Darllen: Video playlist

Part ofCymraegDarllen

Now playing video 6 of 20

Effro i Fyd Natur

Description

Dangosir Coed Felinrhyd ger Maentwrog yn Eryri, gan nodi newidiadau amgylcheddol sy’n digwydd yn yr ardal ac wedi eu hachosi gan gynhesu byd-eang.

Classroom Ideas

Gellir defnyddio’r clip hwn fel ysgogiad i’r disgyblion i ymchwilio ymhellach i effeithiau cynhesu byd eang. Yna gellir gofyn iddyn nhw i gyflwyno gwybodaeth, esbonio neu roi cyfarwyddiadau ar ffurf poster neu erthygl am ei effeithiau neu am bwysigrwydd gwneud ein rhan i warchod y blaned. Gellir trefnu cyfarfod cyhoeddus yn y dosbarth a chael y disgyblion i chwarae rôl carfannau amrywiol wrth iddyn nhw drafod y dadleuon sy’n codi. Mae cyfle yma hefyd i gyflwyno pedwaredd cainc y Mabinogi a hanes Gwydion yn lladd Pryderi. Ar ôl darllen pytiau o’r chwedl gall y disgyblion droi’r hanes yn stribed cartŵn neu’n olwyn stori. Mae modd hefyd sgriptio a dramateiddio’r chwedl a’i chyflwyno i weddill y dosbarth.