Help / Cymorth
« Blaenorol|Hafan|Nesaf »

Diwedd y daith

Owain Llyr|05:48, Dydd Llun, 8 Mehefin 2009

Mae'n anodd credu bod yr antur fawr bron iawn drosodd. Dwi wrthi'n ysgrifennu'r blog yma yn y maes awyr yn Riga yn Latvia tra'n disgwyl am ein hawyren adref i Lundain, ar ôl hedfan yma o Baku bore 'ma. Mae pawb yma'n siomedig bod y daith bellach bron drosodd, ond mae wedi bod yn brofiad bythgofiadwy, ac yn rhywbeth y byddem yn ei siarad amdano am fisoedd i ddod

Y tro diwethaf i mi ysgrifennu blog, fe'r oeddem yn Sunny Beach yn Bwlgaria ar ôl i Val y fan dorri lawr. Torrodd un o'r ceir eraill i lawr cyn cyrraedd Bwlgaria hefyd, felly er mwyn gwneud yn siwr bod gennym ddigon o le i gario'r holl nwyddau i'r cartrefi plant, fe ddaliodd rai ohonom fws o Bwlgaria i Istanbul, cyn llogi car i ddreifio trwy Twrci, cyn neidio mewn i'r llefydd sbar yn y ceir er mwyn croesi mewn i Georgia.

Treuliom ddwy noson yn Kutaisi yn Georgia - dinas sydd wedi gefeillio gyda Chasnewydd ers rhai blynyddoedd bellach, a mi gafon ni groeso anhygoel yno. Bwyd am ddim, cael cyfarfod Maer y ddinas a chael cyfle i ymweld â llawer o lefydd diddorol o fewn y ddinas. Buodd rhaid i saith ohonom fynd i'r Brifysgol yno a siarad o flaen tua 150 o fyfyrwyr am Gymru a pam yn union yr oeddem yn dreifio trwy Ewrop. Chwaraeom gêm bel droed yno hefyd yn erbyn tîm o gefnogwyr Georgia gan golli 5-1. Ond i fod yn deg, doedd yr un ohonom erioed wedi chwarae mewn tymheredd o'r fath o'r blaen (dyna fy esgus i beth bynnag!!)

Fe adawom y ceir i elusennau da yn Kutaisi gan ein bod wedi cael gwybod cyn dechrau'r daith na fuasem yn cael eu dreifio mewn i Azerbaijan. Felly trefnodd bobl Kutaisi fws i ni i Azerbaijan, ac fe groesom mewn i'r wlad bore iau diwethaf. Fe aethom i rai cartrefi plant ar y ffordd i Baku, ac roedd hi wir yn bleser gweld gwynebau rhai o'r plant pan yr oeddem yn rhoi nwyddau a phresantau iddynt - mi oedden nhw wrth eu boddau

Ac yna i goroni'r cwbwl, mi gafon ni fuddugoliaeth nos Sadwrn o gol i ddim! Dim ond 78 o gefnogwyr Cymru oedd yn y dorf o 30,000 - ond doedd neb yn poeni am hynny. Mi fuon yn canu am yr awr a hanner, ac ar y diwedd daeth John Toshack drosodd atom gan ddweud diolch yn fawr am y gefnogaeth.

Felly dyna ni - un taith awyren arall a mi fydd y daith drosodd. Cofiwch am 'Ar y Marc' bore Sadwrn am 8.30 lle gewch glywed uchafbwyntiau'r daith. Fe'r ydym i gyd yn gobeithio yn awr y cawn Kazakstan yn y rowndiau rhagbrofol nesaf. Rhywun ffansi dreifio yno?!

BBC © 2014Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.