Help / Cymorth
« Blaenorol|Hafan|Nesaf »

Ymuno gyda'r 'mob'

Glyn Griffiths|10:51, Dydd Gwener, 12 Mehefin 2009

Disgrifiodd Syr Alex Ferguson glwb Real Madrid fel y mob, ac nad oedd hyd yn oed yn fodlon gwerthu feirws iddynt!

Erbyn hyn mae Godfather Old Trafford wedi darganfod ffordd o gyd weithio gyda'r mob o Madrid, ac yn barod i werthu athrylith iddynt, yn hytrach nac afiechyd.

Flwyddyn yn ôl, roedd meddwl am werthu Cristiano Ronaldo i Real Madrid yn cael ei ystyried o fewn coridorau Old Trafford gyda'r un atgasedd ac ymgais Al Capone i werthu diodydd meddwol yn strydoedd Chicago yn y dau a'r tri degau.

Rhoddwyd gwaharddiad gan y marchog rhag gwerthu y tywysog a sgoriodd dros bedwar deg o goliau ac a oedd yn rhan allweddol o'r tim a enillodd Cynghrair y Pencampwyr yn 2008.

Ond yna wedi dangos anfodlonrwydd cyhoeddus yn ystod y tymor, ac agwedd hunanol ar y cae, yn ogystal ac ymddangos fel petae yn cystadlu yn erbyn Didier Drogba ( blaenwr Chelsea) am y wobr o ddeifiwr gorau'r Uwchgynghrair, ymddengys mai digon yw digon, a bod Syr Alex wedi cael digon ar y stranciau hunanol, a bod gan pawb a phopeth ei bris.

Os mai'r mob oedd Real Madrid, yna roedd Syr Alex fel Eliot Ness, yn barod i gael y gorau ohonynt, a derbyn crocbris o £80 miliwn am yr hyn a oedd ar un adeg yn waharddedig!

Ymddengys fod dyddiau Ronaldo, yn Old Trafford o leiaf, y tu cefn iddo, a bod £80 miliwn yn fwy na fuasai unrhyw un wedi meddwl am dderbyn amdano.

Cred Real Madrid y gallant gasglu yr arian yma yn ôl mewn dwy flynedd drwy hysbysu a marchnata, a gyda Kaka hefyd ymysg y Galacticos newydd, bydd yna tipyn o werthu yn mynd ymlaen.

Pan aeth David Beckham i Real Madrid yn 2003, gwnaethpwyd elw o £360 miliwm mewn marchnata crysau, gan gynhyddu elw Real Madrid i 137% dros bedair blynedd. Bydd disgwyl am elw tebyg os nad mwy yn enw CrysT Ronaldo, a chenhadaeth Kaka.

Pwy felly sydd wedi elwa fwyaf?

A fydd Syr Alex yn chwerthin yr holl ffordd i gronfa cyllid y Glazers, neu a fydd bancwyr Real Madrid yn rhwbio eu dwylo wrth gyfri'r elw eithafol a ddaw ar gefn enwau enwogion y Galacticos newydd?

BBC © 2014Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.