Ymgyrch i Sefydlu S4C
Description
Dangosir yr ymgyrch i roi pwysau ar lywodraeth San Steffan i ddarparu sianel deledu Gymraeg i Gymru. Gwelir y protestiadau yn y 1970au a rhan Gwynfor Evans yn yr ymgyrch wrth iddo fygwth ymprydio ym 1980. Canlyniad yr ymgyrch hon oedd sefydlu S4C ym 1982.
Classroom Ideas
Gall y clip hwn fod yn sbardun i drafodaeth lafar ar werth S4C a barn y disgyblion am raglenni’r sianel. Pa mor aml y maent yn gwylio S4C a pha raglenni sy’n apelio atynt hwy? Gellir creu holiadur a chynnal arolwg am y sianel ymysg disgyblion a rhieni’r ysgol. Byddai’n bosib troi’r canlyniadau yn graffiau cyn eu dehongli a’u dadansoddi. Byddai modd defnyddio’r canlyniadau i greu adroddiad ysgrifenedig yn cyflwyno syniadau’r disgyblion am y math o sianel hoffen nhw ei weld. Gall y clip ysbrydoli gwaith creadigol ar destun ‘Y Brotest’ ar ffurf stori fer, drama, ymson neu ddyddiadur.
Now playing video 17 of 20
- 1:41

- 2:21

- 1:08

- 1:18

- 2:31

- 10 of 20
1:00
- 1:08

- 14 of 20
2:31
- 16 of 20
1:50
- Now playing2:01

- Up next3:53

- 1:04
