Help / Cymorth

Archifau Mehefin 2009

Nawr neu nefar yn Ewrop

Glyn Griffiths|17:50, Dydd Llun, 22 Mehefin 2009

Sylwadau (0)

Unwaith eto.rydym wedi cyrraedd ar adeg honno o'r flwyddyn pan mae timau Cymru wedi cael gwybod i bwy maent am golli yng nghystadlaethau Ewrop.

Hwyrach bod y gosodiad braidd yn anheg ond mae trio meddwl am y Rhyl yn curo FK Partizan Belgrad - tîm sydd eisoes wedi chwarae yn y rownd derfynol yn erbyn Real Madrid yn y chwedegau - braidd yn anodd i'w ddychmygu.

Felly hefyd Llanelli i guro Motherwell o'r Alban, ond gyda'r Albanwyr heb dîm rheoli ar hyn o bryd, hwyrach y gall ysgogiad newydd Andy Legg arwain bois y Sosban i ganlyniad annisgwyl.

O leiaf ni all y Rhyl na Llanelli ddefnyddio y ffaith fod tymor eu gwrthwynebwyr wedi dechrau ers rhai wythnosau.

Gobaith o bosib i'r Seintiau Newydd gyda siwrnai i Wlad yr Iâ i wynebu Fram Reykjavik o'u blaenau, ac os na chaiff Bangor ganlyniad 'hunky dory' yn erbyn tîm o'r Ffindir, o'r enw Honka, mi fydd yn 'honky tonk blues' ar Ffordd Farrar am dymor arall.

Talcen caled, o bosib, a rheswm arall am gael gwell safon a chael mwy o dimau llawn amser yn ein Cynghrair Cenedlaethol.

Rwyf ond yn gobeithio na chlywn eto yr esgus ein bod wedi dysgu rhywbeth a bod y profiad wedi bod yn un llewyrchus ar gyfer y dyfodol.

Ar ôl mwy na deng mlynedd o gystadlu ar lwyfannau Ewrop, mae'r dyfodol wedi cyrraedd, ac mae'r bryd dangos beth yn union yr ydym wedi ei ddysgu a sut i'w wireddu.

Creu dryswch a dadrith?

Glyn Griffiths|15:26, Dydd Iau, 18 Mehefin 2009

Sylwadau (0)

Ydi Cymdeithas Bêl Droed Cymru wedi taro deuddeg gyda'r datblygiad diweddaraf yng nghyfansoddiad Uwchgynghrair Cymru, neu wedi baglu ar y ffordd gan greu dryswch a dadrith?

Dechreuwyd gyda deunaw, ac erbyn heddiw mae'n eithaf teg i ddweud nad yw Uwchgynghrair o'r maint yma yn gallu cynnal safonau uchel, ar lefel cenedlaethol.

Does dim ond angen edrych ar ganlyniadau timau Cymru yn Ewrop i ddeall hyn.

Awgrymwyd deg, gan godi gwrychyn, ond o leiaf fe wnaeth i ni wynebu'r realiti fod rhaid newid rhywbeth.

Ond yr wythnos diwethaf newidiwyd y deg yn ddeuddeg, gyda chwech os nad wyth, o dimau, yn wynebu disgyn allan o'r Uwchgynghrair, ac yn cael eu disodli gan ddau dîm, na fu yn agosach at yr Uwchgynghrair yn eu bywydau na fu mul i ddod yn agos at ennill y Grand National.

Ond mae cymhlethdod eto, sef os llwyddir i ennill dyrchafiad i Uwchgynghrair yr addewid, bydd rhaid ymateb a gofynion gweinyddol ( ystyriwch ffawd ENTO Aberafan eleni).

Yn sgil hyn, fe all un, neu hwyrach ddau o dimau a fu yn wynebu diflaniad i gynghrair rhanbarthol yn cael atgyfodiad sydyn.

Os am wybod sut y gall hyn effeithio ar gynllunio ar gyfer y dyfodol, gofynnwch i Gaersws!

Dryswch neu ddull o sicrhau gwelliant ar y cae, yn ogystal ag oddi ar y cae, neu'r Gymdeithas Bêl Droed yn cael eu hunain mewn dau gae?

A oes barn gennych, neu a ydych yn hollol ddifater, ac yn hapus eich byd yn gwneud dim gwell na chwyno?

Ymuno gyda'r 'mob'

Glyn Griffiths|10:51, Dydd Gwener, 12 Mehefin 2009

Sylwadau (0)

Disgrifiodd Syr Alex Ferguson glwb Real Madrid fel y mob, ac nad oedd hyd yn oed yn fodlon gwerthu feirws iddynt!

Erbyn hyn mae Godfather Old Trafford wedi darganfod ffordd o gyd weithio gyda'r mob o Madrid, ac yn barod i werthu athrylith iddynt, yn hytrach nac afiechyd.

Flwyddyn yn ôl, roedd meddwl am werthu Cristiano Ronaldo i Real Madrid yn cael ei ystyried o fewn coridorau Old Trafford gyda'r un atgasedd ac ymgais Al Capone i werthu diodydd meddwol yn strydoedd Chicago yn y dau a'r tri degau.

Rhoddwyd gwaharddiad gan y marchog rhag gwerthu y tywysog a sgoriodd dros bedwar deg o goliau ac a oedd yn rhan allweddol o'r tim a enillodd Cynghrair y Pencampwyr yn 2008.

Ond yna wedi dangos anfodlonrwydd cyhoeddus yn ystod y tymor, ac agwedd hunanol ar y cae, yn ogystal ac ymddangos fel petae yn cystadlu yn erbyn Didier Drogba ( blaenwr Chelsea) am y wobr o ddeifiwr gorau'r Uwchgynghrair, ymddengys mai digon yw digon, a bod Syr Alex wedi cael digon ar y stranciau hunanol, a bod gan pawb a phopeth ei bris.

Os mai'r mob oedd Real Madrid, yna roedd Syr Alex fel Eliot Ness, yn barod i gael y gorau ohonynt, a derbyn crocbris o £80 miliwn am yr hyn a oedd ar un adeg yn waharddedig!

Ymddengys fod dyddiau Ronaldo, yn Old Trafford o leiaf, y tu cefn iddo, a bod £80 miliwn yn fwy na fuasai unrhyw un wedi meddwl am dderbyn amdano.

Cred Real Madrid y gallant gasglu yr arian yma yn ôl mewn dwy flynedd drwy hysbysu a marchnata, a gyda Kaka hefyd ymysg y Galacticos newydd, bydd yna tipyn o werthu yn mynd ymlaen.

Pan aeth David Beckham i Real Madrid yn 2003, gwnaethpwyd elw o £360 miliwm mewn marchnata crysau, gan gynhyddu elw Real Madrid i 137% dros bedair blynedd. Bydd disgwyl am elw tebyg os nad mwy yn enw CrysT Ronaldo, a chenhadaeth Kaka.

Pwy felly sydd wedi elwa fwyaf?

A fydd Syr Alex yn chwerthin yr holl ffordd i gronfa cyllid y Glazers, neu a fydd bancwyr Real Madrid yn rhwbio eu dwylo wrth gyfri'r elw eithafol a ddaw ar gefn enwau enwogion y Galacticos newydd?

Diwedd y daith

Owain Llyr|05:48, Dydd Llun, 8 Mehefin 2009

Sylwadau (0)

Mae'n anodd credu bod yr antur fawr bron iawn drosodd. Dwi wrthi'n ysgrifennu'r blog yma yn y maes awyr yn Riga yn Latvia tra'n disgwyl am ein hawyren adref i Lundain, ar ôl hedfan yma o Baku bore 'ma. Mae pawb yma'n siomedig bod y daith bellach bron drosodd, ond mae wedi bod yn brofiad bythgofiadwy, ac yn rhywbeth y byddem yn ei siarad amdano am fisoedd i ddod

Y tro diwethaf i mi ysgrifennu blog, fe'r oeddem yn Sunny Beach yn Bwlgaria ar ôl i Val y fan dorri lawr. Torrodd un o'r ceir eraill i lawr cyn cyrraedd Bwlgaria hefyd, felly er mwyn gwneud yn siwr bod gennym ddigon o le i gario'r holl nwyddau i'r cartrefi plant, fe ddaliodd rai ohonom fws o Bwlgaria i Istanbul, cyn llogi car i ddreifio trwy Twrci, cyn neidio mewn i'r llefydd sbar yn y ceir er mwyn croesi mewn i Georgia.

Treuliom ddwy noson yn Kutaisi yn Georgia - dinas sydd wedi gefeillio gyda Chasnewydd ers rhai blynyddoedd bellach, a mi gafon ni groeso anhygoel yno. Bwyd am ddim, cael cyfarfod Maer y ddinas a chael cyfle i ymweld â llawer o lefydd diddorol o fewn y ddinas. Buodd rhaid i saith ohonom fynd i'r Brifysgol yno a siarad o flaen tua 150 o fyfyrwyr am Gymru a pam yn union yr oeddem yn dreifio trwy Ewrop. Chwaraeom gêm bel droed yno hefyd yn erbyn tîm o gefnogwyr Georgia gan golli 5-1. Ond i fod yn deg, doedd yr un ohonom erioed wedi chwarae mewn tymheredd o'r fath o'r blaen (dyna fy esgus i beth bynnag!!)

Fe adawom y ceir i elusennau da yn Kutaisi gan ein bod wedi cael gwybod cyn dechrau'r daith na fuasem yn cael eu dreifio mewn i Azerbaijan. Felly trefnodd bobl Kutaisi fws i ni i Azerbaijan, ac fe groesom mewn i'r wlad bore iau diwethaf. Fe aethom i rai cartrefi plant ar y ffordd i Baku, ac roedd hi wir yn bleser gweld gwynebau rhai o'r plant pan yr oeddem yn rhoi nwyddau a phresantau iddynt - mi oedden nhw wrth eu boddau

Ac yna i goroni'r cwbwl, mi gafon ni fuddugoliaeth nos Sadwrn o gol i ddim! Dim ond 78 o gefnogwyr Cymru oedd yn y dorf o 30,000 - ond doedd neb yn poeni am hynny. Mi fuon yn canu am yr awr a hanner, ac ar y diwedd daeth John Toshack drosodd atom gan ddweud diolch yn fawr am y gefnogaeth.

Felly dyna ni - un taith awyren arall a mi fydd y daith drosodd. Cofiwch am 'Ar y Marc' bore Sadwrn am 8.30 lle gewch glywed uchafbwyntiau'r daith. Fe'r ydym i gyd yn gobeithio yn awr y cawn Kazakstan yn y rowndiau rhagbrofol nesaf. Rhywun ffansi dreifio yno?!

Beth ydi pris llwyddiant?

Glyn Griffiths|14:59, Dydd Gwener, 5 Mehefin 2009

Sylwadau (0)

Colli eich rheolwr i Wigan Athletic?

Gyda Roberto Martinez, a'i olygon ar Wigan Athletic, lle roedd ar un adeg, yn chwaraewr canol cae, ac yn un o dri Sbaenwr a ddaeth i gael eu hadnabod fel y 'Tri Amigo'.

Pwy felly fydd yr amigo newydd i gefnogwyr yr Elyrch ar y Liberty?

Hwyrach fod Martinez wedi rhoi tipyn o haearn Sbaen i mewn i chwarae Abertawe, yn ogystal â thipyn o steil cyfandirol, ond beth am iddynt droi at dref yr haearn a thim yr 'Irons', ar lannau'r afon Humber am yr olynydd?

All cyfarwyddwyr Abertawe fforddio anwybyddu galluoedd a chymeriad cadarn cyn-reolwr Bangor a rheolwr presennol Scunthorpe United, Nigel Adkins, y gringo o Gilgwri, fel olynydd posibl i Martinez?

Mae Adkins newydd ennill dyrchafiad gyda Scunthorpe i'r Bencampwriaeth. Serch hynny, nid clwb cyfoethog ydi Scunthorpe, ac fe all Adkins ddarganfod ei hun mewn sefyllfa heb unrhyw fath o gefnogaeth ariannol, nac adnoddau addas i gryfhau y tim.

Mae rhywun yn credu fod Adkins wedi gwenud cymaint ag y gall yn Scunthorpe, ac heb yr arian i greu tim haeaernaidd disglair yn y Bencampwriaeth, hwyrach fod yr amser wedi cyrraedd iddo wynebu sialens newydd, yn hytrach na brwydro i gadw ei dim presennol rhag disgyn yn ôl i Gynghrair Un.

Muchas gracias, ac adios amigo felly i Roberto Martinez?

Tybed a ddylai Abertawe ddweud buenos dias a chroeso yn ôl i Gymru i Nigel Adkins?

BBC © 2014Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.