llanelli yn Uwchgynghrair Cymru y Sadwrn diwethaf.

Trin a thrafod y byd pêl-droed yn ffordd unigryw criw 
SylwadauAnfon sylw
Y gol mwyaf cofiadwy i mi yw gol Marc Hughes yn erbyn Sbaen yn 1985 - Y Cic Siswrn
Mae'n rhaid i mi gytuno Mr Picton. Honno oedd y gêm ryngwladol gyntaf i mi fynd i’w gweld (yn fachgen diniwed 8 mlwydd oed!). Mae hi wedi bod lawr allt ers hynny!
Oedd dwy gôl Rush y noson yna yn rhai da hefyd os dwi’n cofio’n iawn – er fedrai ddim eu gweld nhw yn fy mhen gystal ag un Hughes chwaith.
Os am gol o safon, allai ddim llai na chytuno hefo Mr. Picton. Fodd bynnag os am gol gofiadwy, beth am gol Craig Bellamy yn erbyn yr Eidal yn 2002? Gwell fyth am y ddrama feddyliwn i!