Darllen: Video playlist

Part ofCymraegDarllen

Now playing video 7 of 20

Chwarel Lechi Llechwedd

Description

Archif yn dangos chwarelwyr wrth eu gwaith yn chwarel Llechwedd, Blaenau Ffestiniog. Dangosir ffrwydrad yn y chwarel, gweithwyr yn torri ac yn casglu’r llechi ar yr wyneb, yna clipiau o’r llechi yn cael eu hollti a’u trin. O’r gyfres ‘Hyn o Fyd’ a ddarlledwyd gyntaf ar 24 Chwefror 1983.

Classroom Ideas

Mae’r clip hwn yn symbyliad gweledol da ar gyfer gwaith ysgrifennnu creadigol neu ffeithiol ar fywyd y chwarelwr. Gellir cael y disgyblion i ymateb yn ddychmygus trwy ysgrifennu ymson neu ddyddiadur chwarelwr. Mae yma wybodaeth hefyd a all ysgogi gwaith cyflwyno gwybodaeth ar waith y chwarelwr. Gallai’r clip hefyd fod yn symbyliad ar gyfer gwaith llafar e.e. chwarae rôl - sgwrs rhwng dau gyfaill yn y chwarel.