Darllen: Video playlist

Part ofCymraegDarllen

Now playing video 20 of 20

Boddi Pentref

Description

Ffilm o bentref wedi’i foddi. Adeiladwyd y model mewn stiwdio teledu er mwyn cofio boddi pentref Capel Celyn yn ardal y Bala ym 1965. Boddwyd y pentref hwn a’r cwm o’i gwmpas gan Gyngor Dinas Lerpwl er mwyn adeiladu cronfa ddŵr Tryweryn (er gwaethaf protestiadau mawr yng Nghymru ar y pryd). Cyn boddi Capel Celyn, chwalwyd yr adeiladau i’r llawr a symudwyd y fynwent i ardal arall, felly mae’r ffilm yn gamarweiniol i raddau. Mae wedi’i chynnwys yma am ei bod yn codi ymateb emosiynol gan y gwyliwr, sy’n adlewyrchu teimladau cyn-bentrefwyr Capel Celyn.

Classroom Ideas

Gellir defnyddio’r clip hwn i atgyfnerthu gwaith ar Gantre’r Gwaelod, boddi pentref Capel Celyn neu foddi unrhyw ardal am ba reswm bynnag. Gall arwain at ymateb emosiynol a theimladol gan y disgyblion ar lafar neu yn ysgrifenedig. Gall hefyd sbarduno gwaith creadigol, cyflwyno gwybodaeth neu gyflwyno barn a safbwynt. Gellid gwylio’r clip i annog gwaith dramatig a chael y disgyblion i sgriptio ac actio cyfres o olygfeydd yn seiliedig ar gynlluniau i foddi eu hardal hwy. Byddai’n bosib ei ddefnyddio hefyd fel sbardun i greu darn o farddoniaeth gan ddefnyddio’r delweddau gweledol fel arf i greu cymariaethau, trosiadau a phersonoliadau.